Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd, yn ogystal â sut y mae'r system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu'r unedau hyn ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Siart bar yw hwn yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar draws Cymru yn flynyddol o 2011-12 hyd 2018-19. Darparwyd 2,592 o unedau yn ystod 2018-19, cynnydd o 12% ar y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf hyd yma.

Prif bwyntiau

  • Darparwyd 2,592 o unedau tai fforddiadwy ar draws Cymru(1), cynnydd o 12% ar y flwyddyn flaenorol, a’r ffigwr blynyddol uchaf hyd yma.
  • Darparwyd 35 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun Rhenti i Berchnogi - Cymru(2) a gyflwynwyd yn Chwefror 2018.
  • Darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) 90% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol (2,338 o unedau).
  • Ariannwyd bron tri chwarter yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd â grantiau cyfalaf (73%).
  • Darparwyd 650 o unedau tai fforddiadwy ar dir a oedd ar gael gan y sector gyhoeddus, cynnydd o 22% ar 2017-18.

(1) Mae'r ffigurau'n cwmpasu pob uned tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw golled o ran stoc tai fforddiadwy drwy ddymchweliadau neu werthiannau yn ystod y flwyddyn.
(2) Nid yw unedau Rhenti i Berchnogi - Cymru'n cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfanswm o dai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y adroddiad hwn. Mae'r ffigurau, fodd bynnag, yn cyfrannu at y targed tai fforddiadwy (gweler y adroddiad am fanylion pellach).

Adroddiadau

Darpariaeth tai fforddiadwy, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.