Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Effaith y coronafeirws
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Gorffennaf i Fedi 2021 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer mis Hydref 2020 i Fedi 2021. Mae’r ddau gyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma. Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor hirach.
Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.
Prif bwyntiau
Cynyddodd pob un o’r tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru. Yn chwarterol, dangosodd dau o’r mynegai gynnydd. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
- Mae'r duedd tymor hir yn dangos cynnydd o 6.9% yng Nghymru a chynnydd o 2.0% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2021, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn wyth allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
- Wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol, roedd cynnydd yn y mynegai gwasanaethau marchnata o 3.6% yng Nghymru a 1.9% yn y DU.
- Mae’r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â cynnydd mewn gweithgareddau llety a gwasanaeth bwyd.
Mynegai Cynhyrchu
- Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos cynydd blynyddol o 1.5% yn y flwyddyn i fis Medi 2021; cynyddodd allbwn y DU o 3.6% dros yr un cyfnod.
- Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 1.0% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol; gostyngodd allbwn y DU ychydig dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
- Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos cynnydd blynyddol o 16.4% yn y flwyddyn i fis Medi 2021; bu cynnydd o 10.0% yn allbwn y DU dros yr un cyfnod.
- Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 1.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol; gostyngodd allbwn y DU 1.0%(r) dros yr un cyfnod.
(r) Diwygiwyd ar 25 Ebrill 2022.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Gorffennaf i Fedi 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.