Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Yn aml, mae pobl yn y system gyfiawnder ymhlith y mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Mae aildroseddu ar ran y rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i gymdeithas. Mae cynllun lleihau aildroseddu Cymru 2022 i 2025 yn nodi bod y rhai sy'n cael swydd ar ôl gadael y carchar hyd at naw pwynt canran yn llai tebygol o aildroseddu, gan eu helpu i ennill annibyniaeth a chyfrannu at y gymdeithas ehangach. 

Drwy fuddsoddi yn narpariaeth dysgu a sgiliau carchardai, gallwn wella cyfleoedd unigolyn i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl ei ryddhau, gan helpu i greu cymunedau mwy diogel, lleihau'r baich ariannol sy'n gysylltiedig ag aildroseddu a gostwng y nifer a fydd yn dioddef troseddau yn y dyfodol. 

Mae polisi "Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darpariaeth dysgu a sgiliau carchardai yng Nghymru" yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd. Mae'n gweithio tuag at sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a'r sgiliau a gynigir yn y carchar yn arwain at gyflogaeth ar ôl i unigolyn gael ei ryddhau. Byddwn yn parhau i weithio tuag at gryfhau ein cynnig i baratoi unigolion ar gyfer gwaith, i'w wneud yn fwy cynhwysol ac i ymateb yn fwy i anghenion carcharorion ac, ar ôl eu rhyddhau, i'w paratoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid yn barhaus.

Mae ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru. Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid, mae gennym rôl o ran tynnu sylw cyflogwyr at rinweddau'r gronfa ddoniau bosibl hon i helpu i fynd i'r afael â'u gofynion o ran gweithlu, a lliniaru rhai o'r rhwystrau y mae pobl fu yn y system gyfiawnder yn eu profi wrth chwilio am waith. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) Cymru, dysgwyr mewn carchardai a'r rhai sy'n gadael carchardai, darparwyr addysg a sefydliadau'r trydydd sector i gyd-greu'r polisi hwn sy'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer darparu cymorth dysgu a sgiliau yn yr ystâd ddiogel i oedolion yng Nghymru. 

Ein gweledigaeth gyffredinol yw darparu amgylchedd dysgu mewn carchardai sy'n ysgogi ac yn ysbrydoli unigolion, gan eu helpu i baratoi am swydd ac i ennill a chadw cyflogaeth gynaliadwy.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu darpariaeth dysgu a sgiliau ynghyd â llyfrgelloedd mewn carchardai yng Nghymru ers 2009, o arian a ddarparwyd i Weinidogion Cymru yn benodol at y diben hwn gan Lywodraeth y DU. Cyflawnir y ddarpariaeth hon drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. 

O dan y Memorandwm hwn, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a Gweinidogion Cymru yn nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau darpariaeth dysgu a sgiliau effeithiol mewn carchardai yng Nghymru.

Cyfeiriad Polisi

Bydd Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darpariaeth dysgu a sgiliau carchardai yng Nghymru yn amlinellu, am y tro cyntaf, weledigaeth a chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnig cymorth dysgu a sgiliau mewn carchardai a "thrwy'r giât". Bydd hyn yn cyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach a nodir yn y rhaglen lywodraethu a'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i greu Cymru lle gall unigolion o bob oed dderbyn addysg o ansawdd uchel, gyda swyddi i bawb, lle gall busnesau ffynnu mewn economi sero net sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb. 

Mae darpariaeth dysgu a sgiliau yn adnoddau pwerus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Nod y polisi yw cynnig darpariaeth sy'n cefnogi unigolion i ymgymryd â chyfleoedd dysgu ac sy'n diwallu anghenion gweithlu'r cyflogwyr, yn ogystal ag ymrwymiad i edrych ar ddatblygiad cymorth dwys wedi'i dargedu i'r rhai sydd ar fin gadael y carchar: 

  • Helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd
  • Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb
  • Cynorthwyo pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio
  • Meithrin diwylliant dysgu am oes

Atal

Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn system cyfiawnder troseddol adsefydlol ac mae'r dull gweithredu hwn wedi'i nodi yn y glasbrintiau troseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid, a'r fframwaith lleihau troseddu 2018 i 2023. Mae darparu cyfleoedd dysgu a sgiliau o ansawdd uchel yn elfen allweddol o adsefydlu effeithiol. Pwrpas cyfleoedd dysgu a sgiliau mewn carchardai yw rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar unigolion i ddatgloi eu potensial, cael cyflogaeth gynaliadwy a bod yn asedau i'w cymunedau. Dylai hefyd wella sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd carcharorion a gwella'u lles yn ystod eu dedfrydau ac ar ôl eu rhyddhau.

Drwy fuddsoddi mewn cyfleoedd dysgu a sgiliau mewn carchardai, gallwn gyfrannu at sefydlu cymunedau mwy diogel a lleihau baich y gost sy'n gysylltiedig ag aildroseddu yn ogystal â lleihau'r nifer sy'n dioddef troseddau yn y dyfodol.

Adran 8: casgliad

Mae polisi Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darpariaeth dysgu a sgiliau carchardai yng Nghymru yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer cynnig y ddarpariaeth honno yng ngharchardai Cymru. 

Mae cyflawni'r weledigaeth hon yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth yn effeithiol gyda'n holl bartneriaid gweithredu i sicrhau bod y rhai sy'n gadael ein carchardai yn cael y cymorth holistaidd sydd ei angen i fynd i'r afael â llawer o'u hanghenion cymhleth wrth iddynt drosglwyddo o'r carchar i'r gymuned. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y trydydd sector a phartneriaid gweithredu wrth ddatblygu'r polisi hwn. Rydym wedi trafod â dysgwyr yn y ddalfa ac yn y gymuned drwy sawl grŵp ffocws i sicrhau bod eu barn a'u profiadau wrth wraidd y polisi hwn. Mae'r cydweithio hwn wedi bod yn allweddol i ddeall yr heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu dysgwyr a darparwyr yn yr ystâd ddiogel, ac i sicrhau bod yr addysg a'r sgiliau y bydd unigolion yn eu hennill yn y carchar yn arwain yn llwyddiannus at gyfleoedd dysgu, hyfforddiant neu gyflogadwyedd pellach pan gânt eu rhyddhau, gan helpu i leihau'r risg o aildroseddu.

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?

Mae diffyg cyfleoedd dysgu a sgiliau yn ffactor allweddol sy'n gysylltiedig â'r risg o aildroseddu. 

Mae'r polisi hwn yn edrych ar ddatblygu cymorth dwys wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sydd ar fin gadael ystâd carchardai Cymru ac y'u nodwyd fel y rhai â'r angen mwyaf, gan gefnogi ymrwymiadau yn y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'n dilyn dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gydnabod anghenion amrywiol unigolion a gweithio i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf o ran adsefydlu. Mae'r polisi hefyd yn ceisio gwella sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd carcharorion a gwella'u lles yn ystod eu dedfrydau ac ar ôl eu rhyddhau. Drwy weithio mewn partneriaeth, nod y polisi yw gweithio gyda chyflogwyr i ddileu'r pethau sy'n rhwystro pobl sy'n gadael y carchar rhag cael eu cyflogi, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw stereoteipiau a chanfyddiadau negyddol. 

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant, a/neu

  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i’n dulliau o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau Cymru decach. Mae gallu cael mynediad at gyfleoedd dysgu a sgiliau yn y carchar, a chefnogaeth briodol drwy'r giât, yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ac yn cyfrannu at adsefydlu a gostyngiad mewn aildroseddu. Yn benodol:

Cymru lewyrchus: bydd y ddarpariaeth dysgu a sgiliau yn ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur, gan ddiwallu anghenion lleol a rhanbarthol. Bydd yn gweithio i fynd i'r afael â bylchau presennol mewn sgiliau a bylchau'r dyfodol, er enghraifft, sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu agenda Cymru Sero Net. Bydd yn cyfrannu at ddatblygu poblogaeth gynhyrchiol, fedrus ac addysgedig ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at leihau diweithdra. 

Cymru iachach: drwy wella cyfleoedd dysgu a sgiliau, ein nod yw helpu i godi hyder a hunan-barch a chefnogi pobl sy'n gadael y carchar i fyw eu bywydau gorau posibl. 

Cymru sy'n fwy cyfartal: drwy gynnig mynediad at gyfleoedd dysgu a sgiliau perthnasol, byddwn yn helpu unigolion i gyflawni eu potensial, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu cefndir. Bydd y polisi yn cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol, gan ddarparu cymorth ac adnoddau perthnasol i'w galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth mewn carchardai.

Cymru o gymunedau cydlynus: drwy gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer dysgu a sgiliau, rydym yn helpu unigolion i ennill eu hannibyniaeth a chael effaith gadarnhaol ar eu teuluoedd a'u cymunedau, gan leihau'r risg o aildroseddu a gwneud cymunedau'n fwy diogel.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau? 

Bydd perfformiad yn erbyn ein nodau polisi yn cael ei adolygu a'i fonitro'n chwarterol drwy gyfarfodydd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.

Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'n grŵp rhanddeiliaid sgiliau dysgu a chyflogadwyedd troseddwyr i barhau i nodi arfer gorau a datblygu ymyriadau yn y dyfodol.