Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am oedran a rhyw y sawl a gafodd ddamwain, y math o ffordd, terfyn cyflymder, ac amser y ddamwain ar gyfer 2016.

Gwelwyd gostyngiad yng  nghyfanswm y beicwyr pedal a gafodd ddamwain ar ffyrdd Cymru yn 2016.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2000 a 2010, mae nifer y rhai a gafodd eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol wedi amrywio rhwng 61 ac 84 bob blwyddyn, ac yn 2011 cynyddodd hyn i 118 o anafusion. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad bach ar 2015 i 115 yn 2016.
  • Dynion yw mwyafrif yr anafusion beicwyr pedal. Rhwng 2007 a 2016 roedd 86% o’r holl anafusion yn ddynion.
  • Yn 2016, ffurfiodd rhai 30 i 49 oed y grŵp mwyaf o anafusion beicwyr pedal, yn cyfrif am 39.6% o'r cyfanswm.
  • Bu gostyngiad o 61% yn nifer yr anafusion beicwyr pedal oedd yn blant rhwng 2007 a 2016, o 155 yn 2007 i 61 yn 2016. Dros yr un cyfnod gwelwyd gostyngiad yn nifer y plant a gafodd eu hanafu’n ddifrifol neu’u lladd o 33 i 10.
  • O’r holl feicwyr a gafodd eu hanafu’n ddifrifol neu’u lladd, bu gostyngiad yn y gyfran ohonynt oedd yn blant o 41% yn 2007 i 9% yn 2016.

Adroddiadau

Damweiniau beicwyr pedal, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 841 KB

PDF
Saesneg yn unig
841 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.