Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae gwasanaeth Busnes Cymru’n cynnig darpariaeth i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried   entrepreneuriaeth fel rhan o’u dyheadau gyrfa, yn gweithio i ymdrin â thangynrychiolaeth wrth ddechrau busnes ac adeiladu hyder ac ysbrydoli unigolion o bob cymuned i gyflawni eu potensial. 

Mae’r rhaglen hefyd yn adeiladu ar wybodaeth a gallu busnes entrepreneuriaid newydd a pherchnogion busnes bach a chanolig, gan gryfhau hyfywedd eu mentrau busnes, cyfoethogi eu sgiliau busnes a gwella siawns eu busnes o oroesi a thyfu, gyda chymorth pellach ar gyfer busnesau gan gyflymu eu twf.  

Mae Syniadau Mawr Cymru (rhan o deulu Busnes Cymru) yn darparu’r ffocws ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc i ddysgu am entrepreneuriaeth. Y nod yw cynyddu nifer y busnesau bach sy’n cael eu creu; i helpu adeiladu sector breifat fwy mentrus; ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i fod yn hyderus i geisio cyfleoedd ar eu cyfer nhw ac eraill. Nod darpariaeth Dyfodol Busnes Cymru yw adeiladu ar hyn ac ysbrydoli ac addysgu plant a phobl yng Nghymru i ystyried entrepreneuriaeth fel rhan o’u dyheadau gyrfa, datblygu gallu eu busnes a’u potensial entrepreneuraidd. 

Mae hyn yn adeiladu ar y weledigaeth tymor hir a amlinellwyd yn y Strategaeth Menter ac Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2010-2015 (YES) “Datblygu a meithrin pobl ifanc hunangynhaliol ac entrepreneuraidd ym mhob cymuned ar draws Cymru, a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol”. Mae’r un uchelgais yn berthnasol heddiw, i weithio gyda byd busnes, addysg partneriaid cyflawni ac adrannau’r Llywodraeth i gyflwyno newid diwylliannol hir dymor fel yr amlinellwyd yn Ffyniant i Bawb, Y Cynllun Gweithredu Economaidd, Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, Rhaglen Lywodraethu, a'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau.  

Bydd Busnes Cymru, drwy Syniadau Mawr Cymru yn sicrhau cyflawni nifer o ymrwymiadau’r Rhaglen aLywodraethu a fydd yn effeithio ar blant a phobl ifanc:

  • ysbrydoli ac addysgu pobl ifanc yng Nghymru i ystyried entrepreneuriaeth fel rhan o’u dyheadau gyrfa, datblygu eu gallu busnes a’u potensial entrepreneuraidd. 
  • Gwarant Pobl Ifanc (YPG): Buddsoddi yn a chryfhau’r ymateb system gyfan i gyflawni Gwarant Person Ifanc er mwyn ei gwneud yn hawdd i bawb o dan 25 oed i gael mynediad i gynnig swydd, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
  • Y Cwricwlwm Cenedlaethol: Newid hir dymor drwy ymgysylltiad ag entrepreneuriaid i gefnogi addysg ac ymgysylltiad busnes a datblygu cyfranwyr creadigol mentrus.  
  • Cenhadaeth Economaidd: Diwylliant Entrepreneuraidd: ystyried sut yr ydym yn cadw’n graddedigion a’n talent yng Nghymru drwy ddatblygu cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau cefnogi newydd yn cynnwys busnesau newydd graddedigion, gyda chymhellion mewn rhai meysydd.
  • Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau: bydd y gefnogaeth a gynigir gennym yn helpu i ffurfio’r genhedlaeth nesaf o gyflogwyr a rhoi hyder i fwy o bobl i ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain gan gefnogi mynediad unigolion i hunangyflogaeth a goresgyn rhwystrau personol wrth ddechrau busnes.
  • cefnogi entrepreneuriaid ifanc a chynyddu cyfradd busnesau newydd graddedigion yng Nghymru drwy Syniadau Mawr Cymru. Helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain drwy fodelau rôl sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, cefnogaeth gynghori busnes un i un, mentora entrepreneuraidd yn ogystal â chefnogaeth ariannol. Bydd rhwydwaith o hyrwyddwyr menter yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr a graddedigion o fewn ein colegau a’n prifysgolion.
  • dylanwadu ar ddatblygiad gallu entrepreneuraidd drwy’n system addysgol gyfan. Gweithio ar y cyd â chydweithwyr polisi ar draws polisïau Addysg, sgiliau, gyrfaoedd, a ieuenctid i sefydlu datblygiad sgiliau entrepreneuriaeth (sgiliau meddal) a dysgu mewn polisïau ac addysg.
  • cynnig cyngor ac arweiniad i helpu gweithredu’r cwricwlwm Cenedlaethol. Sefydlu menter o fewn y fframwaith Gyrfaoedd a chysylltiedig â gwaith a sicrhau cynnwys entrerpeneriaeth a hunangyflogaeth o fewn canllawiau ac adnoddau dysgu Gyrfaoedd Cymru.
  • darparu cyngor i fusnesau am recriwtio a chyflogi pobl ifanc. Mae Llinell Gymorth Busnes Cymru yn rheoli galwadau ar gyfer amrywiol wasanaethau o fewn Llywodraeth Cymru ac felly’n ymgymryd â rôl o gynghori, cefnogi ac annog busnesau i recriwtio a chyflogi pobl ifanc ac arferion cyflogaeth teg drwy’r porth Sgiliau’n benodol.

1. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n blaenoriaethu’r Gwarant Pobl Ifanc fel ymrwymiad allweddol ar gyfer chweched tymor y Llywodraeth, er mwyn lliniaru effeithiau anghymesur y pandemig Covid ar blant a phobl ifanc o dan 25 oed. Y bwriad yw sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl neu ei ddal yn ôl o ganlyniad i’r pandemig covid.

Gwarant Pobl Ifanc yw’r strwythur ymbarél sy’n eistedd uwchben bob rhaglen ar gyfer pobl ifanc, gyda’r bwriad o greu taith syml ar gyfer pobl ifanc beth bynnag eu hamgylchiadau a’u cefndir.

Arweinir annog entrepreneuriaeth ymysg ieuenctid a chefnogaeth i bontio i fyd hunangyflogaeth gan Syniadau Mawr Cymru. Gan weithio ar draws y Llywodraeth, Bydd tîm Gwarant Pobl Ifanc yn sicrhau ymgysylltiad pellach â phobl ifanc a rhanddeiliaid drwy:

  • mae’r Sgwrs Genedlaethol yn broses barhaus ac esblygol. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid, partneriaid, a grŵp o bobl ifanc er mwyn helpu i’w gydgynllunio. Bydd y ffocws hwn ar y meysydd canlynol:
    • uchelgais ein pobl ifanc
    • y rhwystrau sy’n eu hwynebu
    • eu profiadau’n ymwneud â chefnogi gyrfa
    • disgwyliadau mewn cymhariaeth â gwirionedd Gwarant Pobl Ifanc
    • sut allwn ni helpu i ymgysylltu â grwpiau nas clywir yn aml.
  • mae rhanddeiliaid megis Plant yng Nghymru wedi’u penodi fel ein hwyluswyr y Sgwrs Genedlaethol er mwyn cynnal trafodaeth gyda phobl ifanc drwy gyfrwng cyfres o ddigwyddiadau trafod Cenedlaethol ar y cyd rhwng nawr a Medi  2022. 
  • ailgynlluniwyd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i gefnogi’r Gwarant Pobl Ifanc drwy gadarnhau cytundeb gweithredol gyda rhanddeilaid yn cynnwys awdurdodau lleol.
  • sefydlu bwrdd Pobl Ifanc.

Bydd Syniadau Mawr Cymru’n cynnal ymgynghoriadau gyda grwpiau ffocws Pobl Ifanc drwy gydol cyfnod y cytundeb i adolygu’r modd y cyflwynir ein gwybodaeth, adnoddau a gwasanaethau yn ogystal â chefnogi’r sgwrs Genedlaethol dan arweiniad y Gwarant Pobl Ifanc.

Bydd Syniadau Mawr Cymru yn darparu gwasanaeth pellach i gefnogi pobl ifanc dan 25 oed er mwyn dysgu am fusnesau a chymryd camau gweithredol i ddod yn hunangyflogedig. Bydd hyn yn datblygu’r gwasanaeth sydd ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru, rhan o Busnes Cymru sy’n darparu addysg drwy weithdai a phrofiadau dan arweiniad entrepreneuriaid gan dargedu pobl ifanc 16-24oed a rhwydwaith o Arweinwyr i hybu pontio o Addysg Bellach ac Uwch.

Bydd y pecynnau cymorth pellach yn cynnwys:

  • Cefnogaeth 12-mis cyn ac wedi dechrau’r busnes newydd i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i ddechrau busnes, yn cynnwys cefnogaeth ymgynghorol busnes un i un, mentora entrepreneuraidd, cynllunio busnes a rheolaeth ariannol.
  • Grant Dechrau Busnes Person Ifanc newydd o £2,000 y busnes. Bydd hwn yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc di-waith, sydd wedi gadael byd addysg neu hyfforddiant yn ystod cyfnod cynnar busnes i fod yn hunangyflogedig.
  • Dysgu drwy gyfoedion a chymorth cyn dechrau drwy gyfrwng cymuned o entrepreneuriaid ifanc. 

Mae cefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad a datblygu ym myd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn ymyrraeth allweddol i leihau’r risg o unrhyw effaith hir dymor yn sgil Covid 19, a allai fod yn hynod niweidiol a phellgyrhaeddol.

Os yn bosibl, mae ein dulliau’n ceisio rhwystro’r angen i bobl ifanc gael mynediad i’r system les, sy’n cynnig risgiau o safbwynt dibyniaeth gylchol tymor hirach (Sefydliad Dysgu a Gwath: Rhwystro Cenhelaeth Bandemig) , ac yn hytrach yn cefnogi pobl i mewn i fyd gwaith, hunangyflogaeth, neu hyfforddiant yn y tymor byr. Mae hyn yn ychwanegol at rwystro ac adennill addysg a gollwyd yn sgil effaith Covid 19 ar ysgolion, lleoliadau a cholegau.

Mae meithrin cenhedlaeth o dalent ifanc, a hybu pobl i fyd Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant (EET) yn hanfodol i gynyddu dyheadau a chyfleoedd yn enwedig ar gyfer y bobl ifanc hynny y mae diweithdra eisoes wedi’i wreiddio yn eu teuluoedd, er mwyn rhwystro datgysylltiad oddi wrth y farchnad lafur ac effaith niweidiol cyfnodau o segurdod.  

Bydd datblygu busnesau mwy gwydn yng Nghymru drwy gyfrwng darpariaeth Busnes Cymru’n hybu lles plant drwy gryfhau’r economi genedlaethol. Drwy ddarparu cefnogaeth i unigolion a busnesau mae’r cynnig yn cefnogi rhieni plant a phobl ifanc i sicrhau swyddi neu ddechrau eu busnesau eu hunain sy’n eu cefnogi maes o law i fod yn weithredol o safbwynt economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r maes yma ers dros 15 mlynedd ac yn cadw cofnodion sy’n mesur effaith tymor hir amrywiol raglenni ar ddiwylliant pobl ifanc yng Nghymru ac agweddau at fusnesau newydd. Er mai darpariaeth allgyrsiol yw’r gwasanaeth entrepreneuriaid ifanc, mae’n cyd-fyn ac yn cefnogi rhaglenni ymgysylltiad â chyflogwyr ysgolion gan ddod â phynciau’n fwy o fewn meysydd cwricwlaidd. Mae’r gweithgareddau’n helpu plant a phobl ifanc i ddeall sut i fod yn fentrus ym myd busnes a bod yn ymwybodol o hunangyflogaeth fel dewis gyrfa.

Datblygwyd fframwaith werthuso a fydd yn cael ei defnyddio’n barhaus i’r dyfodol sy’n defnyddio proses model rhesymeg i ddiffinio amcanion, nodi allbynnau ac effaith cyflwyniad ar lefel weithredol a strategol. Defnyddir meincnodau cenedlaethol a rhyngwladol megis arolygon GEM, HEBCIS ac Omnibus i fonitro datblygiad ochr yn ochr â mesurau canlyniadau ar gyfer cyflwyno rhaglenni. Sefydlir mecanweithiau cofnodi i adrodd yn erbyn y Gwarant Pobl Ifanc a’r cynllun Busnes yr adran Busnes a Rhanbarthau i gyflwyno ein hymrwymiadau yn unol â’r Rhaglen Lywodraethu.

Caiff y gwasanaeth hwn ei fonitro yn erbyn set o ddangosyddion Perfformiad Allweddol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; caiff cynnydd ei fonitro’n chwarterol. Mae’r rhain yn cynnwys disgwyliad ar i gontractwyr ymgymryd â gwaith allgymorth a gweithio gyda phartneriaid i wella cyfranogiad mewn busnes, yn enwedig gyda menywod, pobl anabl, Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig, a Gofalwyr ifanc. Bydd y rhain yn cyfrannu at yr asesiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth adrannol.

Defnyddir taflenni adborth i werthuso gweithgareddau gyda phlant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau. Dadansoddir y canlyniadau’n flynyddol a’u bwydo yn ôl i mewn i’r rhaglen i deilwra a gwella gweithgareddau.

Amlinella dadansoddiad blaenorol o 5,500 o gleientiaid y canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn cyflwyno’r gweithdai fel a ganlyn:

  • roedd 95% yn cytuno ei fod yn rhoi mewnweleiad iddynt o’r profiad o redeg busnes. 
  • roedd 84% yn cutuno ei fod wedi gwneud iddynt feddwl am ddechrau fy musnes fy hun, heb wahaniaeth rhywedd.
  • yn dilyn gweithgaredd codi ymwybyddiaeth, roedd 60% yn ystyried dechrau busnes yn y dyfodol gyda 12% yn bwriadu dechrau busnes o fewn y 3 blynedd nesaf. Mae hyn yn codi i 25% ar gyfer cleientiaid hŷn a’r rhai oedd wedi mynegi diddordeb mewn dechrau busnes.

Dengys arolwg y Children’s Omnibus (Dogfen nas cyhoeddwyd, Llywodraeth Cymru yn fewnol) a arweiniwyd yn annibynnol gan Beaufort Research ac a holodd 330 o bobl ifanc 10–18 mlwydd oed:  

  • fod 80% yn cytuno eu bod yn ymwybodol y gallech fod yn bennaeth eich hun neu ddechrau busnes, gyda chynnydd cyson o 77% pan yn 10 oed i 91% pan yn 18.  
  • dywedodd 62% y byddent yn bendant neu fwy na thebyg “yn meddwl y byddech yn hoffi rhedeg eich busnes eich hunan o gael cyfle”; mae anghyfartaledd rhywedd yn parhau i fod yn her gyda 14% o wahaniaeth rhwng dynion (69%) a menywod (55%). 

Cynhaliwyd ymgynghoriad Llais Ieuenctid (Dogfen nas cyhoeddwyd, Llywodraeth Cymru yn fewnol) yn 2019, mewn partneriaeth â Ieuenctid Cymru a gasglu llais i gryfhau dealltwriaeth a dulliau cyflwyno i helpu datblygiad pobl ifanc Ôl 16 i wireddu eu dyheadau a dechrau busnes. Cymerodd cyfanswm o 176 o bobl ifanc ran yn yr ymgynghoriad ledled Cymru, gyda 75 ohonynt o dan 18 mlwydd oed ac yn cynnwys troseddwyr, gofalwyr ifanc, NEETS ac aelodau o’r cymunedau LHDTC a Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig.

Ystyriodd gwerthusiad tymor canolig Busnes Cymru y defnydd o raglenni’r Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) gan ddod i’r casgliad “Entrepreneuriaeth yr Ifanc wedi cyfawni a gorgyflawni bron bob un o’i allbynnau perfformiad” gan gefnogi “creu tirwedd mwy entrepreneuraidd: yn enwedig drwy ehangu dyheadau plant a phobl ifanc a’u cael i gymryd rhan mewn dosbarthiadau cymell a Bwtcamps.” Caiff argymhellion eu hadolygu’n barhaus fel rhan o adolygiad y cytuneb.

Cynhaliwyd gwerthusiad o’r Rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2016-2022 gyfredol yn cynnwys nawdd arian grant i sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch gan Ymchwil Arad 2022 a adroddodd unwaith eto am y canlyniadau cadarnhaol ar draws bob maes cyflwyno gan gynnig argymhellion i’w hystyried o safbwynt cynllunio cyflwyniad i’r dyfodol a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu siapio cyflwyniad y rhaglen.

Mae polisi Entrepreneuriaeth Ifanc Llywodraeth Cymru a’r rhaglen gyflwyno, drwy Syniadau Mawr Cymru, wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Polisi Grymuso Ieuenctid y World Future Council. Mae’r Wobr Grymuso Ieuenctid 2019 yn canolbwyntio ar bolisïau enghreifftiol a chyflwyniad sy’n grymuso pobl ifanc, gan hybu canlyniadau economaidd yn cynnwys entrepreneuriaeth a sgiliau.

2. Eglurwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Wrth ddatblygu a chyflwyno darpariaeth Busnes Cymru i’r dyfodol byddwn yn sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd Hawliau Plant drwy gyflawni’r pum egwyddor: 

Ymgorffori hawliau plant: byddwn yn sicrhau fod hawliau plant yn greiddiol i’n datblygiad strategaeth yn ogystal â bod yn flaenoriaeth allweddol wrth gynllunio a dosbarthu ein gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc.

Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu: byddwn yn cynnig ein gwasanaethau ledled Cymru er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cyfartal ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, fel bod cyfle ganddynt i wneud y mwyaf o’u talentau er mwyn gwireddu eu potensial.

Grymuso plant: byddwn yn cynnig mynediad i wybodaeth, adnoddau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc i rymuso eu gallu unigol, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwell am eu dyfodol.

Atebolrwydd: byddwn yn ymgynghori â ac yn gwrando ar blant a phobl ifanc gan sicrhau fod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried ac yn derbyn ymateb wrth gyflwyno ein rhaglenni i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sy’n addas iddynt allu ystyried entrepreneuriaeth.  

Atebolrwydd: byddwn yn gwbl atebol am y wybodaeth, cyngor a’r canllawiau a ddaperir gan ein prosiect gan sicrhau fod pobl ifanc yn gwbl gyfrifol am y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn.

Gan y bydd gwasanaethau Busnes Cymru’n cael eu cyflwyno i blant 5 i 18 oed a 18 i 24 oed drwy Syniadau Mawr Cymru, yna bydd sawl erthygl yn cael ei heffeithio gan ein gwaith a dyma fydd ffocws ein hasesiad:

Erthygl 3: Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn bob amser.

Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud yr hyn y maent yn credu dylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a bod ystyriaeth yn cael ei roi i’w barn.

Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i gael a rhannu gwybodaeth cyn belled â bod y wybodaeth ddim yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill.

Erthygl 15: Mae gan blant yr hawl i gyfarfod ac ymuno â grwpiau a sefydliadau, cyn belled a bod hyn yn dal i ganiatáu pobl eraill fwynhau eu hawliau hwy.

Erthygl 17: Mae gan blant yr hawl i wybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol, teledu, radio, a dylai papurau newydd ddarparu gwybodaeth y gall plant ei ddeall ac ni ddylid hybu deunyddiau sy’n niweidiol i blant.

Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i gael addysg a mynd i’r ysgol.

Erthygl 30: Mae gan blant yr hawl i ddysgu a defnyddio’u hiaith a thraddodiadau teuluol, boed y rhain yn cael eu rhannu gan leiafrif yn y wlad neu beidio.

Mater allweddol i’r rhaglen yma fydd edrych ar yr ymatebion i heriau’r pandemig Covid-19, o ystyried yr effaith anghymesur posibl ar bobl ifanc. Dywedodd Sefydliad Llafur Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig (ILO) fod cyfleodd gyrfa pobl rhwng 18 a 29 yn cael eu heffeithio’n ddrwg gan y pandemig Covid-19. Mae adroddiad yr ILO dan y teitl "Youth and Covid-19: impacts on jobs, education, rights and mental well-being", yn nodi bod “effaith y panemig ar bobl ifanc yn systemig, dwfn ac anghymesur. Bu’n eithriadol anodd ar ferched ifanc, ieuenctid iau, a ieuenctid mewn gwledydd incwm is”.

Mae Busnes Cymru am gefnogi Erthyglau 3, 12, 13, 15, 17, 28, a 30 drwy sicrhau fod ein gwaith yn cydymffurfio â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogi sy’n adlewyrchu’r ethos seiliedig ar hawliau sy’n greiddiol i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn sicrhau fod ein gwaith yn ac yn parhau i fod yn gyson â’r Canllaw Arfer Da Cyfranogiad er mwyn sicrhau’r ffyrdd gorau a mwyaf ystyrlon o wrando ac ymateb i leisiau plant a phobl ifanc a’u bod yn cael ei defnyddio’n unol ag Erthygl 3 a 12 o Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig.  

Er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 13, byddwn yn hybu tegwch mynediad i wybodaeth cefnogaeth, cyfleoedd a datblygiad mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth deg. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc a gweithredoedd i gefnogi Pobl Anabl yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Bydd Busnes Cymru’n cefnogi’r erthygl drwy gyfrwng cynghorwyr sgiliau er mwyn sicrhau fod cyflogwyr yn ymwybodol o Hawliau Plant ac i sicrhau arferion busnes cyfrifol.

Mae contractwyr a sefydliadau sy’n derbyn grantiau’n gyfrifol am ymgysylltu â phobl ifanc mor helaeth â phosibl ledled Cymru. Yn unol ag erthygl 12 a 28 caiff gwasanaethau eu targedu at y rhai sydd mewn a’r tu allan i fyd addysg, yn ogystal â grwpiau Cymunedol a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio. Mae ein gwaith yn hybu’r hawliau a roddir i bobl ifanc yn yr erthyglau drwy roi’r dewis iddynt yn ymwneud â’u dewisiadau gyrfa i’r dyfodol. Caiff plant a phobl ifanc eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n agored ac yn hygyrch i bawb. Mae ymyrraeth bellach a chyfleoedd i gymryd rhan yn nigwyddiadau a gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru drwy gyfrwng hunanddewisiad yn unol ag erthygl 15. 

Yn unol ag Erthygl 17 caiff yr holl wybodaeth a nodir ar ein gwefan neu ei gynnwys mewn dolenni ei brofi’n fanwl o safbwynt addasrwydd. Ni ddylai unrhyw wybodaeth niweidiol gael ei bostio ar wefan a chaiff dolenni eu gwirio’n gyson o safbwynt addasrwydd. Caiff bob gwybodaeth ffynhonnelll ac adnoddau eu creu yn Gymraeg a Saesneg ac mewn ffurf addas ar gyfer y gynulleidfa darged ac ystod oedran. Bydd gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol yn darparu ynnwys addas i’r oedran, mewn amrywiaeth o fformatau ar gyfer pobl ifanc fel cyflwyniad i fyd busnes.

Bydd contractwyr a sefydliadau a noddir gan grantiau yn hysbysu pobl ifanc o’u hawliau pan fo hynny’n briodol gan ddefnyddio taflenni gwybodaeth addas i blant wedi’u cynllunio i helpu plant ddeall eu hawliau. Yn unol ag Erthygl 30 byddwn yn sicrhau fod gan bobl ifanc yr hawl i ddefnyddio’u mamiaith ac yn hybu dull unigolyddol o gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Byddwn yn hybu’r defnydd o wybodaeth ac adnoddau dysgu dwyieithog yn cynnwys cynlluniau gwersi a gweithgareddau y gall athrawon eu defnyddio mewn ysgolion a cholegau er mwyn gwneud plant yn ymwybool o’u hawliau gan ddefnyddio adnoddau ar ein gwefan: https://gov.wales/childrens-rights-teaching-resources ac adnoddau Comisiynydd Plant Cymru: https://www.complantcymru.org.uk/adnoddau/

Bydd holl staff a chontractwyr y rhaglen yn derbyn hyfforddiant i sicrhau defnydd addas o iaith ac arferion i ymgysylltu â grwpiau oedran ledled Cymru.