Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020.

Effaith y coronafeirws

Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu'r pandemig coronafirws. Trafodir effeithiau posibl o ganlyniad i hyn trwy gydol y datganiad.

Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor byrrach.

Prif bwyntiau

Image
Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Yn y chwarter mwyaf diweddar, mae pob un o'r tri mynegai wedi cynyddu yn dilyn gostyngiad sylweddol yn y chwarter blaenorol

 

Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19) rhwng Gorffennaf a Medi 2020. Mae amcangyfrifon blwyddyn wedi’u cynnwys hefyd sy’n cynnwys chwe mis cyn, a chwe mis yn ystod cyfnod y pandemig. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma, gall amcangyfrifon am chwarteri unigol amrywio ac argymhellir i ganolbwyntio ar dueddiadau tymor hirach.

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

  • Mae’r mynegai gwasanaethau marchnata ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 15.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 15.1%, dros yr un cyfnod.
  • Mae’r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â chynnydd mewn Gweithgareddau a Dosbarthu Gwasanaeth Bwyd a Llety.
  • Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 7.2% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 7.2% dros yr un cyfnod. Dyma'r cwympiadau blynyddol mwyaf ers i'r gyfres gychwyn yn 1998.
  • Yng Nghymru, gwelwyd gostyngiad yn wyth allan o’r naw mynegai diwylliant Gwasanaeth Marchnata dros y flwyddyn.

Mynegai Cynhyrchu

  • Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 15.9% wrth gymharu chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 14.7%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth ag Offer Cludo a Chyflenwad Trydan, Nwy a Dŵr.
  • Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 4.0% yn y flwyddyn i fis Medi 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 7.8%, dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

  • Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 40.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 41.2%, dros yr un cyfnod.
  • Mae'r duedd tymor hir yng Nghymru yn dangos gostyngiad o 10.7% yn y flwyddyn i fis Medi 2020, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 11.9% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.

Nodyn

Mae’r gyfres lawn wedi’i ailbwysoli ar sail pwysolau GVA 2018 (pwysolau 2016 yn flaenorol). Er bod hyn wedi achosi newid ar draws y rhan fwyaf o ddiwylliannau, nid yw wedi cael effaith mawr ar gyfraddau tyfiant.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Gorffennaf i Fedi 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.