Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Tachwedd 2020.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol.

Newidiadau a wnaed yn yr argraffiad hwn

Am y tro cyntaf:

  • rydym yn cynnwys taenlen sy'n cyflwyno data yn ôl i fis Awst 2020.
  • ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (yn dechrau gyda data ar gyfer Tachwedd 2020)

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol.

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Tachwedd 2020 yw'r ail mis lle mae data ar blant dibynnol (o dan 16 oed) mewn llety dros dro wedi'i gasglu ar wahân i gyfanswm yr unigolion. Oherwydd hyn, nid ydym yn argymell cymharu â data cyn mis Hydref 2020 ar ddefnydd llety.

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, cafodd 988 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 347 yn llai nag ym mis Hydref 2020. O’r rhain, roedd 136 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 21 o fis Hydref 2020. (a)(b)
  • Ar 30 Tachwedd 2020, roedd 4,855 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 120 o 31 Hydref 2020. Roedd 1,258 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 98 o 31 Hydref 2020. (b)(c)(d)

(a) Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol. Nid oedd un awdurdod lleol pellach wedi gallu cael data o lochesi menywod ym mis Hydref 2020 yn unig.
(d) Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu cyflenwi'r ffigur ar gyfer mis Hydref 2020 mewn pryd i'w gyhoeddi. Ar gyfer yr awdurdod lleol hwn, defnyddiwyd y ffigur ar gyfer 31 Awst 2020 yn lle hynny.

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 572 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 94 yn llai nag ym mis Hydref 2020. O’r unigolion digartref i lety hirdymor addas, roedd 156 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 21 yn llai nag ym mis Hydref 2020. (e)

(e) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.

Cysgu allan

Noder mai dyma'r mis cyntaf y rydym yn cyhoeddi dadansoddiad o bobl sy'n cysgu allan yn ôl awdurdod lleol.

  • Ar 30 Tachwedd 2020, roedd 96 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 14% o’r 112 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Hydref 2020. (f)(g)
  • Ar 30 Tachwedd 2020, Casnewydd (24), Caerdydd (15), Caerffili (14) a Cheredigion oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod yn llai na 10 unigolion yn cysgu allan, gydag wyth awdurdod lleol yn adrodd sero. (f)(g)

(f) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.
(g) Nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu darparu amcangyfrif ar gyfer 30 Tachwedd 2020. Cytunodd y cyngor y dylid defnyddio amcangyfrif ar 31 Hydref ar gyfer 30 Tachwedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Tachwedd 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB

ODS
9 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.