Darparu eitemau cyfarpar diogelu personol: hyd at 2 Awst 2020
Diweddariad gwybodaeth rheoli ar eitemau cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd wedi’u darparu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) hyd at 2 Awst 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Ffigurau penawdau cenedlaethol
Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Prif ganlyniadau
- Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu dros 253.5 miliwn o eitemau o PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd dros 115.5 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
- Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 2 Awst 2020, darparwyd 11 miliwn o eitemau.
Eitem | Ers 9 Mawrth | Yn y saith diwrnod hyd at 2 Awst |
---|---|---|
Ffedogau | 47,282,775 | 1,645,700 |
Bagiau cyrff | 7,674 | 5 |
Cyfarpar amddiffyn llygaid | 1,602,658 | 120 |
Masgiau Math I & Masgiau Math II | 481,300 | 27,200 |
Masgiau Math IIR | 69,006,651 | 2,339,205 |
Masgiau FFP2 | 80,230 | 5,000 |
Masgiau FFP3 | 1,544,217 | 100,130 |
Feisorau wyneb | 2,170,939 | 54,038 |
Gosod citiau profi a darnau sbâr | 4,702 | 60 |
Menyg | 126,129,750 | 6,676,150 |
Menyg â chyffiau | 985,000 | 14,600 |
Gynau (gwrth-hylif) | 953,695 | 21,223 |
Gynau (arall) | 244,833 | 50,525 |
Hylif diheintio dwylo | 187,768 | 6,874 |
Clytiau diheintio dwylo | 2,990,050 | 131,600 |
Hidlyddion anadlyddion | 22,176 | 0 |
Cyflau anadlyddion | 99 | 0 |
Cyfanswm | 253,694,517 | 11,072,430 |
Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:
- menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
- hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint
Mae Hidlyddion Anadlyddion a Chyflau Anadlyddion wedi’u hychwanegu at y rhestr hon o gyfarpar diogelu personol a ddosberthir fel rhan o’r ymateb i’r pandemig.
2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.
Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.
Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 2 Awst 2020.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.
Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 13 Awst.
Rydym eisiau eich adborth
Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.
3. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 106/2020