Yn cynnwys nifer yr achosion newydd ac agored, mynychder mewn buchesi ac achosion o ailheintio.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Y dangosfwrdd rhyngweithiol yn dangos y data diweddaraf o waith goruchwylio epidemiolegol a gasglwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion drwy eu system weinyddol (SAM).
Mae’r data a gaiff eu cyflwyno yn y dangosfwrdd yn cynnwys:
- nifer yr achosion newydd, yr achosion sydd wedi cau a’r achosion agored o TB
- achosion mewn buchesi, mynychder mewn buchesi a lefel y risg i anifeiliaid
- cyfradd ailheintio
- canran y buchesi sydd â Statws Heb TB Swyddogol
- nifer yr anifeiliaid sydd wedi’u lladd
Mae'r dangosfwrdd PDF yn rhoi cipolwg o lun y clefyd ar gyfer y chwarter, mewn fformat y gellir ei argraffu.
Tîm epidemiolegol APHA Cymru sy’n cysoni a dilysu’r data. Mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion rheoli. Felly, nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu trin fel Ystadegau Swyddogol, Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn cyhoeddi ystadegau cenedlaethol a swyddogol gan ddefnyddio cofnod misol a gaiff ei lawrlwytho’n syth o SAM. Nid yw’r data hwn yn cael ei gysoni i’r un graddau er mwyn gallu ei gyhoeddi’n brydlon. O’r herwydd gallai fod anghysonderau bychan wrth eu cymharu.
Ar 1 Tachwedd 2021, cafodd tair uned ofodol CL1, CL2 a GW1 yn Sir Ddinbych/Dyffryn Conwy eu hailgategoreiddio a’u rhoi dros dro yn Ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel. Mae'r newid hwn bellach yn cael ei adlewyrchu yn y data yn y dangosfwrdd hwn. Mae rhagor o wybodaeth wedi'i darparu ar dudalennau dangosfwrdd TB gwartheg.