Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Y mae Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi cynyddu 3.5% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 2.2%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Technoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol a Trafnidiaeth.
- Mae’r tuedd tymor byr ar gyfer Cymru yn dangos cynyddodd o 0.2% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.4%, dros yr un cyfnod.
- Mae’r Mynegai Cynhyrchu Cymru wedi cynyddu 1.0% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.4%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Bwyd, Diodydd a Gweithgynhyrchu a Thrwsio arall.
- Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos cynnydd o 3.5% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.1%, dros yr un cyfnod.
- Mae'r Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 19.2% yn y flwyddyn i fis Mawrth 2019, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 1.2% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.
- Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos gostwng o 3.5% ar gostyngiad yn Nghymru o’i gymharu a’r chwarter gyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.4%, dros yr un cyfnod.
Adroddiadau

Saesneg yn unig
Dangosyddion allbynnau tymor byr: Ionawr i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099