Daeth bron i hanner y trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn 2017 o ynni adnewyddadwy, medd adroddiad newydd.
Y llynedd daeth yr hyn oedd yn cyfateb i 48% o drydan y wlad, i fyny o 43% yn 2016, o ynni adnewyddadwy wrth i’r wlad gamu’n bwyllog at y targed uchelgeisiol o ynni glân erbyn 2030.
Mae’r adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017 yn dangos i Gymru llynedd gynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiodd, gan wneud Cymru’n allforiwr trydan pwysig i Loegr, Iwerddon a’r rhwydwaith Ewropeaidd ehangach.
Dywed yr adroddiad hefyd, a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod llawn heddiw (dydd Mawrth, 20 Tachwedd):
- Daeth 22% o’r trydan a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy, i fyny o 18% yn 2016
- Ceir rhagor na 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gyda chapasiti rhyngddynt o bron 3,700MW. Mae 84% o’r capasiti hwnnw’n drydan adnewyddadwy, 16% yn wres adnewyddadwy
- Pŵer y gwynt sy’n cynhyrchu rhyw 66% o’r trydan adnewyddadwy yng Nghymru
- Mae Cymru’n cynhyrchu tua 2.1 TWh o ynni adnewyddadwy, sy’n cyfateb i 10.5% o’r galw domestig am wres yng Nghymru
- Ceir dros 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i bobl leol, gyda chapasiti rhyngddynt o 750MW. Dyma gynnydd o 30% yn y capasiti ers 2016
Mae 529MW o gapasiti trydan adnewyddadwy Cymru mewn dwylo lleol, sy’n cymharu â’r targed o 1GW erbyn 2030.
Ym mis Medi llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod am i 70% o’r trydan y mae Cymru’n defnyddio erbyn 2030 ddod o ffynonellau adnewyddadwy. Mae ganddi darged hefyd bod prosiectau sy’n eiddo i bobl leol yn cynhyrchu 1GW o drydan adnewyddadwy erbyn 2030 a bod o leiaf rhan o bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd mewn dwylo lleol erbyn 2020.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi nifer o brosiectau trwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru er mwyn sbarduno mwy o ddatblygiadau ynni lleol. Er enghraifft, fferm solar 1MW Gower Regeneration yn Nyfnant yw fferm solar gymunedol gyntaf Cymru, ac mae fferm wynt Bryn Carreg Lwyd yn Sir Faesyfed yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer rhyw 26,000 o gartrefi ac yn darparu cronfa les sylweddol i’r gymuned.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths:
“Rwy’n hynod falch bod Cymru’n dal i gamu tuag at ein targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol ac mae’r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd aruthrol a fu ers llynedd.
“Gyda bron hanner y trydan a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ogystal â bod dros hanner ffordd at gyrraedd ein targed o ran y capasiti trydan adnewyddadwy sydd mewn dwylo lleol, rydyn ni’n gweld hefyd bod y sector yn cymryd camau anferth ymlaen.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weld ein system ynni’n newid yn gyflymach, yn enwedig trwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Ein blaenoriaeth yw defnyddio ynni’n fwy effeithiol, lleihau ein dibyniaeth ar ynni o danwyddau ffosil a gweithio’n galed i reoli’r newid i economi carbon isel er lles Cymru.”