Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y dangosiad gyntaf erioed o ffilm arswyd Caradog James, "Don't Knock Twice", yn digwydd yng Ngŵyl Ffilmiau Raindance yn Llundain heno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y ffilm oruwchnaturiol gan y tîm arobryn yn 'Red and Black Films' yng Nghaerdydd oedd y cwmni Cymreig cyntaf i elwa o'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau a ariannodd rhan helaeth o gyllideb y cynhyrchiad ac y cynghorir. Gweithredodd Pinewood Pictures fel ymgynghorydd i Gyllideb Buddsoddi Cyfryngau Cymru ar y ffilm nodwedd hon.

 

Darparodd Ffilm Cymru Wales gefnogaeth o'r cychwyn cyntaf gyda chyllid datblygu a chynhyrchu ar gyfer y cynhyrchiad sy'n cynnwys Katee Sackhoff (“Oculus,” “Riddick,” “Battlestar Galactica” ) a Nick Moran (Lock, Stock and Two Smoking Barrels, Harry Potter and the Deathly Hallows).

Ffilmiwyd yr holl brif ffotograffiaeth yn ardal Caerdydd. Gwnaeth gyfradd gwariant uchel y cynhyrchiad yng Nghymru, un o amodau'r cyllid, gynnal nifer helaeth o swyddi yn y sector ffilm ac fe greodd fanteision economaidd ehangach i amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru.

'Red and Black Films', fel cyfarwyddwr ynghyd i greu cyfuniad gwych. Rhyddhawyd ei gynhyrchiad diweddar, y ffilm arswyd ffugwyddonol, "The Machine" i ganmoliaeth fawr, ac enillodd nifer o wobrau.

Mae "Don't Knock Twice" yn stori emosiynol sy'n llawn tyndra a throeon, am fam llawn euogrwydd sydd am ailgysylltu â'i merch y cafodd ei gorfodi i'w rhoi mewn gofal. Er mwyn arbed ei merch ddiarth, mae rhaid iddi ddadorchuddio'r gwir dychrynllyd y tu ôl i'r chwedl am wrach ddialgar a demonaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, 

"Rwy'n falch iawn bod y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn cefnogi talentau Cymru a chwmnïau Cymreig ac yn helpu i godi proffil Cymru'n rhyngwladol fel lleoliad allweddol i'r diwydiant. Mae'n wych gweld cwmni Cymreig yn gwneud mor dda ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i 'Red and black Films' gyda'u cynhyrchiad diweddaraf."

Gŵyl Ffilmiau Raindance yw'r ŵyl ffilmiau annibynnol bwysicaf yn y DU. Bellach yn ei 24ain flwyddyn, mae'n cael ei chynnal yng nghanol ardal ffilmiau Llundain yn y West End. Mae'n arddangos ffilmiau hir, ffilmiau byr a fideos cerddoriaeth gan grewyr ffilmiau o'r DU ac o amgylch y byd i gynulleidfa o gyfarwyddwyr a phrynwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, cefnogwyr ffilmiau a chrewyr ffilmiau.

Mae Content Media yn gwerthu hawliau byd-eang y ffilm, fel y gwnaeth ar gyfer ffilm James, "The Machine". Llywydd Ffilmiau Content, Jamie Carmichael, fydd  y Cynhyrchydd Gweithredol.

Dywedodd John Giwa-Amu: 

"Mae wedi bod yn ased gwych i gael cefnogaeth y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau a Film Cymru Wales ar gyfer Don't Knock Twice. Yn ogystal â'r cyllid preifat o Gymru, rydym yn falch iawn ein bod wedi cynhyrchu ffilm hir gyda chymorth ffynonellau o Gymru yn unig."

Meddai Pennaeth Sector Creadigol Ffilm Cymru Wales, Hannah Thomas:

"Rydym yn hynod o falch i weld 'Red and Black Films' yn mynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'u taith drwy ddarparu cefnogaeth i'w ffilm gyntaf, The Machine, drwy helpu'r cwmni i dyfu drwy ein menter Cefnogi Cwmnïau a bellach drwy gefnogi datblygiad a chynhyrchiad Don't Knock Twice. Mae John a Caradog yn haeddu pob llwyddiant."