Neidio i'r prif gynnwy

Data a chrynodeb ar gyfer pob un o’r dangosydd llesiant cenedlaethol.

Lluniwyd y dangosyddion cenedlaethol i gynrychioli canlyniadau i Gymru a’i phobl a fydd yn helpu i ddangos y cynnydd tuag at y 7 nod llesiant. Nid oes bwriad iddynt fod yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Roedd y Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i asesu'r cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021 Ceir disgrifiad llawn o'r dangosyddion cenedlaethol gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am ffynonellau data ac amlder yn y dogfen dechnegol.

Caiff y dangosyddion eu diweddaru drwy gydol y flwyddyn wrth i ddata newydd gael ei gyhoeddi. I’ch cynorthwyo i fynd i’r afael â’r rhain, rydym wedi amlygu’r cysylltiadau rhwng y dangosyddion a’r nodau.

Mae’r adroddiad flynyddol 'Llesiant Cymru' yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni’r 7 nod llesiant, gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol ynghyd â data perthnasol arall. O 2022 ymlaen, cyfeirir hefyd at y cerrig milltir cenedlaethol cyntaf. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn gosod disgwyliadau ynglŷn â’r hyn y dylai'r dangosyddion ei ddangos ar adegau penodol yn y dyfodol.

Bydd sawl dangosydd cenedlaethol yn helpu i adrodd stori am gynnydd yng Nghymru yn erbyn mwy nag un o’r Nodau Llesiant neu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. I’ch helpu chi bori’r rhain, datblygwyd yr offeryn hwn. I ddefnyddio’r offeryn, gallwch ddewis un neu fwy o’r Nodau Llesiant neu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a bydd yn dangos y dangosyddion sydd yn mapio i’ch dewisiadau. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth unigryw i Gymru. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith i ni yng Nghymru i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang ac i gyfrannu’n gadarnhaol i’r nodau byd-eang hyn. Mae’n gosod nodau llesiant, gan fynd i’r afael â llawer o’r heriau byd-eang hyn y mae pobl a chymunedau yn eu hwynebu ledled Cymru. Caiff y saith nod llesiant hyn eu mesur drwy'r ddangosyddion cenedlaethol. Nid yw’r mapio hyn yn golygu o reidrwydd bod cyswllt technegol neu gyfreithiol uniongyrchol nac anuniongyrchol rhwng y dangosyddion, Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Rhagor o wybodaeth

Amserlen o ddiweddariadau dangosyddion

Adroddiad ansawdd ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol

Dangosyddion cenedlaethol disgrifiad technegol a dolenni data

Cyswllt

Ymholiadau cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.