Dangosyddion llesiant cenedlaethol a cherrig milltir 2024: adroddiad ansawdd
Mae’r ddogfen hon yn darparu dolenni lle mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn perthynas ag ansawdd y data a ddefnyddir yn y Dangosyddion Cenedlaethol a gyhoeddir yn adroddiad Llesiant Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r dolenni’n rhoi manylion fel cwmpas, cryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r dangosyddion. Mae'r ddogfen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am y dulliau a ddefnyddir i asesu cynnydd yn erbyn y cerrig milltir cenedlaethol.
Cerrig milltir cenedlaethol
Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y don gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol Cymru, a gosodwyd yr ail don ym mis Tachwedd 2022. Mae cyfanswm o 17 o gerrig milltir cenedlaethol ar draws 16 dangosydd cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant.
Rydym wedi asesu cynnydd pob un o'r cerrig milltir cenedlaethol. Asesir newid ers 2015, gan mai hon oedd blwyddyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, er na chafodd y cerrig milltir eu hunain eu gosod tan yn nes ymlaen. Lle nad oes data ar gael ar gyfer 2015, mae'r flwyddyn agosaf bosibl wedi'i defnyddio.
Mae rhai o'r 17 carreg filltir sawl yn cynnwys sawl rhan, felly mae cyfanswm o 21 asesiad cynnydd. Rydym yn neilltuo pob mesur fel naill ai wedi gwella, wedi dirywio, dim newid neu heb ei asesu. Nid ydym wedi ystyried a yw'r cerrig milltir ar y trywydd iawn i'w bodloni, dim ond cyfeiriad y newid. Lle bo'n bosibl, defnyddir cyfyngau hyder i asesu a yw'r newid yn ystadegol arwyddocaol. Ar gyfer rhai o'r dangosyddion nad ydynt yn seiliedig ar ddata arolwg, nid yw cyfyngau hyder ar gael. Yn yr achosion hynny, aseswyd newid dros amser yn seiliedig ar ganllawiau gan yr arbenigwr data.
Dangosyddion cenedlaethol
Gan fod y data ar gyfer y dangosyddion wedi eu casglu o amryw o wahanol setiau data, bydd lefel yr wybodaeth am ansawdd sydd ar gael yn amrywio o achos i achos. Ar gyfer y dangosyddion a gymerir o ddata a ddynodir gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fel Ystadegau Swyddogol Achrededig, bydd adroddiadau ansawdd ar gael mewn mannau eraill sy’n rhoi manylion am y fethodoleg a ddefnyddir a hefyd yn ymdrin â materion sy’n ymwneud ag ansawdd data. Gan hynny, lle bo hynny’n wir, rydym wedi darparu dolenni i’r adroddiadau ansawdd hynny. Ar gyfer y dangosyddion lle mae’r data yn Ystadegau Swyddogol, yn hytrach na rhai sydd wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig, efallai na fydd adroddiad ansawdd ar gael. Er hynny, bydd gwybodaeth am ansawdd ar gael yn y datganiad ystadegol, os cyhoeddir un. Felly, yn yr achosion hyn rydym wedi darparu dolenni i’r datganiad ystadegol perthnasol.
Ar gyfer rhai dangosyddion lle nad yw’r data’n cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, mae’n debygol y bydd llai o wybodaeth am ansawdd wedi ei chyhoeddi yn barod, ac felly rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am ansawdd yn y ddogfen hon.
Dangosydd 1: Canran genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o lai na 2,500g
Mae gwybodaeth am ansawdd data ar gael yn yr adroddiad ansawdd sy’n cyd-fynd â’r datganiad blynyddol ystadegau mamolaeth a genedigaethau.
Dangosydd 2: Disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig
Cyhoeddir disgwyliad oes iach adeg geni, gan gynnwys gwybodaeth dechnegol am y mesurau, gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cyhoeddi dogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg gynhwysfawr, yn y templed excel ar gyfer cyfrifo disgwyliad oes iach (SYG) yn ogystal â ystadegau disgwyliad oes iach (SYG). Nid yw’r sylw i’r gyfres amser a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mor gyflawn â’r hyn a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, felly Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r brif ffynhonnell y cyfeirir ati ar gyfer y dangosydd hwn ar hyn o bryd.
Dangosydd 3: Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw
Daw'r data o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gall ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd fod yn faes cymhleth i’w fesur ac efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng yr hyn mae pobl yn ei ddweud a’r hyn maen nhw’n ei wneud. Fodd bynnag, mae data’r arolwg yn dal i fod yn ffordd ddibynadwy o gymharu patrymau dros amser a rhwng gwahanol grwpiau. Mae’r dangosydd hwn yn cyfuno gwybodaeth am bum ymddygiad gwahanol o ran ffordd o fyw. Ni ddylid cymharu canlyniadau 2020-21 ymlaen â chanlyniadau'r blynyddoedd blaenorol. Am fwy o wybodaeth, gweler y canlyniadau ar ffordd o fyw oedolion ac adroddiad ansawdd arolwg cenedlaethol Cymru.
Dangosydd 4: Lefelau llygredd Nitrogen Deuocsid (NO2) yn yr aer
Bob blwyddyn mae model Mapio Llygredd yn yr Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo cyfartaledd crynodiadau llygryddion ar gyfer pob cilomedr sgwâr yn y DU. Mae’r model yn cael ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data cyhoeddedig hwn i neilltuo crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd breswyl yng Nghymru ar sail y cilometr sgwâr o Gymru y mae wedi ei lleoli ynddo.
Ar gyfer pob ardal cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol sy’n cynnwys tua 150 o aelwydydd), cynhyrchwyd cyfartaledd ar gyfer y crynodiadau llygredd sy’n gysylltiedig â phob annedd i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 cyfartalog ar draws ardal cynnyrch y cyfrifiad.
Ar gyfer pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, cyfrifwyd cyfartaledd pwysedig y boblogaeth dros ardal cynnyrch y cyfrifiad i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 cyfartalog yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw yn yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd hefyd ar draws holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad er mwyn rhoi ffigur cymharol ar gyfer Cymru gyfan.
Ar gyfer diweddariad 2022 o'r dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer, gweithredwyd gwelliant methodolegol i'r ffordd y cyfrifir pwysau'r anheddau, gan nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer (cyn 2022) yn cyfrifo'r pwysau yn y ffordd a fwriadwyd. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar y data hanesyddol ac mae'r effaith yn fach. O ystyried bod y data llygredd aer yn cael ei fodelu a bod amcangyfrifon y boblogaeth yn ddarostyngedig i ailfodelu yn dilyn y Cyfrifiad, mae ansicrwydd yn bodoli sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, y diffyg data anheddau hanesyddol manwl ac effaith fechan y newid methodolegol, nid yw'r data hanesyddol wedi'i ddiwygio.
Dangosydd 5: Canran y plant sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd iach o fyw
Mae'r data yn seiliedig ar Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n cael ei arwain gan y Ganolfan Gwerthuso a Datblygu Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn 2021/22, roedd bron i 125,000 o fyfyrwyr o 202 o ysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg.
Gweler adran “Dulliau” yr adroddiadau cenedlaethol am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Dangosydd 6: Mesur datblygiad plant ifanc
Gweler adran asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen yn y datganiad ystadegol ar gyfer Cyrhaeddiad academaidd disgyblion yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3, 2022. Oherwydd bod y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru wedi cael ei gyflwyno, nid yw’r data asesu sylfaenol yn cael ei gofnodi gan ysgolion mwyach. Y cyhoeddiad hwn yn 2022 yw'r set ddata olaf ar gyfer datganiadau gwaelodlin.
Dangosydd 7: Sgôr 9 pwynt wedi ei chapio cyfartalog ar gyfer disgyblion, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys
Oherwydd y tarfu ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws (COVID-19), cadarnhaodd y Gweinidog Addysg na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfrifo nac yn cyhoeddi mesurau perfformiad yn 2021/22 ar gyfer carfannau Blwyddyn 11 a chweched dosbarth. Roedd hyn yn parhau â’r trefniadau a oedd ar waith rhwng 2019/20 a 2020/21.
Roedd cyfnod arholiadau 2022 yn flwyddyn bontio lle’r oedd disgyblion o Gymru yn dychwelyd i sefyll arholiadau ysgrifenedig. Ni ddychwelyd yn llwyr i'r system arholiadau cyn y pandemig. Er mwyn gwneud iawn am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, cafodd disgyblion a safodd arholiadau yn 2022 ddewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd (yn fras) rhwng 2019 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2021. Yn y flwyddyn ysgol 2022/23, gwelwyd newid pellach yn ôl i'r trefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth ar gyfer dysgwyr). Roedd y gefnogaeth hon ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o bennu graddau. Yn 2022/23, gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a chanlyniadau 2021/22.
Cafodd disgyblion a gafodd gymhwyster yn ystod cyfnodau haf 2020 a 2021 raddau ar sail model graddau a bennwyd gan y ganolfan neu a aseswyd gan y ganolfan. Cafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau, ar sail eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heb fod yn arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).
Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol y datganiad ystadegol blynyddol ar Ganlyniadau Arholiadau.
Dangosydd 8: Canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
Gweler adran ansawdd y datganiad ystadegol Lefel y cymhwyster uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio.
Dangosydd 9: Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr gweithio, mynegai (Deyrnas Unedig = 100)
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Cynhyrchiant Llafur (SYG).
Dangosydd 10: Incwm Gwario Gros yr Aelwydydd y pen
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn eu papur gwybodaeth am ansawdd a methodoleg incwm aelwydydd crynswth i’w wario ar lefel ranbarthol.
Dangosydd 11: Canran y busnesau sy’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol
Mae’r data hwn yn dangos canran y busnesau sy’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol. Mae diffiniad y Deyrnas Unedig o arloesedd yn seiliedig ar ddiffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a amlinellir yn Llawlyfr Oslo 2018. Ystyrir bod busnesau’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol os ydynt:
- wedi cyflwyno cynnyrch (nwyddau neu wasanaeth) neu broses newydd neu sydd wedi gwella’n sylweddol
- wedi cyfrannu at brosiectau arloesi sydd heb gael eu cwblhau eto neu sydd wedi cael eu rhoi o’r neilltu
- wedi sicrhau ffurfiau newydd a llawer gwell o ran trefniadaeth, arferion neu strwythurau busnes, a strategaethau neu gysyniadau marchnata
Er bod pob cyfradd ar gael ar gyfer y ddwy sail poblogaeth, yn ogystal ag ar gyfer sawl grŵp oedran arall, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o’r cyfraddau, fel a ganlyn:
- canran y boblogaeth o oedran gweithio
- gweithgarwch economaidd
- cyflogaeth
- anweithgarwch economaidd (gan gynnwys neu eithrio myfyrwyr)
- canran y boblogaeth economaidd weithgar 16 oed a hŷn
- diweithdra ILO
Arolwg Arloesedd y DU
Mae Arolwg Arloesedd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Arolwg Arloesi’r Deyrnas Unedig yw’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer arloesi ym myd busnes yn y Deyrnas Unedig. Mae’r arolwg yn seiliedig ar holiadur craidd a ddatblygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd (Eurostat) ac Aelod-wladwriaethau. Ymatebodd tua 14 mil o fentrau yn y Deyrnas Unedig i Arolwg Arloesi’r Deyrnas Unedig 2021, sef cyfradd ymateb o 42.6%. Roedd yr arolwg yn wirfoddol ac yn cael ei gynnal yn bennaf drwy holiadur electronig. Cysylltwyd â busnesau na chwblhaodd ymateb electronig ar gyfer cyfweliad ffôn. Roedd yr arolwg yn cynnwys mentrau â 10 neu fwy o weithwyr yn adrannau C-K y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol 2007. Mae’r sampl wedi ei dethol o Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Amlder cyhoeddi
Bob dwy flynedd
Cyfnodau cyfeirio data
2008/10 i 2018/20
Defnyddwyr, dibenion defnyddio a chyd-destun
Mae’r data’n bwydo i mewn i’r dadansoddiadau economaidd a gwaith arall sy’n ymwneud â pholisi. Mae’n rhoi ciplun cyfnodol o ymddygiad o ran arloesedd, gyda’r budd ychwanegol o set ddata’r panel sy’n hwyluso astudiaethau hydredol a gwerthusiadau o bolisïau arloesi.
Ansawdd ystadegol
Mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon a seilir ar samplau ac felly’n dangos amrywioldeb samplu i raddau gwahanol, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur mewn ystod sy’n ymwneud â’r gwerth amcangyfrifol. Mae’r ystod neu’r amrywioldeb samplu dan sylw yn cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn amrywio mwy na data Cymru.
Am fwy o wybodaeth gweler Arolwg Arloesi’r DU, 2021 (BEIS).
Dangosydd 12: Capasiti mewn megawat (MW) y cyfarpar ynni adnewyddadwy a osodir
Daw’r dangosydd o’r astudiaeth Cynhyrchu Ynni yng Nghymru. Comisiynwyd Regen gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cronfa ddata o brosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru; canfod i ba raddau mae’r prosiectau'n eiddo i unigolion, sefydliadau a chymunedau yng Nghymru; a dadansoddi’r data i lunio adroddiad ar gynnydd.
Mae’r dull ymchwil a ddatblygodd Regen i greu darlun manwl o ddulliau cynhyrchu ynni ledled Cymru yn cynnwys:
- adnabod, coladu, glanhau a chroesgyfeirio cofnodion o’r cyfresi data presennol
- dilysu a dadansoddi’r data i sicrhau trosolwg cenedlaethol cadarn a data lleol pan fydd ar gael
- dilysu’r data gyda rhanddeiliaid a’r diwydiant lle bo'n briodol
- ymchwilio i fanylion perchenogaeth, gan gynnwys cyfeirio at Dŷ’r Cwmnïau i bennu prosiectau sy’n eiddo lleol
Y prif ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth
- Data gan yr Anaerobic Digestion & Bioresources Association (ADBA)
- Cyswllt â chyfleustodau, gosodwyr a sefydliadau’r diwydiant
- DESNZ Crynodeb o Ystadegau Ynni y DU
- EMR Marchnad Capasiti
- Data Contractau Carbon Isel Contractau ar gyfer Gwahaniaeth
- Data gosodiadau MCS
- Cofrestr Gallu Mewnol Dosbarthiad Trydan Grid Cenedlaethol
- Cofrestr Capasiti Trosglwyddo Grid Cenedlaethol ESO
- Data Canolfan Cnydau Di-fwyd Genedlaethol
- Data Tariff Cyflenwi Trydan Ofgem
- Data Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy
- Cronfa ddata Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy
- Data Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy a Thaliad y Premiwm Gwres Adnewyddadwy
- Cofrestr Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy
- Cofrestr Gallu Mewnol Rwydweithiau Ynni SP
Dangosydd 13: Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd
Caiff ei fesur o samplau pridd gan ddefnyddio’r fethodoleg colled wrth danio i bennu crynodiad carbon y pridd yn y 0 i 15cm uchaf. Casglodd Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir dystiolaeth ar gyfer pob un o’r chwe chanlyniad arfaethedig o gynllun Glastir; lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd pridd a dŵr, atal dirywiad bioamrywiaeth, rheoli coedlannau yn well a gwella mynediad at dirwedd Cymru a chyflwr nodweddion hanesyddol. Cyflawnwyd llawer o hyn drwy arolwg maes o 300 o sgwariau 1km ledled Cymru, gyda hanner ohonynt yn canolbwyntio ar ardaloedd sy’n cael blaenoriaeth ar gyfer taliadau uwch. Dewisiwyd y sgwariau 1km ar hap o 26 dosbarth tir, gan sicrhau darpariaeth dda o dirwedd Cymru. Nid oedd yr arolwg yn cynnwys ardaloedd dinesig tra-datblygedig ac felly ni ddylid ei ystyried fel rhestr ar gyfer safleoedd tir llwyd.
Ail-arolygodd Arolwg Maes Cenedlaethol Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd (ERAMMP) 224 o'r 300 sgwâr 1km gwreiddiol rhwng 2021 a 2023. Roedd cyfanswm o 150 sgwâr yn cynrychioli tirwedd ehangach Cymru ac ail-arolygwyd 74 sgwâr i dargedu effaith Glastir. Cafodd y ddau arolwg, GMEP ac ERAMMP, eu cynnal dros nifer o flynyddoedd i leihau tuedd data yn sgil eithafion tywydd blwyddyn sengl. Bydd arwynebedd y ‘tir Glastir’ ym mhob 1km sgwâr a archwilir yn amrywio a chaiff hyn ei ystyried wrth ddadansoddi data.
Aseswyd statws a newid crynodiad carbon gan ddefnyddio data arolwg ailadroddus o raglenni arolwg maes GMEP ac ERAMMP. Roedd hyn yn wahanol i adroddiadau blaenorol, lle aseswyd newid trwy gysylltu crynodiad carbon yn GMEP yn ystadegol â monitro cynharach o'r Arolwg Cefn Gwlad, a ddefnyddiodd ddull samplu cydnaws ond a oedd yn cynnwys llai o safleoedd monitro. Ystyrir bod y dull presennol, a wnaed yn bosibl gan Arolwg Bwyd Cenedlaethol ERAMMP, yn rhoi gwerth mwy cadarn a chynrychioliadol i Gymru.
Gwybodaeth am yr arolwg GMEP a'r Arolwg Bwyd Cenedlaethol ERAMMP
Arolwg GMEP
Arolwg Bwyd Cenedlaethol ERAMMP
Hysbysu, Monitro a Gwerthuso Rheoli Tir Cynaliadwy (ERAMMP)
Dangosydd 14: Ôl troed byd eang Cymru
Mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi cyfrifo ôl-troed byd-eang ar gyfer Cymru yn ddiweddar gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl-troed Ecolegol. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella dealltwriaeth o ôl-troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ond a allai gael eu cynhyrchu yn unrhyw le yn y byd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y fethodoleg yn yr adroddiad Deall Ôl-troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC.
Dangosydd 15: Swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen
Mae’r dangosydd hwn yn cael ei gyfrifo o dair elfen ar wahân – gwastraff cartrefi, Gwastraff Adeiladu a Dymchwel, a Gwastraff Diwydiannol a Masnachol.
Gwastraff Cartrefi
Mae’r elfen hon yn seiliedig ar wastraff cartrefi gweddilliol (h.y. heb ei ailgylchu) a gesglir. Nid yw’r data hwn yn ystyried unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu fel gwastraff gweddilliol os yw'n cael ei ailgylchu yn ddiweddarach, na gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffrydiau ailgylchu sy’n cael ei wrthod ar gyfer ei waredu yn ddiweddarach. Ffynhonnell y data hwn yw Llif Data Gwastraff, sy’n casglu data gwastraff trefol awdurdodau lleol yn rheolaidd. Mae’r data yn seiliedig ar flwyddyn ariannol. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn y datganiad ystadegol: Rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol.
Gwastraff Adeiladu a Dymchwel
Mae’r elfen hon yn seiliedig ar ddiffiniad targed adfer Adeiladu a Dymchwel Fframwaith Gwastraff yr UE. Nid yw hyn yn cynnwys gwastraff peryglus a phridd a cherrig naturiol. Mae’n cynnwys gweithgareddau ôl-lenwi. Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Adeiladu a Dymchwel 2019, lle casglwyd data o 508 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021. Mae gwybodaeth fethodolegol ychwanegol ar gael yn Adran 2 yr adroddiad Arolwg gwastraff adeiladu a dymchwel (Cyfoeth Cenedlaethol Cymru).
Gwastraff Diwydiannol a Masnachol
Ffynhonnell y data hwn yw arolwg gwastraff Diwydiannol a Masnachol 2018, lle casglwyd data o 1,755 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Hydref 2019. Mae gwybodaeth fethodolegol ychwanegol ar gael yn Adran 2 yr adroddiad: Arolwg o wastraff diwydiannol a masnachol a gynhyrchwyd yng Nghymru 2018.
Dangosydd 16: Canran y bobl sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol
Cyfrifir y dangosydd hwn o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl sy’n cael eu cyflogi, ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.
Gweler Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, QMI (SYG).
Dangosydd 17: Y gwahaniaeth cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd
Mae gwybodaeth am wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei chyfrifo o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a’i chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'n seiliedig ar enillion canolrifol fesul awr amser llawn. Mae gwybodaeth am wahaniaeth cyflog ar sail Anabledd ac Ethnigrwydd yn cael ei chyfrifo o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Cyfrifir gwahaniaethau cyflog anabledd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl â’r cyflog fesul awr ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn anabl. Cyfrifir gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr Gwyn a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig â’r cyflog fesul awr ar gyfer gweithwyr Gwyn. Mae gwahaniaethau cyflog anabledd ac ethnigrwydd yn seiliedig ar enillion canolrifol fesul awr i bob gweithiwr cyflogedig.
Gweler Gwybodaeth ansawdd a methodoleg canlyniadau pensiwn ASHE, Cyflogau isel ac Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ; Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth; a'r data a gwybodaeth gwahaniaeth cyflog ethnigrwydd ac anabledd: Cyflog canolrifol yr awr a’r gwahaniaeth cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yn ôl statws anabledd ac ethnigrwydd, Cymru, 2014 i 2022
Dangosydd 18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y Deyrnas Unedig, wedi ei fesur ar gyfer pawb, plant, oedolion o oedran gweithio a’r rhai o oedran pensiwn
Cyhoeddir y data hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gellir dod o hyd i wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd ar wefan ystadegau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal dadansoddiad ychwanegol o setiau data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog er mwyn ystyried statws economaidd, deiliadaeth tai, teulu, ethnigrwydd a nodweddion anabledd. Mae’r data a’r dadansoddiadau cryno hyn ar gael ar dudalennau gwe Ystadegau Tlodi Llywodraeth Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar fethodoleg a dehongli data ar y tudalennau hyn yn ogystal.
Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau gyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy’n hepgor data arolwg y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021. Mae amcangyfrifon y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar gasglu’r data.
Casglwyd data yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 2022 drwy gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na’r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er ein bod wedi asesu ansawdd data y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 i fod yn ddigon cadarn i’w gyhoeddi, mae rhywfaint o duedd weddilliol yn sampl yr arolwg o hyd o ganlyniad i’r newid ym modd yr arolwg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dangosydd 19: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
Cafodd y cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru eu cymryd o’r Arolwg o Adnoddau Teulu, ac mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddosbarthu pobl yn defnyddio dull tebyg, ond nid union yr un fath (mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu hefyd yn defnyddio incwm a gofynnwyd rhai cwestiynau yn yr Arolwg Cenedlaethol i’r rhai a oedd yn cael eu hystyried fel rhai ‘ar y ffin’ o ran bod yn ddifreintiedig yn unig).
Gofynnwyd i oedolion nad oeddent yn bensiynwyr a oeddent wedi cael pethau fel ‘gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos y flwyddyn’, ‘digon o arian i gadw eu cartref mewn cyflwr priodol o ran addurn’ neu a oeddent yn gallu ‘cynilo £10 y mis neu fwy yn rheolaidd’. Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar a oeddent yn gallu fforddio’r eitemau hyn.
Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr, er enghraifft, a oedd eu ‘cartref yn ddigon cynnes’ a oeddent yn gallu ‘defnyddio car neu dacsi pan oedd angen’, neu a oeddent yn cael ‘mynd i wneud eu gwallt neu i dorri eu gwallt yn rheolaidd’. Roedd y cwestiynau hyn hefyd yn gofyn a allent eu fforddio, ond hefyd yn canolbwyntio ar beidio â gallu cael yr eitemau hyn am resymau eraill, fel iechyd gwael, neu neb i’w helpu ac ati.
Rhoddwyd sgôr i’r bobl nad oedd ganddynt yr eitemau y gofynnwyd amdanynt. Er enghraifft, os nad oedd ganddynt unrhyw eitem ar y rhestr, byddent yn sgorio 100, ac os oedd ganddynt bob eitem, byddent yn sgorio 0. Roedd pobl nad oeddent yn bensiynwyr ac a oedd wedi cael sgôr o 25 neu uwch, yn cael eu hystyried mewn amddifadedd ac roedd pensiynwyr a oedd wedi cael sgôr o 20 neu uwch yn cael eu hystyried mewn amddifadedd. Mae pensiynwyr a phobl nad ydynt yn bensiynwyr wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd ar gyfer y dangosydd hwn.
Gweler adroddiad ansawdd arolwg cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 20: Cyfran y cyflogeion y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio
Daw canlyniadau’r dangosydd hwn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gyhoeddwyd gan y SYG. Mae’r dangosydd hwn yn mesur swyddi gweithwyr 16 oed a hŷn, ac mae eu cyflog yn cael ei bennu gan gyfeirio at gydgytundeb ym mis Ebrill yn y blynyddoedd a ddangosir.
Dangosydd 21: Canran y boblogaeth 16-64 oed mewn gwaith yng Nghymru
Cyhoeddir y data hwn gan y SYG. Ewch i dudalen gwe Ansawdd a Methodoleg yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Dangosydd 22: Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi ei fesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
Gweler adran ansawdd y datganiad ystadegol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, a'r bwletin ystadegol ar gyfer Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y nodyn methodoleg ar gyfer cael amcangyfrifon o gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur a'r canllaw i wahanol ffynonellau ystadegau NEET yng Nghymru.
Dangosydd 23: Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
Mae’r dangosydd yn defnyddio canran y bobl sy'n ‘cytuno’n gryf’ neu'n ‘tueddu i gytuno’ â’r datganiad “Rwy’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol”. Ni ofynnwyd y cwestiynau ynghylch y dangosydd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2022-23.
Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ystadegol “Dylanwadu ar benderfyniadau mewn ardal leol”. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 24: Canran y bobl sy’n fodlon â’u gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl 16 oed a hŷn sy’n dweud eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’u gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref. Ni ofynnwyd y cwestiwn fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2022-23.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 25: Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
Mae hyn yn seiliedig ar bedwar cwestiwn gwahanol a ofynnwyd ddiwethaf yn 2021-22 fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac mae’n defnyddio canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n ‘ddiogel iawn’ neu’n ‘eithaf diogel’ ym mhob un o’r sefyllfaoedd canlynol ar ôl iddi dywyllu:
- yn y cartref
- wrth gerdded ar eu pennau eu hunain
- wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- wrth deithio mewn car
Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ystadegol "Teimlo'n ddiogel yn yr ardal leol”
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 26: Canran y bobl sy’n fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl 16 oed neu hŷn sy’n dweud eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’u hardal leol fel lle i fyw. Gofynnwyd y cwestiwn ddiwethaf fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2021-22.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth bellach a'r adroddiad ymchwil “Bodlon gyda'r ardal leol”.
Dangosydd 27: Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal, bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
Mae’r dangosydd hwn yn seiliedig ar dri chwestiwn gwahanol a ofynnwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2021-22, ac mae’n defnyddio cyfran y bobl sy’n cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno ar y canlynol:
eu bod yn perthyn i’w hardal leol
bod yr ardal leol yn lle gall pobl o gefndiroedd gwahanol gyd-dynnu’n dda
bod pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth
Gweler adroddiad ansawdd arolwg cenedlaethol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg a'r adroddiad ymchwil “Ymdeimlad o gymuned”.
Dangosydd 28: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
Mae’r dangosydd yn defnyddio canran yr oedolion sy’n rhoi o’u hamser am ddim i helpu clybiau neu sefydliadau. Nid yw’r data a gyflwynir yn cynnwys pobl sy’n gofalu am rywun.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 29: Sgôr lles meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
Oedolion
Mae’r sgôr lles meddyliol cymedrig yn cael ei chyfrifo yn ôl Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (WEMWBS). Er mwyn asesu lles meddyliol ar raddfa WEMWBS, rhoddwyd 14 datganiad i’r ymatebwyr fel “Rydw i wedi bod yn teimlo wedi ymlacio” a “Rydw i wedi bod yn meddwl yn glir” a gofynnwyd iddynt pa mor aml roedden nhw’n teimlo fel hyn ar raddfa pum pwynt, lle’r oedd 1 yn ‘ddim o’r amser’ a 5 yn ‘drwy’r amser’. Cyfrifwyd sgôr o 14 i 70 ar sail yr ymatebion hyn, ac roedd sgôr uwch yn dangos gwell llesiant. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r datganiad sy'n cynnwys llesiant meddyliol
Yn 2022-23, oherwydd natur sensitif y pwnc, cafodd y cwestiynau Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh eu gofyn yn rhan ar-lein yr arolwg.
Ni ddylid cymharu canlyniadau 2021-22 ymlaen â'r blynyddoedd blaenorol. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau'r Arolwg Cenedlaethol.
Plant
Mae’r sgôr lles meddyliol cymedrig yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (SWEMWBS). Mae’r data yn seiliedig ar yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr.
Cynhelir yr arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy'n cael ei arwain gan y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru; ICC; Cancer Research UK; a WISERD. Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn 2021/22, roedd bron i 125,000 o fyfyrwyr o 202 o ysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Gweler adran “Dulliau” yr adroddiadau cenedlaethol am ragor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Dangosydd 30: Canran y bobl sy’n unig
Dyma ganran yr oedolion sy’n unig yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld.
Ar gyfer y raddfa hon, dangoswyd cyfres o 6 datganiad i ymatebwyr a gofynnwyd iddynt ddynodi i ba raddau yr oedd pob gosodiad yn berthnasol i’r ffordd yr oeddent yn teimlo. Roedd 3 datganiad am ‘unigedd emosiynol (EL)’ a 3 am ‘unigedd cymdeithasol (SL)’.
- Rwy’n teimlo gwacter cyffredinol (EL)
- Rwy’n gweld eisiau cael pobl o’m cwmpas (EL)
- Rwy’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwrthod yn aml (EL)
- Mae digon o bobl y gallaf ddibynnu arnynt pan fydd gen i broblemau (SL)
- Mae llawer o bobl y gallaf ymddiried yn llwyr ynddynt (SL)
- Mae digon o bobl rwy’n teimlo’n agos atynt (SL)
Mae’r raddfa’n defnyddio tri chategori ymateb: Ydw / Mwy neu lai / Nac ydw – lle mae’r atebion niwtral a chadarnhaol yn cael eu sgorio fel “1” ar y cwestiynau sydd wedi’u geirio’n negyddol (yn yr achos hwn, cwestiynau 1 i 3). Ar yr eitemau sydd wedi’u geirio’n gadarnhaol (cwestiynau 4 i 6), mae’r atebion niwtral a negyddol yn cael sgôr o “1”. Mae hyn yn golygu bod ateb o “fwy neu lai” yn cael yr un sgôr ag ‘ie’ neu ‘na’, gan ddibynnu ar y cwestiwn.
Mae’r sgoriau ar gyfer pob cwestiwn unigol yn cael eu hadio at ei gilydd i ddarparu mesur o unigrwydd ar y cyfan. Mae hyn yn rhoi ystod bosibl o sgoriau o 0 i 6, lle mae 0 yn dynodi’r lleiaf unig a 6 yn dynodi’r mwyaf unig. At ddibenion adrodd, rydym wedi ystyried bod pobl sydd â sgôr rhwng 4 a 6 yn unig. Yn 2021-22, oherwydd natur sensitif rhai o’r cwestiynau, cafodd y modiwl unigrwydd ei gynnwys mewn adran ar-lein o’r arolwg. Ar ôl llenwi’r adran ffôn, gofynnwyd i’r ymatebwyr fynd ar-lein a llenwi’r adran olaf. Aeth 90% o’r bobl a gwblhaodd yr arolwg ffôn ymlaen i lenwi’r adran ar-lein.
Yn 2022-23, gofynnwyd y modiwl unigrwydd yn adran ffôn yr arolwg.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau'r Arolwg Cenedlaethol.
Dangosydd 31: Canran yr anheddau sy’n rhydd o beryglon
Roedd Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 yn mesur canran yr anheddau a oedd yn rhydd o beryglon categori 1 yn seiliedig ar y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch mesur a modelu'r peryglon hyn yn y canlyniadau Arolwg Cyflwr Tai Cymru ac yn yr adroddiad technegol.
Dangosydd 32: Nifer yr eiddo (cartrefi a busnesau) mewn perygl canolig neu uchel o lifogydd o afonydd a’r môr
Defnyddir y model Asesiad Bygythiad Llifogydd (FRAW), ynghyd â Set Ddata Derbynyddion Cenedlaethol diweddaraf 2023 (NRD 2023) i bennu nifer yr eiddo (preswyl ac amhreswyl) sy’n wynebu bygythiad o lifogydd o Afonydd, y Môr a Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach yng Nghymru. Mae'r wybodaeth ar gyfer 2024 ac mae'n cynnwys presenoldeb amddiffynfeydd llifogydd a symud amddiffynfeydd llifogydd o fewn y modelu (senarios wedi’u hamddiffyn a heb eu hamddiffyn).
Mae’r bygythiad o lifogydd wedi ei nodi mewn tri chategori risg:
Risg Uchel; Bygythiad mwy na neu'n hafal i 1 mewn 30 (3.3%) mewn unrhyw flwyddyn benodol
Risg ganolig; Bygythiad llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn fwy na neu'n hafal i 1 mewn 100 (1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer llifogydd afonydd a dŵr wyneb a llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn fwy nag neu'n hafal i 1 mewn 200 (0.5%) ar gyfer y môr.
Risg isel; Bygythiad llai nag 1 mewn 100 (1%) ar gyfer afonydd a llifogydd dŵr wyneb ac 1 mewn 200 (0.5%) ar gyfer y môr ond yn fwy na neu'n hafal i 1 mewn 1,000 (0.1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae FRAW fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd gyda dalgylch sy’n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o’r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Cynrychiolir cyrsiau dŵr llai sydd â maint dalgylch llai na 3 cilomedr sgwâr yn y data a mapiau Dŵr Wyneb FRAW.
Mae’r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a gynigir gan amddiffynfeydd rhag llifogydd ac yn addasu’r categori risg yn unol â hynny o senario cychwynnol ‘heb ei amddiffyn’.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau adroddiadau, tystiolaeth a data llifogydd ar wefan CNC.
Dangosydd 33: Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol
Mae gan anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol sgôr SAP (Gweithdrefn Asesu Safonol) o 65 neu uwch. Cafodd y sgoriau SAP eu mesur gan syrfewyr cymwys fel rhan o Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn adroddiad effeithlonrwydd ynni anheddau Arolwg Cyflwr Tai Cymru a'r adroddiad technegol.
Dangosydd 34: Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd
Mae gwybodaeth am ansawdd data ar gael yn yr adroddiad ansawdd sy’n cyd-fynd â’r datganiad ar ddigartrefedd.
Dangosydd 35: Canran y bobl sy'n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn
Mae’r dangosydd hwn yn mesur canran y bobl sy'n dweud eu bod wedi mynychu neu gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth 3 gwaith neu fwy yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae dadansoddiad manylach ar gael yn yr adroddiad ystadegol “Celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.” Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth bellach am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 36: Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar ddata’r cyfrifiad a data’r Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg.
Er mwyn bod yn gyson â dangosydd cenedlaethol 37, ‘Nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg’, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011 fel llinell sylfaen ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg, wedi’i gyfuno â data o Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg 2019-20 ar gyfer y rhai sy’n dweud eu bod naill ai’n ‘siarad Cymraeg yn rhugl’, yn gallu ‘siarad cryn dipyn o Gymraeg’, neu ‘yn gallu siarad ychydig o Gymraeg yn unig’; ac sydd hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd.
Nododd yr Arolwg o’r Defnydd o’r Gymraeg 2019-20 fod 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg 2013-15.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data blynyddol ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn ac yn awgrymu bod y dangosydd hwn wedi bod yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf ers Cyfrifiad 2011, sef tua 10 i 12%.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Defnydd y Gymraeg i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 37: Nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg
Mae’r dangosydd hwn yn defnyddio’r cyfrifiad poblogaeth.
Rydym o'r farn mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n dair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwybodaeth hefyd ar gael o ffynonellau fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon aelwydydd yn rhai hirsefydlog, gydag arolygon aelwydydd fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch o’r gallu i siarad Cymraeg i ni. Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol ('Gwahaniaethau mewn amcangyfrifon o Sgiliau Cymraeg') a Llywodraeth Cymru (‘Data Cymraeg o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018’) wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o'r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur hunan-lenwi statudol ac mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg gwirfoddol sy’n defnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Yn dilyn cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg, mae cynllun gwaith wedi'i gyhoeddi sy'n amlinellu'r gwaith y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o'r prif arolwg a ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. Roedd y cynllun gwaith hwn yn cyd-fynd â neges flog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd.
Rhwng cyfrifiadau, defnyddir Arolwg Cenedlaethol Cymru i fonitro tueddiadau yng nghyfran yr oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed neu hŷn sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i bobl ateb ie, na, a hefyd yn caniatáu i bobl ddweud nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg ond eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg. At ddiben y dangosydd hwn, diffinnir pobl sy’n gallu siarad Cymraeg fel y rhai sy’n ateb ‘ie’ i’r cwestiwn hwn yn unig.
Mae’n bosibl cymharu â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol Arolwg Cenedlaethol Cymru (2012 i 2015).
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 38: Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy
Oedolion
Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn deillio’n wreiddiol o’r Arolwg ar Oedolion Egnïol, sydd bellach wedi eu hymgorffori yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, gyda mân addasiadau.
Ar gyfer y dangosydd hwn, dangoswyd cyfres o weithgareddau dan do ac awyr agored i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cymryd rhan yn unrhyw un ohonynt. Os oeddent, gofynnwyd iddynt sawl gwaith yr oeddent wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd dros y 4 wythnos flaenorol.
Nid oes modd cymharu canlyniadau’r Arolwg ar Oedolion Egnïol ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaethau yn nyluniad yr arolwg.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Plant
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi gan Chwaraeon Cymru. Mae Arolwg Chwaraeon Ysgolion yn arolwg ar-lein o gyfranogiad chwaraeon disgyblion a darpariaeth addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion. Cynhaliwyd yr Arolwg Chwaraeon mewn Ysgolion diweddaraf yn 2022. Mae’r disgyblion yn llenwi holiadur ar eu cyfranogiad a’u hagweddau tuag at addysg gorfforol a chwaraeon. Yn arolwg 2022, cymerodd 116,000 o ddisgyblion blynyddoedd 3-11 o 1,000 o ysgolion ran yn yr arolwg.
Dangosydd 39: Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy'n cadw casgliadau archifol/treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achrededig y Deyrnas Unedig
Mae’r mesur ar gyfer amgueddfeydd yn dangos nifer y sefydliadau sydd wedi cyrraedd Safon Achredu Amgueddfeydd y Deyrnas Unedig. Y llinell sylfaen i fod yn gymwys ar gyfer statws achredu yw bod y sefydliad yn bodloni diffiniad 1998 Cymdeithas yr Amgueddfeydd o amgueddfa, sef: “Mae amgueddfeydd yn galluogi pobl i archwilio casgliadau ar gyfer cael ysbrydoliaeth, dysgu a mwynhau. Maent yn sefydliadau sy’n casglu a diogelu arteffactau a sbesimenau a gofalu eu bod ar gael ac yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y gymdeithas”; maent yn safle/lle/adeilad ffisegol sy’n agored i’r cyhoedd yn rheolaidd; maent yn galluogi’r cyhoedd i weld casgliadau’r sefydliad, ac ymgysylltu â nhw; mae ganddynt gyfansoddiad priodol sy’n cefnogi diben hirdymor amgueddfa gyhoeddus. Er mwyn ennill statws Achredu, rhaid i amgueddfa ddangos ei bod yn cael ei llywodraethu a’i rheoli’n briodol, yn rheoli ei chasgliadau’n effeithiol ac yn darparu profiadau priodol i ddefnyddwyr.
Mae’r mesur ar gyfer archifau yn dangos nifer y sefydliadau sy’n cadw archifau sydd wedi cyrraedd Safon Achredu’r Gwasanaeth Archifau yn y Deyrnas Unedig. Y diffiniad sylfaenol o wasanaeth archifau i’w gynnwys yn y mesur hwn yw y dylai’r Archifau Gwladol gydnabod bod y sefydliad yn Lle i Gadw cofnodion cyhoeddus lleol (ac sydd felly’n gorfod bodloni’r Safon Achredu er mwyn cadw’r dynodiad statudol hwn), a hefyd fod yn aelod o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
Mae gwybodaeth am y broses achredu ar gyfer amgueddfeydd ac archifau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dangosydd 40: Canran yr asedau amgylchedd hanesyddol dynodedig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
Henebion cofrestredig
Mae arolygon o gyflwr henebion cofrestredig yng Nghymru wedi bod yn cael eu cynnal ers canol yr 1980au; maent yn cael eu cynnal yn fewnol gan dîm o Wardeiniaid Henebion Maes Cadw. Heddiw, gwneir hyn drwy raglen arolwg treigl lle mae 10 y cant o’r asedau’n cael eu harolygu bob blwyddyn gyda methodoleg asesu gyson. Defnyddir saith categori cyflwr cyffredinol, sy’n amrywio o rai sydd wedi eu dinistrio i rai sydd wedi gwella’n sylweddol.
Mae’r rhan fwyaf o’r henebion cofrestredig yn strwythurau cloddwaith ac yn adeiladau hanesyddol heb eu meddiannu, sydd fel arfer mewn cyflwr gwael fel cestyll, abatai canoloesol a gweddillion diwydiannol segur. Mae nifer ohonynt mewn lleoliadau anghysbell a gwledig. Mae natur ffisegol yr henebion cofrestredig yn golygu, yn absenoldeb unrhyw ymyriadau penodol, y byddai’r asesiad mwyaf tebygol o gyflwr ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt yn sefydlog neu’n dangos mymryn o ddirywiad. Mae gwelliant i gyflwr bron yn ddieithriad yn digwydd o ganlyniad i ymyrraeth weithredol fel rheoli tir mewn ffordd gadarnhaol a phrosiectau cadwraeth sydd wedi eu targedu. Y prif fygythiadau sy’n effeithio ar henebion sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd mewn perygl yw'r tywydd, storm a difrod llifogydd sylweddol – mae pob un o’r rhain yn gysylltiedig ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a thwf llystyfiant gormodol sydd heb gael ei glirio sy’n arwain at bydredd naturiol cyflymach – y ffordd orau o reoli hyn yw drwy arferion rheoli tir cadarnhaol.
Adeiladau rhestredig
Mae arolygon o gyflwr adeiladau rhestredig wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghymru ers 1998. Mae'r rhaglenni arolygu yn edrych ar gyfnod treigl o bum mlynedd, ac mae tua 20 y cant o stoc adeiladau rhestredig Cymru’n cael eu harolygu bob blwyddyn. Bydd y rhaglen o arolygon yn sicrhau bod cyflwr y 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru yn ystod cyfnod y rhaglen yn cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg gyson. Cyfrifir cyfran yr adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella gan ddefnyddio data arolwg sy’n bodoli’n barod a’r data diweddaraf sydd ar gael o 20 y cant o’r stoc adeiladau sydd wedi cael ei ail-arolygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r ffigurau a gyflwynir ar gyfer pob blwyddyn yn ymwneud â’r sampl a arolygwyd yn ystod y flwyddyn honno. Daw sampl pob blwyddyn o nifer fach o awdurdodau lleol ar draws gwahanol ranbarthau Cymru. Rhaid disgwyl rhywfaint o amrywiad o un flwyddyn i’r llall.
Dangosydd 41: Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
Mae data lefel y Deyrnas Unedig ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei gynhyrchu o dan gontract i’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net. Mae'r adroddiad ar y set ddata hon yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ac mae’n rhoi gwybodaeth am y fethodoleg, y ffynonellau data a’r sicrwydd ansawdd (Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol).
Mae data Cymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn seiliedig ar ddata ar lefel y Deyrnas Unedig gyda ffynonellau data penodol i Gymru yn cael eu defnyddio pan fyddant ar gael. Lle nad oes data ar lefel Cymru, defnyddir amrywiaeth o ddulliau i rannu data ar lefel y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhannu yn ôl cyfran y boblogaeth neu weithgarwch economaidd. Mae mwy o ansicrwydd wrth fodelu systemau cymhleth fel allyriadau amaethyddol a defnydd tir. Mae cynhyrchwyr yr ystadegau a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau ansawdd y data.
Mae'r sectorau a ddefnyddir wrth adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru wedi newid, ond nid yw hyn yn effeithio ar yr amcangyfrif o gyfanswm yr allyriadau. Yn flaenorol, adroddwyd ar allyriadau tiriogaethol yng Nghymru gan ddefnyddio'r sectorau Cyfathrebu Cenedlaethol. Mae'r rhain wedi cael eu disodli gan y sectorau Ystadegau Allyriadau Tiriogaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well. Mae'r sectorau Ystadegau Allyriadau Tiriogaethol yn debyg i'r sectorau Cyfathrebu Cenedlaethol blaenorol ac mae'r DESNZ wedi cyhoeddi mapio rhwng diffiniadau'r ddau sector (DESNZ).
Dangosydd 42: Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru
Mae gwybodaeth am ansawdd ystadegau allyriadau defnydd ar gael yn Atodiad A y Datganiad o Gynnydd ar Gyllideb Carbon 1 yn yr adran methodoleg (tudalen 96).
Dangosydd 43: Ardal o ecosystemau iach yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu dull newydd gan ddefnyddio delweddau lloeren i ddiweddaru ein dealltwriaeth bresennol o ddosbarthiad a graddfa cynefinoedd ledled Cymru. Bydd modd ei ddiweddaru dros y blynyddoedd nesaf gan ddefnyddio methodoleg a ffynonellau data cyson.
Dylid ystyried bod yr amcangyfrif diweddaraf sy’n defnyddio’r fethodoleg newydd hon yn un ‘arbrofol’ ar hyn o bryd, oherwydd bwriedir gwneud rhagor o waith i fireinio’r dull er mwyn gallu cyflwyno’r canlyniadau’n fwy manwl yn y dyfodol. Mae’r amcangyfrif o gynefinoedd lled-naturiol a gyflwynir yma yn cynnwys ardaloedd sy’n amlwg yn gynefinoedd lled-naturiol, y rhai sy’n rhedyn a rhai darnau o dir, a elwir yma yn gynefinoedd ‘lled-naturiol ymgeisiol’ sydd â’r potensial i weithredu’n fwy tebyg i gynefinoedd lled-naturiol na chynefinoedd sydd wedi bod yn destun gwelliant amaethyddol dwys.
Am ragor o fanylion gweler neges friffio Cyfoeth Naturiol Cymru: Llinell sylfaen newydd o’r ardal o gynefin lled-naturiol yng Nghymru ar gyfer Dangosydd 43 (CNC).
Dangosydd 44: Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
Mae gwaith wedi cael ei gomisiynu drwy Raglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r dangosydd cenedlaethol ar Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar gyfuno amcangyfrifon blynyddol yn un dangosydd newid yn nosbarthiad rhywogaethau â blaenoriaeth dros amser.
Gweler ERAMMP Adroddiad-78: Adroddiad Interim ar Ddatblygu Dangosydd-44 (Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch methodoleg.
Dangosydd 45: Canran y cyrff dŵr wyneb a chyrff dŵr daear sydd wedi sicrhau statws cyffredinol da neu uchel
Ansawdd dŵr: Canran y cyrff dŵr wyneb a chyrff dŵr daear sydd wedi sicrhau statws cyffredinol da neu uchel o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae cyrff dŵr wyneb yng Nghymru yn cael eu dosbarthu ar sail eu statws gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel un o ofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Diffinnir statws da fel dŵr sy'n dangos newid bach yn unig o’r hyn a ddisgwylir fel arfer o dan amodau lle nad oes neb wedi tarfu arnynt. Mae statws cyffredinol da (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cynnwys y canlynol:
Dŵr Wyneb
- ‘Statws dŵr wyneb da’ yw’r hyn sy'n cael ei gyflawni gan gorff dŵr wyneb pan fydd ei ‘statws ecolegol’ a’i ‘statws cemegol’ yn dda o leiaf.
- Mae ‘statws ecolegol’ yn fynegiant o strwythur a gweithrediad ecosystemau dyfrol sy’n gysylltiedig â dyfroedd wyneb. Mae dyfroedd o’r fath yn cael eu dosbarthu fel rhai â ‘statws ecolegol da’ pan fyddant yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb.
- Mae ‘statws cemegol dŵr wyneb da’ yn golygu nad yw crynodiadau’r cemegau yn y corff dŵr yn uwch na’r gwerthoedd terfyn amgylcheddol a nodir yn y Gyfarwyddeb.
Dŵr daear
- ‘Statws dŵr daear da’ yw’r hyn sy'n cael ei gyflawni gan gorff dŵr daear pan fydd ei statws meintiol a’i statws cemegol yn dda.
- Mae ‘statws meintiol’ yn fynegiant o’r graddau yr effeithir ar gorff dŵr daear yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan waith tynnu dŵr. Mae’r statws yn dda os ydy hyn yn cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb.
- Mae ‘statws cemegol da’ yn cael ei briodoli i ddŵr daear pan fydd yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb ar gyfer y lefelau uchaf o gemegau diffiniedig.
Dangosydd 46: Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
Cyflwynwyd cyfres newydd o gwestiynau am gymryd rhan mewn materion byd-eang yn 2021 ac fe’i cynhwyswyd yn adran ar-lein yr Arolwg Cenedlaethol. Mae’r cwestiynau’n gofyn a yw ymatebwyr wedi rhoi neu godi arian, gwirfoddoli neu gefnogi unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â materion byd-eang fel hawliau dynol, ffoaduriaid, neu faterion amgylcheddol byd-eang.
Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gryfderau a chyfyngiadau'r arolwg.
Dangosydd 47: Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder
I’w fesur gan ddefnyddio arolwg cymdeithasol priodol, fel Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd rhagor o fanylion am y mesur ar gyfer y dangosydd hwn yn cael eu hychwanegu wrth i fanylion y dangosydd gael eu datblygu.
Dangosydd 48: Canran y siwrneiau drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus
Hyd nes bydd data ar gael o Arolwg Teithio Cenedlaethol, mesurir y dangosydd hwn gan ddefnyddio data ar y dull arferol o deithio i’r gwaith o’r arolwg llafurlu. Gweler adroddiad ansawdd (SYG) yr Arolwg o’r Llafurlu am ragor o wybodaeth.
Dangosydd 49: Canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai
Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu ragor o’u hincwm ar gostau tai sy’n deillio o ddata o Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae costau tai yn cynnwys rhenti, llog morgais ac ad-daliadau cyfalaf, trethi dŵr a charthffosiaeth, sicrwydd yswiriant strwythurol, taliadau gwasanaeth a threth gyngor (net o ad-daliadau). Nid yw defnydd domestig o ynni fel costau nwy a thrydan yn cael ei gasglu fel rhan o’r arolwg hwn, ac nid yw wedi ei gynnwys. Incwm yw incwm gros digyfwerth ar gyfer pob aelod o’r aelwyd ac mae’n cynnwys yr holl fudd-daliadau, pensiynau, buddsoddiadau ac enillion. Cyflwynir data ar gyfer gwahanol ddeiliadaethau tai, gan gynnwys: Pob daliadaeth; perchnogaeth lwyr; perchnogaeth gyda morgais; rhent preifat; a thai cymdeithasol ar rent (gan awdurdod lleol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig). Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar ddata blynyddoedd ariannol. Oherwydd maint sampl bach Cymru yn y data Arolwg Adnoddau Teulu, mae tair blwyddyn ariannol yn cael eu cyfuno.
Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau gyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy’n hepgor data arolwg y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021. Mae amcangyfrifon y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu’r data.
Casglwyd data yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 2022 drwy gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na’r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig COVID-19. Er ein bod wedi asesu ansawdd data y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 i fod yn ddigon cadarn i’w gyhoeddi, mae rhywfaint o duedd weddilliol yn sampl yr arolwg o hyd o ganlyniad i’r newid ym modd yr arolwg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dangosydd 50: Statws cynhwysiant digidol
Yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ochr yn ochr â datblygu safon byw digidol sylfaenol. Bydd rhagor o fanylion am y mesur ar gyfer y dangosydd hwn yn cael eu hychwanegu wrth i’r dangosydd gael ei ddatblygu.