Neidio i'r prif gynnwy

Yn adroddiad sy'n dangos gwybodaeth ar ardaloedd o goetir, plannu newydd, allbwn economaidd ac ymweliadau i goetir ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn 2018 y gorchudd coetir yng Nghymru oedd 308,000 hectar. 157,000 hectar o goed llydanddail a 151,000 hectar o goed conwydd.
  • Yn 2017 roedd 41,900 hectar mewn ardaloedd trefol wedi eu gorchuddio â choed.
  • Rhagwelir y bydd tir coedwig yn parhau i fod yn ddalfa net ar gyfer allyriadau.
  • Roedd 77% o oedolion a holwyd yng Nghymru wedi ymweld â choetiroedd ar gyfer gweithgareddau hamdden yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Roedd rhwng 10,300 ac 11,000 o bobl yn gweithio yn y sector coedwigaeth yng Nghymru yn 2017.
  • Cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector coedwigaeth oedd £665 miliwn.

Mae rhagor o wybodaeth

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dangosyddion i fesur ein cynnydd tuag at y canlyniadau lefel uchel a ddisgrifir yn Coetiroedd i Gymru.

Mae'r 23 dangosydd yn ymdrin â newidiadau o ran ardal a natur coetiroedd a choed Cymru. Maent hefyd yn monitro'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae'r adroddiad yn cynnwys:

  • ffynonellau data
  • y duedd a ddymunir ar gyfer pob dangosydd
  • gwybodaeth sylfaenol, lle bo ar gael. 
  • sylwebaeth yn nodi perthnasedd, pwyntiau allweddol ac unrhyw nodiadau i roi cyd-destun i'r data

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau a’r diffiniadau a ddefnyddir, ewch i’r adrannau ‘Gwybodaeth allweddol o ansawdd’ a ‘Geirfa’ tua diwedd y adroddiad.

Adroddiadau

Dangosyddion Coetiroedd i Gymru, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 12 MB

PDF
12 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.