Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys nifer yr achosion newydd ac agored, mynychder mewn buchesi ac achosion o ailheintio.

Y dangosfwrdd rhyngweithiol yn dangos y data diweddaraf o waith goruchwylio epidemiolegol a gasglwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion drwy eu system weinyddol (SAM).

Mae’r data a gaiff eu cyflwyno yn y dangosfwrdd yn cynnwys:

  • nifer yr achosion newydd, yr achosion sydd wedi cau a’r achosion agored o TB
  • achosion mewn buchesi, mynychder mewn buchesi a lefel y risg i anifeiliaid
  • cyfradd ailheintio
  • canran y buchesi sydd â Statws Heb TB Swyddogol
  • nifer yr anifeiliaid sydd wedi’u lladd

Mae'r dangosfwrdd PDF yn rhoi cipolwg o lun y clefyd ar gyfer y chwarter, mewn fformat y gellir ei argraffu. 

Tîm epidemiolegol APHA Cymru sy’n cysoni a dilysu’r data. Mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion rheoli. Felly, nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu trin fel Ystadegau Swyddogol, Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn cyhoeddi ystadegau cenedlaethol a swyddogol gan ddefnyddio cofnod misol a gaiff ei lawrlwytho’n syth o SAM. Nid yw’r data hwn yn cael ei gysoni i’r un graddau er mwyn gallu ei gyhoeddi’n brydlon. O’r herwydd gallai fod anghysonderau bychan wrth eu cymharu.

Ar 1 Tachwedd 2021, cafodd tair uned ofodol CL1, CL2 a GW1 yn Sir Ddinbych/Dyffryn Conwy eu hailgategoreiddio a’u rhoi dros dro yn Ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel. Mae'r newid hwn bellach yn cael ei adlewyrchu yn y data yn y dangosfwrdd hwn. Mae rhagor o wybodaeth wedi'i darparu ar dudalennau dangosfwrdd TB gwartheg.

Adroddiadau

TB gwartheg: data gwyliadwriaeth clefyd chwarterol (fformat argraffadwy) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

James Webster

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.