Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Ebrill i Mehefin 2024 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Gorffennaf 2023 i Mehefin 2024.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill 2001 i Mehefin 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2001. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2001, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Gostyngodd Cynhyrchiant yn flynyddol a chynyddodd yn chwarterol. Gostyngodd Gwasanaethau'r Farchnad yn flynyddol a chwarterol. Roedd y sector Adeiladu yn dangos cynnydd yn flynyddol a gostyngiad yn chwarterol.

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 0.9% yng Nghymru a gostyngiad o 0.1% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. 

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pedwar allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Roedd Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi gostwng gan 0.1% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynnydd allbwn y DU gan 0.7% dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 6.4% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.7% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos cynnydd o 1.3% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.3% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 8.3% ar gyfer Cymru a chynnydd o 0.4% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos gostyngiad o 8.4% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.2% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, ac ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jack Tennant
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image