Neidio i'r prif gynnwy

Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae'r hysbysiad hwn yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r data personol yr ydym yn eu derbyn gan Gyrfa Cymru fel rhan o unrhyw un neu rai o'r canlynol:

  • y broses ymgeisio am leoliadau arbenigol ôl-16
  • y broses apelio
  • proses gwneud cais am Asesiad o dan Adran 140 

Cedwir golwg ar yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth gan Gyrfa Cymru am bobl ifanc sydd angen darpariaeth arbenigol ôl-16 o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru yn eu derbyn?

Cyn gynted ag y bydd y ffurflen gais wedi'i chwblhau, mae'r ffurflen ynghyd â gwybodaeth atodol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn cael penderfyniad. Bydd y cais yn cynnwys gwybodaeth o sawl ffynhonnell, sy'n cynnwys y person ifanc, ei riant neu ofalwr, ysgol bresennol neu flaenorol y person ifanc, sefydliadau addysg arbenigol prif ffrwd sy'n berthnasol, unrhyw wasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol sy'n ymwneud ag anghenion yr unigolyn, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gael gwybodaeth ychwanegol amdanoch (y person ifanc, ei riant neu ofalwyr), er mwyn cynnal proses apelio pan nad yw'r penderfyniad gwreiddiol yn dderbyniol.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Ar ôl derbyn yr wybodaeth gan Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data.

Fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol sy'n cael eu derbyn yn eich cais am leoliad arbenigol ôl-16 o dan Erthygl 6(1)(e) o GDPR, yn unol â'i dasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd iddo at ddibenion:

  • gwneud penderfyniad ynghylch a yw'r ymgeisydd yn gymwys i gael cyllid i fynd i sefydliad addysg bellach arbenigol
  • sicrhau gwasanaeth seicolegydd addysg os bydd angen
  • os bydd proses apelio, sicrhau gwasanaeth seicolegydd addysg (os yw hynny'n briodol) a
  • phrosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu cyfatebiaeth ar y cynnydd a'r penderfyniad ynghylch y cais a gyflwynwyd

Mewn rhai achosion mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol neu wybodaeth iechyd sy’n dod o dan gategorïau arbennig data personol y GDPR. Yn yr achosion hynny, rydym yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(g) sy’n rhoi ‘rhesymau er budd sylweddol y cyhoedd’ mewn grym at ddibenion cydymffurfio â meini prawf eich cais.

 phwy y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth?

Fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adran addysg llywodraeth leol y person ifanc, adran gwasanaethau cymdeithasol neu fwrdd iechyd. O dan rai amgylchiadau, os yw’n ofynnol, mae’n bosibl y bydd eich data’n cael eu rhannu â seicolegydd addysg.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw'r data hyn?

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw’r data hyn am gyfnod o 10 mlynedd o’r dyddiad pan fydd y cais neu’r meini prawf sy’n sail i’r rheoliad statudol yn dod i ben.

Eich hawliau o dan GDPR

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu prosesu amdanoch chi
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • gwrthod (o dan rai amgylchiadau) i'r data gael eu prosesu am resymau sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol chi
  • cyfyngu'r prosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol Ôl-16

Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Llys-y-Ddraig
Parc Busnes Penlle'r-gaer
Abertawe
SA4 9NX

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)