Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Ebrill i Fehefin 2023 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill 2001 I Mehefin 2023
Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol
Prif bwyntiau
Cynyddodd Gwasanaethau Marchnad ac Adeiladu ar sail flynyddol a chwarterol, tra bod Cynhyrchiad wedi gostwng dros y ddau gyfnod.
Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid drwy gydol y pandemig coronafeirws (COVID-19) gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.3% yng Nghymru a chynnydd o 1.7% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
- Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos cynyddu o 0.3% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Gostwng allbwn y DU 0.1%, dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 1.1% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 1.9% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.3% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.2%, dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 25.6% ar gyfer Cymru a chynnydd o 5.5% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 4.8% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.3% dros yr un cyfnod.
Dyfodol y Cyhoeddiad hwn
Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr yma yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn argaeledd data economaidd i Gymru. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill i Fehefin 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 760 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.