Neidio i'r prif gynnwy

Lansio arolwg adborth ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025, a chyfle i gofrestru ar gyfer gweminarau.

Mae’r arolwg adborth ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 bellach wedi cau.

Roedd yr arolwg adborth ar agor ar gyfer ymatebion am 5 wythnos a daeth i ben ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024. Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r arolwg hwn ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.

Gallwch ddod o hyd i'n cynigion ar gyfer dangosyddion MALlC 2025 yn yr adroddiad isod.

Roeddem yn gofyn am farn ar ba ddangosyddion i'w cynnwys ym mhob un o'r 8 meysydd MALlC. Roedd yr arolwg yn cynnwys:

  • newidiadau arfaethedig i rai o’r dangosyddion presennol a gynhwysir yn MALlC 2019
  • ffynonellau data a dangosyddion newydd posibl
  • sut i flaenoriaethu'r ffynonellau data newydd posibl

Cynhaliom ddwy weminar ar 20 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2024 i roi cyfle i unrhyw un â diddordeb glywed am ein cynigion yn fanylach a gofyn cwestiynau.

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.