Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2017.

Mae’r siart hon yn dangos canrannau’r bobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, fel y’u cofnodwyd ar gyfer 2017. Cafodd 6,194 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd yn 2017. O’r rhain, roedd 2% wedi cael eu lladd, 15% wedi eu hanafu’n ddifrifol, a 83% wedi dioddef mân anafiadau.

Prif bwyntiau

  • Roedd gostyngiad o 9.6% yn nifer y bobl y cofnodwyd eu bod wedi cael eu hanafu ar ffyrdd Cymru yn 2017.
  • Cofnododd heddluoedd Cymru fod 6,194 o bobl wedi cael eu hanafu ar y ffordd.
  • Roedd 1,060 o’r bobl hyn wedi cael eu lladd neu wedi eu hanafu’n ddifrifol, sef gostyngiad o 4.3% o gymharu â 2016.
  • Cafodd 5,134 fân anafiadau, 10.6% yn is na’r ffigur ar gyfer 2016.
  • Roedd 57% o’r bobl a anafwyd yn 2017 yn ddynion.
  • Wedi addasu yn ôl y pellter a deithiwyd, gwelwyd bod beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o gryn dipyn i gael eu hanafu na defnyddwyr ceir.
  • Yn 2017, gwelwyd y nifer isaf o feicwyr modur yn cael eu hanafu ers i gofnodion cymharol ddechrau, sef 595 ohonynt wedi eu hanafu.
  • Cafodd 446 o feicwyr pedal eu hanafu yn 2017, yr un nifer ag yn 2016.
  • Ers amser maith bu nifer y cerddwyr sydd wedi cael eu hanafu ar y ffordd yn gostwng yn gyson. Yn 2017, roedd 11.9% o’r holl bobl a anafwyd yn gerddwyr.
  • Cafodd 734 o gerddwyr eu hanafu, gostyngiad o 7% o’i gymharu â 2016.
  • Bu gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc a gafodd eu hanafu.
  • Bu gostyngiad o 15% yn nifer y plant (o dan 16 oed) a anafwyd, a gostyngiad o 16% mewn pobl ifanc (16-24 oed) a anafwyd, o’i gymharu â 2016.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gael eu hanafu mewn damweiniau ar y ffordd. Er eu bod yn 11 o’r boblogaeth, nhw yw 22% o’r holl bobl sy’n cael eu hanafu.

Adroddiadau

Damweiniau ar y ffordd a anafusion 2017: ble, pryd a pwy? , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.