Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Mehefin 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Prif bwyntiau
Y mae Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi cynyddu 3.9% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 4.2%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Trafnidiaeth a Thechnoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol.
Mae’r tuedd tymor byr ar gyfer Cymru yn dangos cynyddodd o 1.0% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU hefyd gan 1.0%, dros yr un cyfnod.
Mae’r Mynegai Cynhyrchu Cymru wedi gostwng 2.4% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2019, o'i gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 0.5%, dros yr un cyfnod. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud i raddau helaeth â’r cynnydd mewn Bwyd, Diodydd a Gweithgynhyrchu.
Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos gostyngiad o 1.9% ar gynnydd yng Nghymru o’i gymharu â’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 1.8%, dros yr un cyfnod.
Mae'r Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 16.8% yn y flwyddyn i fis Mehefin 2019, o'i gymharu â deuddeg mis blaenorol. Bu cynnydd o 1.4% yn allbwn y DU, dros yr un cyfnod.
Mae’r tuedd chwarterol tymor byr yn dangos gostwng o 7.4% ar gostyngiad yn Nghymru o’i gymharu a’r chwarter gyfredol a’r un flaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 1.2%, dros yr un cyfnod.
Nodyn
Mae’r adroddiad ystadegau isod yn cynnwys cymariaethau gyda’r ystadegau newydd ar y Cynnyrch Domestig Gros yng Nghymru, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Medi. Rydym am glywed sut yr ydych yn defnyddio STOI, yng ngoleuni’r datblygiad newydd hwn.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor byr: Ebrill i Mehefin 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 807 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.