Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu
Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19), â’i gyfyngiadau ar sut, ble a pham yr oedd pobl yn cael teithio yng Nghymru, effaith ar nifer y damweiniau a’r anafusion ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu gydol y rhan fwyaf o 2020.
Prif bwyntiau
- Gwelwyd gostyngiad yn 2020 o 33.9% yn nifer y damweiniau ffyrdd ac o 36.4% yn yr anafusion ffyrdd o’u cymharu â 2019, y gostyngiad blynyddol mwyaf ers 1979 pan ddechreuwyd cadw cofnodion.
- Roedd nifer y damweiniau a’r anafusion ar ei isaf yn ystod y cyfnod ‘arhoswch gartref’ cyntaf yng ngwanwyn 2020, ac yn y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr 2020.
- Yn ystod 2020, cofnododd heddlu Cymru 2,864 o ddamweiniau ffyrdd lle cafodd pobl eu hanafu, 33.9% yn llai nag yn 2019. O’r damweiniau hyn: dosbarthwyd 71 fel rhai angheuol, dosbarthwyd 657 fel rhai difrifol a dosbarthwyd 2,136 fel rhai mân.
Yn ystod 2020, cafwyd 3,692 o anafusion yn y damweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu; o’r rheini:
- cafodd 72 eu lladd, 23 (24.2%) yn llai nag yn 2019
- cafodd 747 o bobl anaf difrifol, 351 (32.0%) yn llai nag yn 2019
- cafodd 2,873 fân anafiadau, 1,742 (37.7%) yn llai nag yn 2019
- gwelwyd 23.4% o ostyngiad yn y traffig modur yng Nghymru o’i gymharu â 2019, y gostyngiad mwyaf o holl wledydd y DU
Adroddiadau
Damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.