Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2018.

Canrannau pobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, 2018. Mae’r siart hon yn dangos canrannau’r bobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, fel y’u cofnodwyd ar gyfer 2018. Cafodd 5,768 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd yn 2018. O’r rhain, roedd 2% wedi cael eu lladd, 18% wedi eu hanafu’n ddifrifol, a 80% wedi dioddef mân anafiadau.

Prif bwyntiau

Crynodeb o nifer y bobl a gafodd eu lladd neu'u hanafu mewn damweiniau ffyrdd

  • Roedd gostyngiad o 7.0% yn nifer y bobl y cofnodwyd eu bod wedi cael eu hanafu ar ffyrdd Cymru yn 2018.
  • Cofnododd heddluoedd Cymru fod 5,768 o bobl wedi cael eu hanafu ar y ffordd.
  • Roedd 1,137 o’r bobl hyn wedi cael eu lladd neu wedi eu hanafu’n ddifrifol, sef gostyngiad o 7.4% o gymharu â 2017.
  • Cafodd 4,631 fân anafiadau, 9.8% yn is na’r ffigur ar gyfer 2017.
  • Roedd 69% o’r bobl a anafwyd yn 2018 yn ddynion.

Nifer y bobl a gafodd eu lladd neu'u hanafu ar feiciau modur neu feiciau pedalau

  • Wedi addasu yn ôl y pellter a deithiwyd, gwelwyd bod beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o gryn dipyn i gael eu hanafu na defnyddwyr ceir.
  • Yn 2018, gwelwyd y nifer isaf o feicwyr modur yn cael eu hanafu ers i gofnodion cymharol ddechrau, sef 562 ohonynt wedi eu hanafu.
  • Roedd 417 o anafusion beicwyr pedal yn 2018, sef gostyngiad o 6.5% ar 2017.

Nifer y cerddwyr a gafodd eu lladd neu'u hanafu

  • Yn 2018, roedd 12.4% o’r holl bobl a anafwyd yn gerddwyr.
  • Cafodd 716 o gerddwyr eu hanafu, gostyngiad o 2.5% o’i gymharu â 2017.

Nifer y plant a phobl ifanc a gafodd eu lladd neu'u hanafu

  • Mae nifer y plant a phobl ifanc a gafodd eu lladd neu'u hanafu wedi gostwng ers 2018.
  • Bu gostyngiad o 2% yn nifer y plant (o dan 16 oed) a anafwyd, a gostyngiad o 11% mewn pobl ifanc (16-24 oed) a anafwyd, o’i gymharu â 2017.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gael eu hanafu mewn damweiniau ar y ffordd. Er eu bod yn 11% o’r boblogaeth, nhw yw 21% o’r holl bobl sy’n cael eu hanafu.

Adroddiadau

Damweiniau ar y ffordd a anafusion 2018: ble, pryd a pwy? , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 660 KB

PDF
Saesneg yn unig
660 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.