Heddiw - mae cynlluniau wedi cael eu datgelu am brosiect â buddsoddiad o £630,000 yng Nghastell Fflint a’r blaendraeth, gan gynnwys gosod cerflun trawiadol o’r enw’r Cylch Haearn.
Dewiswyd y cynllun buddugol gan banel o Lywodraeth Cymru a’r corff sy’n noddi’r cynllun, Cyngor Celfyddydau Cymru, yn dilyn cystadleuaeth genedlaethol i dderbyn cynigion am gysyniadau celf i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru.
Dechreuwyd adeiladu Castell Fflint ym 1277, un o’r cestyll cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru gan Edward I. Aeth y Brenin yn ei flaen i adeiladu cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech yng ngogledd Cymru, sydd heddiw’n ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Dadorchuddiwyd cynlluniau cerflun enfawr gwerth £395,000 y Cylch Haearn heddiw gan Ken Skates, Gweinidog y Cabinet dros yr Economi ac Isadeiledd, a gallai fesur hyd at saith metr o uchder a 30 metr o led. Mae’n cynrychioli coron enfawr rydlyd sy’n portreadu’r berthynas rhwng teuluoedd brenhinol canoloesol Ewrop a’r cestyll yr adeiladon nhw.
Bydd y gosodiad yn cael ei gerfio gyda geiriau a dywediadau priodol fydd yn cael eu datblygu gan y gymuned leol.
Pan fydd yn agor yn 2018, bydd ymwelwyr yn gallu cerdded ar hyd y cerflun a gweld golygfeydd uchel ar hyd yr aber a golygfeydd o’r castell.
Mae ei leoliad yn Fflint yn nodi’r digwyddiad enwog pan drosglwyddwyd y goron o un llinach ganoloesol i un arall, fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Richard II gan Shakespeare. Castell Fflint oedd y lleoliad wrth i Richard II ildio’r goron i Harri’r IV - digwyddiad pwysig iawn a gafodd gryn effaith ar hanes Prydain ac Ewrop.
meddai George King, o George King Architects Cyf. - y penseiri sy’n gyfrifol am y cynllun uchelgeisiol.“Bydd y cerflun ar ffurf gytbwys, bydd peth ohono o dan y ddaear, a’r gweddill yn ymestyn i’r awyr, er mwyn dangos natur ansefydlog y goron,”
“Mae’r cerflun wedi cael ei gynllunio’n ofalus i weithio ar sawl graddfa. O bellter mae ei siâp trawiadol, eiconig yn debyg i arteffact enfawr hynafol, wedi ei olchi ar lan Aber Dyfrdwy.
“Mae ei faint a’i olwg ddynamig yn golygu y bydd yn dirnod fydd yn hawdd i’w adnabod yn yr ardal.
“Fodd bynnag, wrth i chi agosáu at y cerflun mae’n amlwg ei fod yn fwy na dim ond cerflun.”
Bydd yr engrafiadau yn dathlu tirnodau lleol, trefi hanesyddol a’u cysylltiadau â Chastell Fflint, yn ogystal â chynnwys ynglŷn â fflora a ffawna Aber Dyfrdwy.
Mae’r cynllun yn rhan o ddatblygiadau ehangach sydd wedi eu hamlinellu mewn strategaeth adfywio sydd newydd gael ei chomisiynu ar gyfer blaendraeth Fflint, gyda’r nod o gyfoethogi profiad ymwelwyr â Chastell Fflint, a chryfhau cysylltiadau â’r gymuned o fewn y dref a helpu i adfywio’r ardal unigryw hon.
Dwedodd Ken Skates:
“Mae’n bleser mawr cyhoeddi’r cynlluniau i helpu gwella profiad ymwelwyr yn y safle hwn sy’n llawn hanes, a hynny yn ystod Blwyddyn Chwedlau Cymru.
“Rydyn ni’n dathlu pobl anhygoel y gorffennol, llefydd trawiadol a straeon sydd wedi creu treftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru drwy gydol 2017.
“Yn ei anterth, chwaraeodd Castell Fflint rôl allweddol drwy greu dyfodol Cymru, heb sôn am y DU ac Ewrop. Mae cerflun y Cylch Haearn yn ffordd berffaith o nodi’r arwyddocâd a denu rhagor o bobl i ymweld â’r safle, gan ddod â buddiannau economaidd positif i’r ardal.”
Mae gwelliannau eraill i’r Castell yn cynnwys gosod grisiau troellog dur gwrthstaen yn y tŵr gogledd-ddwyreiniol a chynllun i ystyried adfywio Blaendraeth Fflint ymhellach.
Mae’r grisiau £217,000 wedi cael eu gosod yn yr un safle â’r grisiau cerrig gwreiddiol, fel y gall ymwelwyr ddringo i ben y tŵr a mwynhau golygfeydd godidog o blatfform newydd ar ben y grisiau.
Dim ond megis dechrau mae’r cynllunio adfywio, ond bydd opsiynau’n cael eu hystyried i wella’r cyfleusterau sydd ar hyd y traeth ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda RNLI, clwb rygbi a chlwb pêl-droed Fflint i wella’r cyfleusterau presennol, a gweithio gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Lleol i ddatblygu gwasanaethau ymwelwyr yng Nghastell Fflint.