Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.

Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser.

Prif bwyntiau

  • Y mae Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi cynyddu 3.5% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 2.2%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Technoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol a Trafnidiaeth.
  • Mae’r tuedd tymor byr ar gyfer Cymru yn dangos cynyddodd o 0.2% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.4%, dros yr un cyfnod.
  • Mae’r Mynegai Cynhyrchu Cymru wedi cynyddu 1.0% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.4%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Bwyd, Diodydd a  Gweithgynhyrchu a Thrwsio arall.
  • Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos cynnydd o 3.5% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.1%, dros yr un cyfnod.
  • Mae'r Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 19.2% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 1.2% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.
  • Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos gostwng o 3.5% ar gostyngiad yn Nghymru o’i gymharu a’r chwarter gyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.4%, dros yr un cyfnod.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor byr: Ionawr i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.