Neidio i'r prif gynnwy

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Prif ganlyniadau

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu tua 172 miliwn o eitemau o PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 21 Mehefin 2020, darparwyd dros 13 miliwn o eitemau.
Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd, hyd at 21 Mehefin 2020
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 21 Mehefin 2020
Ffedogau 29,311,550 1,462,150
Bagiau cyrff 7,643 40
Amddiffynnydd llygaid 1,600,124 0
Masgiau math II 368,100 10,250
Masgiau math IIR 49,689,866 4,152,105
Masgiau FFP2 20,700 0
Masgiau FFP3 1,205,392 139,300
Feisorau wyneb 1,842,543 253,733
Gosod citiau profi a darnau sbâr 4,483 63
Menyg 83,842,450 6,896,400
Menyg â chyffiau 800,350 32,050
Gynau (gwrth-hylif) 875,855 48,940
Gynau (arall) 138,104 6,491
Hylif diheintio dwylo 143,912 5,731
Clytiau diheintio dwylo 2,148,100 112,450
Cyfanswm 171,999,172 13,119,703

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 21 Mehefin 2020.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 2 Gorffennaf.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru

3. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jon Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 66/2020