Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Chwefror 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan
Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.
Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.
Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.
Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol.
Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan
Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:
- Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
- Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.
Prif bwyntiau
Cymariaethau dros amser
Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.
Defnyddio llety dros dro
- Ledled Cymru, cafodd 1,034 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 262 yn llai nag ym mis Ionawr 2021. O’r rhain, roedd 168 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 7 o fis Ionawr 2021. (a) (b)
- Ar 28 Chwefror 2021, roedd 6,137 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 198 o 31 Ionawr 2021. Roedd 1,285 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 36 o 31 Ionawr 2021. (b) (c) (d)
(a) Nid oedd un ALl wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
(b) Roedd un ALl wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Nid oedd dau ALlau wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu ALl.
(d) Ar gyfer mis Ionawr 2021, nodwch fod data ar nifer o unigolion mewn defnydd llety dros dro ar ddiwedd y mis wedi'i ddiwygio.
Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas
- Symudwyd 562 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 93 yn fwy nag ym mis Ionawr 2021. O’r unigolion digartref i lety hirdymor addas, roedd 159 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 25 yn fwy nag ym mis Ionawr 2021. (e)
(e) Roedd un ALl wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
Cysgu allan
- Ar 28 Chwefror 2021, amcangyfrifwyd bod 51 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 8 o’r 59 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Ionawr 2021. (f)
- Ar 28 Chwefror 2021, Casnewydd (9), Tor-faen (6), Caerdydd (6) a Cheredigion (5) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod yn llai na 10 unigolion yn cysgu allan, gyda naw awdurdodau lleol yn adrodd sero. (f)
(f) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Chwefror 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 10 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.