Neidio i'r prif gynnwy

Introduction

Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.  

Mae Llywodraeth Cymru’n gwbl ymroddedig i’r strategaeth newydd, gyda tharged o filiwn o siaradwyr wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu. Cynhwysir iaith Gymraeg ffyniannus hefyd fel un o’r 7 nod lles yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae ymrwymiad statudol gan Lywodraeth Cymru i ystyried effaith ein gwaith ar y Gymraeg yn llawn. Golyga hyn y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd ein polisïau’n effeithio ar iaith y rhai sy’n ei siarad.  

Mae tair thema rhyngddibynnol yn Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

  • Trosglwyddo iaith o fewn y teulu
  • Y blynyddoedd cynnar
  • Addysg statudol
  • Addysg ôl-orfodol
  • Y gweithlu addysg, adnoddau a cymwhysterau

Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

  • Y gweithle
  • Gwasanaethau
  • Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg

Thema 3: Creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun

  • Cymuned a’r economi
  • Diwylliant a’r cyfryngau
  • Cymru a’r byd ehangach
  • Technoleg ddigidol
  • Seilwaith ieithyddol
  • Cynllunio ieithyddol
  • Gwerthuso ac ymchwil

Mae’r penawdau o dan bob thema’n amlinellu amrediad y gweithgareddau a all effeithio ar iaith. 

Fel rheol gyffredinol, os oes gan eich polisi’r potensial i gael effaith ar bobl, bydd yn cael rhyw effaith ar siaradwyr Cymraeg ac felly ar yr iaith Gymraeg.

1. Welsh Language Impact Assessment reference number

Cwblhawyd gan Dîm Safonau’r Iaith Gymraeg, e-bost: Safonau.Standards@llyw.cymru

Rhif cyfeirnod Asesiad Effaith yr Iaith Gymraeg: 03/06/2022.

2. Ydy’r cais yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llyworaeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg? Cymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr a’r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017 i 2021?

Dengys y cynnig hwn gyswllt â thema 2 “cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”, a byd gwasanaeth Busnes Cymru’n wasanaeth dwyieithog yn cynnig cefnogaeth busnes drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae a bydd bob deunydd marchnata / gwefan / llinell gymorth yn parhau i fod yn ddwyieithog. Bydd hyn yn ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg gan fusnesau / unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

3. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg.

Sut bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r canlynol yn eich ateb i’r cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall:

Bydd gwasanaeth Busnes Cymru’n cyflwyno gwasanaeth dwyieithog ac yn parhau i gynnig cefnogaeth a gweithdai 1:1 drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda’r Uned Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau fod Busnes Cymru’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ei wasanaethau.  

Fel y nodwyd yn Cymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr, mae unigolion sy’n byw yng Nghymru’n delio â busnesau’n gyson, ar lefel broffesiynol ac yn eu bywydau personol, a chydnabyddir fod gan fusnesau rôl gynyddol i’w chwarae  o safbwynt darparu cyfleoedd i bobl dysgu a defnyddio’r Gymraeg. O safbwynt busnes, gall cynyddu’r gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog a gynigir adlewyrchu gwasanaeth lleol sy’n dangos parch at y gymuned a’i dinasyddion gan gefnogi hwyluso’r Gymraeg drwy gynnig llwyfan i bobl allu defnyddio’r iaith.

Cydnabyddir fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o fewn y gymuned fusnes o’r buddion a’r cyfleoedd posib a gynigir iddi gan y Gymraeg, ac i’w cwsmeriaid yn eu tro.

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi caffael Busnes Cymru, bydd angen felly:

  • i wefan a sianeli Busnes Cymru fod yn gwbl ddwyieithog
  • i gyflwyniadau Busnes Cymru fod ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog.
  • creu’r galw am ddarpariaeth Gymraeg drwy fod yn weithredol wrth greu amgylchedd lle gall unigolion gymryd rhan yn eu hiaith ddewisol.
  • cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg perthnasol Llywodraeth Cymru.   
  • bod â pholisi iaith cyfredol yn ei le.

Felly, bydd Busnes Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y cymorth busnes a ddarperir. Er enghraifft, bydd Busnes Cymru yn rhoi cyngor ar farchnata’r busnes a’i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu ar yr adeg pan fydd y busnes yn bwriadu recriwtio.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050. Credwn yn gryf fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, a p’un ai ein bod yn siarad Cymraeg ai peidio, mae gennym oll ein rhan i’w chwarae ar y daith honno.

Bydd Busnes Cymru’n datblygu gweithdy BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) “Cymraeg ar gyfer eich Busnes” y gall busnesau gael mynediad iddo drwy wefan Busnes Cymru. Bydd y gweithdy hwn yn amlygu’r cyfleoedd o ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnes.

Bydd yn ofynnol i gynghorwyr Busnes Cymru, drwy’r cytundeb hwn, fynd ati’n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y cymorth busnes a ddarperir. Fel isafswm, gallai hyn fod drwy ddarparu cyngor am farchnata’r busnes a’i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu ar yr adeg pan fo’r busnes yn dymuno recriwtio.

Er enghraifft, bydd busnesau sy’n cael mynediad i gefnogaeth farchnata drwy wasanaeth Busnes Cymru naill ai’n mynychu gweithdy marchnata neu’n derbyn cefnogaeth gan gynghorydd. Bydd y gweithdy marchnata’n pwysleisio’r posibilrwydd o farchnata eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg a thrafodir gweithdy “Cymraeg ar gyfer eich Busnes” BOSS a’r gwasanaeth ‘Helo Blod’ sydd ar gael.

Bydd y cynnig hwn yn effeithio ar amcanion polisi canlynol a amlinellir yn Cymraeg 2050 drwy: 

  • ddefnyddio gwasanaeth yn yr iaith
  • y canfyddiad o ddefnyddioldeb yr iaith gan fusnesau sy’n defnyddio'r gwasanaeth
  • galluogi mwy o siaradwyr Cymraeg i gael mynediad at eu cymorth busnes drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cynhyrchu mwy o ddeunyddiau ac adnoddau dysgu yn y Gymraeg
  • sicrhau bod contractwyr y dyfodol yn gallu darparu’r rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg drwy weithdrefnau tendro
  • monitro darpar gontractwyr darpariaeth ddwyieithog drwy gyfarfodydd rheoli cytundebau chwarterol.

Bydd Busnes Cymru’n parhau i gysylltu busnesau â gwasanaethau megis Helo Blod ac Arfon er mwyn caniatáu i fusnesau hysbysebu eu busnesau a’u gwasanaethau Cymraeg gan gynyddu eu presenoldeb gweledol a’u defnydd o’r iaith o fewn y gymuned fusnes.

Bydd Busnes Cymru’n parhau i gasglu a monitro’r defnydd o’r Gymraeg drwy ei wasanaeth.  

Yn ychwanegol i’r uchod bydd gwasanaeth Busnes Cymru’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.