Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Effaith y coronafeirws
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu cyfnod yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) rhwng Ionawr a Mawrth 2021. Mae amcangyfrifon blynyddol wedi’u cynnwys hefyd sy’n cynnwys tua’r deuddeg mis cyntaf yn ystod cyfnod y pandemig.
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma, gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor hirach.
Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.
Prif bwyntiau
Gostyngodd y tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru a'r DU. Bob chwarter, dangosodd dau o’r mynegeion ostyngiad. Mae hyn yn dilyn y gostyngiadau chwarterol mwyaf a gofnodwyd ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae’r mynegai gwasanaethau marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 1.6%, dros yr un cyfnod.
Mae’r gostyngiad yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â gostyngiadau mewn Gwasanaethau eraill a Thrafnidiaeth.
Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 7.5% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 11.1% dros yr un cyfnod. Dyma'r cwympiadau blynyddol mwyaf yn y DU ers i'r gyfres gychwyn yn 1998.
Yng Nghymru, gwelwyd ostyngiad yn wyth allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
Mynegai Cynhyrchu
Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 6.0% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 0.5% (r), dros yr un cyfnod.
Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 8.1% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2021, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 7.8%, dros yr un cyfnod.
(r) Diwygiwyd ar ôl ei gyhoeddi ar 29 Gorffennaf.
Mynegai Adeiladu
Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 11.3% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 2.3%, dros yr un cyfnod.
Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 12.6% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2021, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Bu gostyngiad o 13.4% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.