Creu system y Dreth Gyngor decach i Gymru.
Cynnwys
Beth yw'r Dreth Gyngor?
Mae'r Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni i gyd ei dalu i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw'n dâl am bob gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio, ac nid yw'n prynu pethau penodol i chi. Nid dyma'r unig ffynhonnell ariannu ar gyfer cynghorau chwaith.
Mae’r Dreth Gyngor rydych yn ei thalu yn seiliedig ar werth eich eiddo, y cartref rydych yn byw ynddo, pwy arall sy’n byw gyda chi ac, mewn rhai achosion, faint o arian sydd gennych. Mae'r system yn edrych ar eich cyfoeth o gymharu ag eraill i sicrhau bod pobl sydd â mwy o gyfoeth yn cyfrannu mwy na'r rhai sydd â llai o gyfoeth.
Dysgu mwy am yr hyn mae eich Treth Gyngor yn talu amdano.
Mae pob eiddo domestig yng Nghymru yn cael ei roi mewn un o naw band treth (bandiau A i I). Mae’r bandiau treth yn seiliedig ar faint yw gwerth cartref a’r tir y mae’n sefyll arno.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio eiddo at ddibenion y Dreth Gyngor. Nhw yw arbenigwyr eiddo'r llywodraeth ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gwyliwch eu fideo sy'n ateb cwestiynau cyffredin am y Dreth Gyngor. Mae'r fideo hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut mae eiddo'n cael eu bandio a beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi am herio'ch band.
Rhaid i heriau i fandiau'r Dreth Gyngor fodloni meini prawf penodol ac ni fyddant bob amser yn arwain at newid mewn band. Mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol y gall fandiau newid gan fynd i fyny neu i lawr.
Os ydych yn cael trafferth talu eich bil Treth Gyngor cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hynny heb oedi, ac mae'n llawer gwell gwneud hyn cyn i chi fethu taliad. Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o gyngor a chymorth ar Wefan Advicelink Cymru, neu drwy ffonio Llinell Gymorth Advicelink ar 0800 702 2020.
Creu system y Dreth Gyngor decach i Gymru
Roedd ein hymgynghoriad Cam 1 (Gorffennaf i Hydref 2023) yn amlinellu ein nodau cyffredinol a’n rhaglen ar gyfer gwneud y Dreth Gyngor yn decach. Roedd ein hymgynghoriad Cam 2 (Tachwedd 2023 i Chwefror 2024) yn cynnig tri dull o newid y system, a thri dewis ar gyfer pryd y dylai’r newidiadau hynny gael eu rhoi ar waith.
Yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym ni
Rydym wedi gwrando ar yr hyn gwnaethoch ei ddweud wrthym drwy’r ymgynghoriad Cam 2 yn 2024. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu diwygio’r Dreth Gyngor dros yr amserlen arafach a gynigiwyd, gan wneud newidiadau yn 2028, gan mai dyma oedd y farn fwyaf poblogaidd.
Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu ymhellach i edrych ar ailbrisio eiddo a sut dylai’r bandiau treth a’r taliadau gael eu gwneud yn decach. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau pellach yn nhymor nesaf y Senedd.
Beth sy’n digwydd nesaf
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yw'r gyfraith sy'n caniatáu ailbrisio rheolaidd bob 5 mlynedd, gan ddechrau o 2028. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y prisiadau yn cael eu diweddaru’n gyson, a’ch bod yn talu’r swm cywir o’r Dreth Gyngor.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i wella elfennau eraill o’r Dreth Gyngor, drwy:
- adolygu’r holl ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau, er mwyn sicrhau bod y rhain yn addas i’r diben ac yn cyd-fynd â nodau’r polisi. Mae 53 o gategorïau i’w hadolygu.
- cadw a gwella ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol sy'n darparu cymorth ariannol hanfodol i aelwydydd incwm isel
- ymgymryd â gwaith rheoleiddio i ymwreiddio arferion gorau wrth ymdrin ag aelwydydd sy'n cael anhawster a chanddynt ddyled y Dreth Gyngor
- parhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae’r Dreth Gyngor yn gweithio a’r hyn y mae’n talu amdano, mynd i'r afael â mythau cyffredin a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael i bobl.
- ymgymryd â gwaith rheoleiddio i wella’r broses apelio fel ei bod yn fwy effeithiol ac yn haws ei defnyddio, gan wella tryloywder gwybodaeth
Adolygu disgowntiau a gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Mae bron hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn cael rhyw fath o ddisgownt neu ostyngiad yn eu bil Treth Gyngor. Mae'n bwysig ein bod yn adolygu'r trefniadau hyn oherwydd eu bod wedi bod ar waith ers amser maith, er mwyn sicrhau bod y rheolau’n cadw'r system yn deg.
Mae adolygiad ar y gweill o’r 53 o gategorïau o ddisgowntiau, personau a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau. Byddwn yn rhyddhau ymgyngoriadau ar newidiadau penodol wrth iddynt gael eu datblygu. Rydym wedi penderfynu cadw’r disgownt person sengl o 25% i oedolion.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn barhaus, sy’n rhoi cymorth hanfodol i tua 261,000 o aelwydydd incwm isel ym mhob cwr o Gymru. Yn 2025 gwnaethom newidiadau i reoliadau i alluogi awdurdodau lleol i weinyddu cymorth yn fwy effeithiol.
Rydym yn parhau i fynd i’r afael ag effaith cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gymunedau lleol. Bydd rhagor o amser i’r polisïau hyn arwain at effeithiau cadarnhaol ar gyflenwadau tai, cyn inni gyflwyno newidiadau pellach i’r Dreth Gyngor.
Pobl sydd mewn dyled Treth Gyngor
Mae Treth Gyngor yn fath o dreth sefydlog a gesglir yn eang i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu Treth Gyngor. Rydym hefyd yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i roi'r offer sydd eu hangen ar gynghorau i gasglu'r Dreth Gyngor gan y rhai sy'n osgoi talu eu cyfran deg.
Gwella mynediad at wybodaeth
Rydym yn gwybod o ymchwil flaenorol nad yw rhai pobl yn gwybod sut mae system y Dreth Gyngor yn gweithio, am beth y mae’n ei dalu, sut mae penderfyniadau amdani yn cael eu gwneud, a pha sefydliad sy’n gyfrifol am benderfynu ar y gwahanol reolau.
Rydym wedi ymrwymo i wella ymwybyddiaeth o’r Dreth Gyngor a gwella mynediad at wybodaeth drwy ein rhaglen ddiwygio ehangach.
Proses fwy effeithiol ar gyfer apelio
Byddwn yn diogelu hawliau pobl i apelio fel rhan o unrhyw newidiadau i’r system yn y dyfodol, gan ddefnyddio sefydliadau annibynnol fel Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Rydym yn gwneud y broses o lywio rhwng y sefydliadau hyn yn haws ac yn fwy tryloyw.