Adroddiad sy'n dangos y dangosyddion a ddefnyddir i fesur perfformiad awdurdodau lleol ar lefel genedlaethol ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer Ebrill 2015 i Mawrth 2016.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif bwyntiau
Mae'r data ar gyfer Dangosyddion Strategol Cenedlaethol 2015-16 yn dangos darlun cyffredinol o welliant dros 2014-15 yn y perfformiad, a fesurir gan gyfartaledd Cymru, gyda gwelliant mewn perfformiad ar gyfer 17 o ddangosyddion. Fodd bynnag, gwelwyd dirywiad mewn perfformiad ar gyfer 12 o ddangosyddion.
Rhwng 2014-15 a 2015-16, lle’n berthnasol, ar gyfer cyfartaledd Cymru:
- bu gwelliant mewn saith allan o'r wyth dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer addysg
- bu gwelliant mewn tri o’r pedwar dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer yr amgylchedd a thrafnidiaeth
- bu gwelliant mewn saith allan o'r deuddeg dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer gofal cymdeithasol
- bu dirywiad yn y ddau ddangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer tai
- bu dirywiad yn y ddau ddangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer hamdden a diwylliant
- bu dirywiad yn y dangosydd (a ellir ei gymharu) ar gyfer gwasanaethau cynllunio a rheoli
- bu dirywiad mewn pump o’r deuddeg dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer gofal cymdeithasol
- bu dirywiad mewn un o’r pedwar dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer yr amgylchedd a thrafnidiaeth
- bu dirywiad mewn un o’r wyth dangosydd ar gyfer addysg.
Hysbysiad terfynu
Nid yw'r adroddiad hwn yn cael ei ddiweddaru bellach. Gan fod Data Cymru hefyd yn cynhyrchu dangosyddion tebyg o berfformiad awdurdodau lleol, er mwyn lleihau'r baich diangen a symleiddio ein prosesau, penderfynwyd terfynu'r NSIs. Gellir gweld manylion dangosyddion perfformiad diweddaraf yr awdurdodau lleol ar wefan Data Cymru.