Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Mai 2021.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, cafodd 1,094 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 46 yn llai nag ym mis Ebrill 2021. O’r rhain, roedd 194 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 45 o fis Ebrill 2021. (a) (b) (c)
  • Ar 31 Mai 2021, roedd 6,383 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 105 ers 30 Ebrill 2021. Roedd 1,394 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 58 ers 30 Ebrill 2021. (b) (d)

(a) Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Fe wnaeth un awdurdod lleol adolygu’r ffigurau ar gyfer Ebrill 2021.
(d) Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdodau lleol.

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 483 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 52 yn fwy nag ym mis Ebrill 2021. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 144 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 31 yn fwy nag ym mis Ebrill 2021. (e) (f)

(e) Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tan gyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(f) Fe wnaeth un awdurdod lleol adolygu’r ffigurau ar gyfer Ebrill 2021.

Cysgu allan

  • Ar 31 Mai 2021, amcangyfrifwyd bod 76 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 6 o’r 70 unigolion a oedd yn cysgu allan ar 30 Ebrill 2021. (g)
  • Ar 31 Mai 2021, Caerffili (14), Caerdydd (11), Casnewydd (8) a Sir Ddinbych (7) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 5 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda pump awdurdod lleol yn adrodd sero. (h)

(g) Fe wnaeth un awdurdod lleol adolygu’r ffigurau ar gyfer Ebrill 2021.
(h) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mai 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 11 KB

ODS
11 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.