Gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i dalu am eich Treth Gyngor a sut mae'r Dreth Gyngor yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol.
Cynnwys
Cymorth i dalu'ch Treth Gyngor
Gostyngiadau a disgowntiau'r Dreth Gyngor
Fel arfer, mae bil Treth Gyngor yn seiliedig ar 2 oedolyn sy'n byw mewn eiddo, ond mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd eich bil yn cael ei leihau.
Darganfyddwch fwy am ostyngiadau a disgowntiau'r Dreth Gyngor.
Anhawster talu eich Treth Gyngor
Os ydych yn cael trafferth talu eich Treth Gyngor, neu os ydych eisoes mewn dyled gyda'ch Treth Gyngor, rhaid i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol am help. Mae'n well gwneud hyn cyn gynted ag y gallwch, cyn colli unrhyw daliadau.
Ewch i hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi i wirio pa gymorth ariannol arall y gallai fod gennych hawl iddo.
Beth mae eich Treth Gyngor yn talu amdano
Mae'r Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom ei dalu. Mae eich Treth Gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yn eich ardal, fel ysgolion a gofal cymdeithasol.
Rydym eisiau gwybod eich barn
Rydym eisiau darganfod faint rydych chi'n ei wybod am y Dreth Gyngor, beth ydych chi'n meddwl y mae'n talu amdano a ble rydych chi'n mynd i gael cymorth.
Ein cynlluniau i ddiwygio'r Dreth Gyngor
Rydym yn creu system Dreth Gyngor decach i bawb sy'n byw yng Nghymru.