Nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd, yn ogystal â sut y mae'r system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu'r unedau hyn ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Darpariaeth tai fforddiadwy
Prif bwyntiau
- Darparwyd 3,603 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru (a). Mae hyn yn cynnydd 22% ar y 2,942 unedau a ddarparwyd yn y flwyddyn flaenorol, ac mae ffigwr ar gyfer 2020-21 yn y cyfanswm blynyddol uchaf hyd yma.
- Darparwyd 82 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun Rhentu i Brynu – Cymru (b) a gyflwynwyd yn Chwefror 2018.
- Darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) 84% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol (3,018 o unedau).
- Darparwyd 70% unedau tai fforddiadwy ychwanegol gyda chyllid grantiau cyfalaf.
(a) Mae'r ffigurau'n cwmpasu pob uned tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw golled o ran stoc tai fforddiadwy drwy ddymchweliadau neu werthiannau yn ystod y flwyddyn.
(b) Nid yw unedau Rhentu i Brynu – Cymru'n cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfanswm o dai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y datganiad hwn. Mae'r ffigurau, fodd bynnag, yn cyfrannu at y targed tai fforddiadwy (gweler yr adran yn isod).
Mesur gwelliant ar ymrwymiad y Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod 2016-21
Mae rhaglen waith y Llywodraeth Cymru 2016 ‘Symud Cymru Ymlaen 2016 - 2021’ wedi cynnwys ymrwymiad i ddarparu 20,000 mwy o dai fforddiadwy yn ystod 2016-21. Mae’r ymrwymiad hwn wedi cynnwys cynnal yr adeiladu o fwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu.
Cyfranna’r cyfansymiau o dair cyfres ystadegol at fesur y targed hwn.
- Tai fforddiadwy, fel diffinio yn Nodyn cyngor technegol (TAN) 2: rhwng 2016-17 a 2020-21, darparwyd 13,999 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru.
- Cynllun ‘Rhenti i Berchnogi – Cymru’: rhwng Chwefror 2018 a Mawrth 2021, darparwyd 187 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun hwn.
- Cynllun ‘Cymorth i Brynu – Cymru’: hwng Chwefror 2016 a Mawrth 2021, gwnaed 8,875 o bryniannau o dan y cynllun hwn.
O ystyried y tair cyfres ystadegol a ddisgrifir uchod, darparwyd ychydig dros 23,000 o gartrefi fforddiadwy rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2021, gan ragori ar y targed o 20,000 o dai fforddiadwy dros y cyfnod.
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu 2021-26. Bydd manylion ar y cynnydd cychwynnol wrth gyflawni'r ymrwymiad hwnnw yn y datganiad ystadegol nesaf yn y gyfres hon, wedi’i gynllunio dros dro i'w gyhoeddi yn Hydref 2022.
Adroddiadau
Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 833 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.