Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Gorffennaf i Fedi 2024 (canlyniadau pennawd)
Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Gorffennaf i Medi 2024 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Hydref 2023 i Medi 2024.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Prif bwyntiau
Gostyngodd Cynhyrchiant yn flynyddol a chynyddodd yn chwarterol. Gostyngodd Adeiladu yn flynyddol a chwarterol. Roedd Gwasanaethau'r Farchnad yn dangos cynnydd yn flynyddol a gostyngiad yn chwarterol.
Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Gorffennaf 1999 i Medi 2024
Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.4% yng Nghymru a chynnydd o 0.4% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
Roedd Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi gostwng gan 0.3% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.1% dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 4.4% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 1.4% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos cynnydd o 0.4% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.4% dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 6.4% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.3% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos gostyngiad o 9.8% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.7% dros yr un cyfnod.
Dyfodol y Cyhoeddiad hwn
Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, ac ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.