Adroddiad blynyddol sy'n dangos y dangosyddion a ddefnyddir i fesur perfformiad awdurdodau lleol ar lefel genedlaethol ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol allweddol.

Pwyntiau allweddol

Mae'r data ar gyfer DSC 2015-16 yn dangos darlun cyffredinol o welliant dros 2014-15 yn y perfformiad, a fesurir gan gyfartaledd Cymru, gyda gwelliant mewn perfformiad ar gyfer 17 o ddangosyddion. Fodd bynnag, gwelwyd dirywiad mewn perfformiad ar gyfer 12 o ddangosyddion.

Rhwng 2014-15 a 2015-16, lle’n berthnasol, ar gyfer cyfartaledd Cymru:

  • bu gwelliant mewn saith allan o'r wyth dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer addysg
  • bu gwelliant mewn tri o’r pedwar dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer yr amgylchedd a thrafnidiaeth
  • bu gwelliant mewn saith allan o'r deuddeg dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer gofal cymdeithasol
  • bu dirywiad yn y ddau ddangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer tai
  • bu dirywiad yn y ddau ddangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer hamdden a diwylliant
  • bu dirywiad yn y dangosydd (a ellir ei gymharu) ar gyfer gwasanaethau cynllunio a rheoli
  • bu dirywiad mewn pump o’r deuddeg dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer gofal cymdeithasol
  • bu dirywiad mewn un o’r pedwar dangosydd (a ellir eu cymharu) ar gyfer yr amgylchedd a thrafnidiaeth
  • bu dirywiad mewn un o’r wyth dangosydd ar gyfer addysg.

Gwybodaeth bellach

Y datganiad hwn yw'r olaf yn y gyfres hon o allbynnau ystadegol.

Adroddiadau

National Strategic Indicators, 2015-16 (Saesneg yn unig)
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 569 KB

PDF
569 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.