Sut i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd gan gynnwys y rhai sydd â theulu a ffrindiau yn Nhwrci a Syria.
Trosolwg
Yn oriau mân 6 Chwefror 2023, tarodd daeargryn maint 7.8 Türkiye a Syria. Dilynwyd hyn gan ddaeargryn arall yn fuan wedyn yn ogystal â thros 60 o ôl-gryniadau. Mae maint y dinistr yn enfawr ac mae'r manylion yn dal i ddod i'r amlwg ar hyn o bryd. Ond y gred yw bod tua 30,000 o bobl wedi cael eu lladd a miloedd lawer wedi’u hanafu. Ers hynny, mae’r rhai sydd wedi goroesi wedi’u gadael heb gysgod mewn tywydd gaeafol rhewllyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £300,000 i Apêl Daeargryn Türkiye a Syria y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC), a lansiwyd ar 9 Chwefror.
Mae'r DEC yn dwyn ynghyd sefydliadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor, gan gydlynu ymateb dyngarol effeithiol a chael cymorth yn gyflym i bobl sydd ei angen yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl. Mae’r blaenoriaethau uniongyrchol yn cynnwys mynediad at fwyd a dŵr glân yn ogystal â thriniaeth feddygol a lloches. Bydd apêl y DEC hefyd yn codi arian tuag at waith adsefydlu ac ailadeiladu mwy hirdymor.
Sut allwch chi helpu
Deallwn y bydd llawer o bobl yng Nghymru yn awyddus i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r bobl sydd wedi'u heffeithio gan y daeargrynfeydd, gan gynnwys y rhai sydd â theulu a ffrindiau yn Syria a Türkiye.
Gyda llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau cludo o dan bwysau sylweddol, gallai anfon nwyddau corfforol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa ar lawr gwlad.
Felly, byddem yn annog unrhyw un sy'n gallu helpu i ystyried rhoi cyfraniad ariannol i'r DEC a chefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn eu cymunedau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl a sut i gyfrannu, dilynwch y ddolen hon: