Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Ionawr 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan
Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig COVID-19
Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.
Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.
Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.
Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.
Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan
Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:
- Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
- Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.
Prif bwyntiau
Cymariaethau dros amser
Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.
Defnyddio llety dros dro
- Ledled Cymru, cafodd 1,568 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 132 yn fwy nag ym mis Rhagfyr 2022. O’r rhain, roedd 471 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 64 o fis Rhagfyr 2022. [troednodyn 1]
- Ar 31 Ionawr 2023, roedd 9,410 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 163 ers 31 Rhagfyr 2022. Roedd 2,849 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 110 ers 31 Rhagfyr 2022. [troednodyn 2]
- Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Ionawrr 2023, mae dros 32,400 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 1]
Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas
- Symudwyd 529 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 17 yn llai nag ym mis Rhagfyr 2022. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 189 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 33 yn llai nag ym mis Rhagfyr 2022.
Cysgu allan
- Ar 31 Ionawr 2023, amcangyfrifwyd bod 144 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 28 o’r 116 unigolion a oedd yn cysgu allan ar 31 Rhagfyr 2022. [troednodyn 3]
- Ar 31 Ionawr 2023, Casnewydd (47), Caerdydd (26), Ceredigion (13), Sir Fynwy (11), Sir Benfro (10) a Gwynedd (9) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 7 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda saith awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 3]
Troednodiadau
[1] Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
[2] Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
[3] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Ionawr 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 16 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.