Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Mawrth 2022.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, cafodd 1,390 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 114 yn fwy nag ym mis Chwefror 2022. O’r rhain, roedd 321 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 9 o fis Chwefror 2022. [troednodyn 1] [troednodyn 2] [troednodyn 3]
  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 7,779 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 65 ers 28 Chwefror 2022. Roedd 2,150 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 92 ers 28 Chwefror 2022. [troednodyn 3] [troednodyn 4]
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Mawrth 2022, mae dros 20,900 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 1] [troednodyn 2] [troednodyn 3]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 599 o unigolion digartref i lety hirdymor addas. Roedd hwn yr un fath â’r 28 Chwefror 2022. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 214 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 14 yn fwy nag ym mis Chwefror 2022. [troednodyn 2] [troednodyn 3]

Cysgu allan

  • Ar 31 Mawrth 2022, amcangyfrifwyd bod 79 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 2 o’r 81 unigolion sy’n cysgu allan ar 28 Chwefror 2022. [troednodyn 3] [troednodyn 5]
  • Ar 31 Mawrth 2022, Caerdydd (14), Sir Benfro (13), Casnewydd (10) a Caerffili (8) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 5 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda chwech awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 3] [troednodyn 5]

Troednodiadau

[1] Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
[2] Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
[3] Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu cyflenwi'r ffigur ar gyfer mis Chwefror 2022 mewn pryd i'w gyhoeddi. Ar gyfer yr awdurdod lleol hwn, defnyddiwyd y ffigur ar gyfer 31 Ionawr 2022 yn lle hynny.
[4] Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
[5] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mawrth 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 14 KB

ODS
14 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.