Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Effaith y coronafeirws
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Ebrill i Mehefin 2022 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2021 i Mehefin 2022.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddi i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Prif bwyntiau
Cynyddodd pob un o’r tri mynegai ar gyfer Cymru yn flynyddol; y pedwar chwarter diweddaraf (Gorffennaf 2021 i Mehefin 2022). Yn chwarterol, dangosodd y tri mynegai gynnydd. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 5.8% yng Nghymru a chynnydd o 7.8% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
- Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 1.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.7%, dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.5% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.4% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 3.8% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 0.2% dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 9.4% ar gyfer Cymru a chynnydd o 6.0% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 3.1% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.1% dros yr un cyfnod.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 664 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.