Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith archaeolegol ar safle ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi datgelu twmpath llosg mawr sydd oddeutu 3500 o flynyddoedd oed gyda thri chafn oddi tano.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bosibl y gallai un ohonynt fod yn ganŵ sydd wedi'i ddatgloddio a allai fod yn ddarganfyddiad sylweddol.

Er bod twmpathau llosg yn safleoedd cymharol gyffredin a'u bod yn cael eu darganfod ger dŵr fel arfer, gallai datgelu twmpath sy'n mesur tua thri metr fod yn ddarganfyddiad arwyddocaol. 

Daeth yn amlwg yn ystod y gwaith cloddio fod darn mawr o bren wedi'i warchod o fewn y cafn a allai ddyddio yn ôl i o leiaf 1500CC. Darganfuwyd ei fod yn foncyff i hen goeden dderw a oedd wedi'i gafnu, a chred archaeolegwyr ei fod yn debygol o fod yn ganŵ a gafodd ei ailddefnyddio fel cafn. Mae'n bosibl, fodd bynnag, mai cafn ydoedd gydol yr amser yn hytrach na chanŵ. 

Os mai canŵ yw'r pren sydd wedi'i warchod yn dda iawn mae'n ddarganfyddiad prin iawn a dyma'r enghraifft gynhanesyddol gyntaf i'w darganfod yng Ngogledd-orllewin Cymru. 

Mae'r pren bellach wedi'i godi ac mae wrthi'n cael ei asesu ymhellach gan arbenigwyr. 

Mae darn o ffordd Rufeinig hefyd wedi'i gloddio. Cafodd y llwybr ei bennu ar yr arolwg geoffisegol ac roedd yn edrych fel cefnen isel sy'n rhedeg drwy nifer o gaeau cyn i'r gwaith cloddio gychwyn. 

Mae'r cynllun wedi'i gwneud hi'n bosibl i ymchwilio i ran lawer iawn hirach o'r ffordd ac mae wedi cadarnhau llwybr y ffordd rhwng caer Segontium (Caernarfon) a chaer Canovium (Caerhun, Dyffryn Conwy), a oedd yn ansicr cyn hynny. 

Mae safle diwydiannol canoloesol cynnar sy'n dyddio yn ôl i'r 8fed ganrif hefyd wedi'i ddarganfod. Er na chafodd unrhyw olion o fetel eu darganfod yn ystod y gwaith cloddio roedd y samplau a gasglwyd yn ystod cam gwaith cynharach yn cynnwys tameidiau o haearn o'r enw hammerscale sef gwreichion poeth a gaiff eu creu wrth i haearn poeth gael ei daro gan forthwyl.

Cychwynnodd cam cyntaf yr astudiaethau archaeolegol sydd wedi'u cynllunio ar ddiwedd mis Chwefror ac mae'r gwaith yma bellach wedi'i gwblhau. Bydd y gwaith archaeolegol a gynlluniwyd bellach yn mynd rhagddo fel rhan o gam nesaf y gwaith cloddio. 

Nid yw'r casgliadau hyn yn effeithio ar y gwaith o adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn unol â'r disgwyl o hyd a gallai fod wedi'i gwblhau erbyn hydref 2021. 

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:

"Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn gynllun arwyddocaol gan Lywodraeth Cymru yng Ngogledd-orllewin Cymru. Bydd yn sicr yn creu manteision sylweddol ar gyfer cymunedau lleol yn ogystal â phobl sy'n teithio yn yr ardal. Mae'r darganfyddiadau archaeolegol yn gam positif arall sylweddol a fydd yn deillio o'r datblygiad hwn ac mae'n creu darlun cyffrous o hanes canoloesol y rhanbarth a fydd yn ennyn diddordeb rhagor o bobl ynddo. 

"Efallai na fyddai'r darganfyddiadau pwysig hyn wedi digwydd heb y ffordd osgoi hon a hoffwn ddiolch i'r tîm o archaeolegwyr, contractwyr a'r holl bobl eraill sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatgelu'r darganfyddiadau eithriadol hyn. 

"Roedd yr ymchwiliadau hyn wedi'u cynllunio o'r dechrau'n deg ac ni fyddant yn effeithio ar yr amserlen adeiladu sy'n mynd rhagddo'n unol â'r disgwyl."

Dywedodd Uwch Archaeolegydd Cynllunio Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd, Jenny Emmett:

"Mae'r gwaith o liniaru effeithiau niweidiol datblygiadau ar archaeoleg yn mynd rhagddo'n dda iawn ac mae'r canlyniadau eisoes wedi ychwanegu'n sylweddol at ein gwybodaeth am yr ardal.  Mae disgwyl i ragor o wybodaeth newydd ddeillio o'r cynllun wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ar y safle ac wrth i'r gweddillion gael eu dadansoddi gan arbenigwyr yn dilyn y gwaith cloddio.

"Rydym yn hapus iawn â'r darganfyddiadau arwyddocaol ac â'r cysylltiadau gwaith positif sydd wedi'u sefydlu rhwng yr holl bobl sydd ynghlwm wrth y Cynllun. Yn sicr mae'r cysylltiadau hyn wedi helpu i sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo'n ddidrafferth ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau wrth i'r cynllun symud ymlaen."

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/skkgJ2n283g.jpg?itok=SOV_ozYB","video_url":"https://www.youtube.com/watch?v=skkgJ2n283g&feature=youtu.be","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}