Mae ffilm fawr newydd, Apostle, yn cael ei ffilmio yn Ne Cymru ar hyn o bryd. Mae’r actor enwog o Gymru, Michael Sheen a seren Beauty and the Beast, Dan Stevens, yn serennu ynddi.
Mae cynhyrchwyr o’r Unol Dalieithiau, XYZ Films, a Severn Screen, cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu ffilm ddiweddaraf y cynhyrchydd o Gymru, Gareth Evans. Roedd ei ffilmiau, The Raid a The Raid II yn llwyddiannau byd eang.
Comisiynwyd Apostle gan Netflix a bydd yn cael ei dangos ar y gwasanaeth ffrydiol yn unig yn 2018, a hynny dros y byd.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau y bydd yr holl ffilmio a’r gwaith ôl-gynhyrchu ar Apostle yn cael ei wneud yng Nghymru, ac y bydd hynny yn hwb o £5m a mwy i’r economi.
Disgrifiwyd Apostle gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates fel cynhyrchiad sy’n torri tir newydd ym maes ffilm yng Nghymru.
Dywedodd:
“Rydym wrth ein bodd y bydd Apostle yn cael ei ddosbarthu’n fyd eang ar Netflix a bydd yn llwyfan byd-eang i dalentau actio, cyfarwyddo a chynhyrchu ac ôl-gynhyrchu o Gymru. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i sicrhau’r prosiect i Gymru.”
Mae Sgrin Cymru, rhan o dîm diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru, wedi cydweithio â’r cynhyrchwyr er mis Gorffennaf 2016, i wneud y mwyaf o’r manteision economaidd i Gymru. Roedd hyn yn cynnwys cynnal ymweliadau safle a nodi prif leoliadau ar gyfer y ffilm, gan gynnwys Parc Margam lle’r adeiladwyd set gywrain o bentref ar gyfer y ffilm
Dywedodd Ed Talfan, pennaeth Severn Screen:
“Rydym yn falch o gael gweithio ar y prosiect cyffrous hwn gyda Gareth a’r tîm yn XYZ. Roeddent yn awyddus i ddod â’r prosiect i Gymru o’r cychwyn cyntaf - mae wedi bod yn bleser i gydweithio er mwyn sicrhau hynny. Edrychwn ymlaen at ddod â phrosiectau uchelgeisiol tebyg i Gymru yn y dyfodol.”
Dywedodd Aram Tertzakian o XYZ Films:
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn freuddwyd gan Gareth i wneud un o’i ffilmiau yn ei wlad ei hun, mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nad breuddwyd mohoni bellach.
Mae proffesiynoldeb a brwdfrydedd y criw o Gymru wedi creu cryn argraff arnom ni. Gobeithio y bydd y ffilm hon yn ddechrau perthynas gwerth chweil, a’n bod wedi hau’r hadau ar gyfer llawer mwy o gynyrchiadau yn y dyfodol.”
Yn ffilm a osodwyd yn 1905, mae Apostle yn adrodd hanes dyn (Stevens) sy’n teithio i ynys ddirgel nepell o arfordir y DU i chwilio am ei chwaer sydd wedi ymbellhau oddi wrtho. Wrth gyrraedd, mae’n cyfarfod â phregethwr enigmatig (Sheen) sy’n arwain y gymuned ac sy’n celu cyfrinach frawychus.
Un o sêr eraill y ffilm yw Mark Lewis Jones, enillydd Gwobr yr Actor Gorau yn BAFTA Cymru 2016 am ei rôl yn ffilm Severn Screen Yr Ymadawiad
Ychwanegodd Talfan:
“Mae’r prosiect yn gyfle euraid i hyrwyddo criwiau ac actorion o Gymru, y cyfleusterau a’r tai cynhyrchu sydd yma yng Nghymru a’r lleoliadau sydd yma.
“Mae Severn Screen yn benderfynol o ddatblygu a chefnogi’r sector yng Nghymru, mae hon yn garreg filltir nodedig i ni.”
Mae tai cynhyrchu Cymru, Cinematic a Bang yn mynd i wneud y gwaith ôl-gynhyrchu ar y ffilm a bydd manteision eraill yn dod yn sgil y ffilm i gyflenwyr lleol.