Neidio i'r prif gynnwy

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Prif ganlyniadau

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu dros 215 miliwn o eitemau o PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 12 Gorffennaf 2020, darparwyd dros 16.5 miliwn o eitemau.
Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd, hyd at 12 Gorffennaf 2020
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 12 Gorffennaf 2020
Ffedogau 38,910,050 4,770,250
Bagiau cyrff 7,653 0
Cyfarpar amddiffyn llygaid 1,600,839 700
Masgiau math II 433,450 19,250
Masgiau math IIR 60,932,811 3,536,420
Masgiau FFP2 71,630 3,000
Masgiau FFP3 1,329,892 36,220
Feisorau wyneb 2,055,646 114,697
Gosod citiau profi a darnau sbâr 4,581 72
Menyg 105,257,700 7,825,050
Menyg â chyffiau 944,000 29,300
Gynau (gwrth-hylif) 906,275 21,262
Gynau (arall) 176,861 15,362
Hylif diheintio dwylo 168,869 6,975
Clytiau diheintio dwylo 2,570,250 160,000
Hidlyddion anadlyddion 22,176 0
Cyflau anadlyddion 99 0
Cyfanswm 215,392,782 16,538,558

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Mae Hidlyddion Anadlyddion a Chyflau Anadlyddion wedi’u hychwanegu at y rhestr hon o gyfarpar diogelu personol a ddosberthir fel rhan o’r ymateb i’r pandemig.

2. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 12 Gorffennaf 2020.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 23 Gorffennaf.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at  kas.covid19@llyw.cymru

3. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 86/2020