Dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)
Data o'r cyfrifiad 2023 ar nodweddion poblogaeth yn ôl grwpiau amddifadedd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Introduction
Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 a Chyfrifiad 2021 i amcangyfrif y cyfrannau o'r grwpiau poblogaeth sy'n byw yn ardaloedd pob un o grwpiau amddifadedd MALlC 2019. Mae'n nodi lle mae pobl o wahanol grwpiau yn fwyaf tebygol o fyw o safbwynt amddifadedd cymharol ardal fach (Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is neu AGEHI) ac a yw hyn yn amrywio ar draws grwpiau.
Er bod MALlC yn nodi crynodiadau o amddifadedd, mae'n bwysig cofio bod yna bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig, ac mae yna hefyd bobl a fyddai'n cael eu hystyried yn ddifreintiedig yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Casglwyd y nodweddion a drafodir yn y datganiad hwn fel rhan o Gyfrifiad 2021. Mae rhai o'r nodweddion hyn yn nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Ni ddylid cymharu â'r amcangyfrifon yn Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 i 2019, gan fod y dadansoddiad blaenorol hwn yn defnyddio data nodweddion gwarchodedig o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Mae'r dadansoddiad hwn yn cyflwyno trosolwg o ddosbarthiad gwahanol boblogaethau ledled Cymru adeg Cyfrifiad 2021. Nid yw'n ystyried perthynas gwahanol nodweddion â'i gilydd nac ag amddifadedd. Er enghraifft, mae grwpiau hŷn yn llai tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a allai effeithio ar y tebygolrwydd bod poblogaethau sydd â phroffiliau oedran gwahanol fel rhai grwpiau ethnig, cyn-aelodau o'r lluoedd arfog neu'r rhai sydd mewn iechyd gwael yn byw mewn ardaloedd o’r fath. Yn syml iawn, dylid dehongli'r canlyniadau ar lefel pa mor debygol yr oedd y boblogaeth o fyw yn ardaloedd amddifadedd amrywiol Cymru adeg Cyfrifiad 2021, yn hytrach na cheisio sefydlu perthynas rhwng nodweddion penodol ac amddifadedd.
Prif bwyntiau
- Roedd grwpiau iau yn fwy tebygol na grwpiau hŷn o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
- Roedd menywod ychydig yn fwy tebygol na dynion o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac roedd y bwlch hwn yn fwy ymhlith menywod rhwng 16 a 34 oed.
- Pobl anabl â chyflyrau a oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" oedd fwyaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Pobl nad oeddent yn anabl â chyflyrau hirdymor nad oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau oedd leiaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn.
- Roedd pobl a oedd mewn iechyd gwael neu wael iawn yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig na'r rhai a oedd mewn iechyd gweddol neu iechyd da neu dda iawn.
- Roedd darpariaeth gofal di-dâl am o leiaf 20 awr yr wythnos yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos yn llai tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na'r rhai nad oedd ganddynt gyfrifoldebau gofal di-dâl.
- Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn "Affricanaidd" neu "Du Arall" (o fewn y categori grwpiau ethnig lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd") neu "Bangladeshaidd" (o fewn y categori grwpiau ethnig lefel uchel "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig") oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
- Roedd menywod yn fwy tebygol na dynion o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y rhan fwyaf o grwpiau ethnig, gyda bylchau cymharol fwy rhwng menywod a dynion yn y grwpiau ethnig o fewn y categorïau lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd" a "Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig."
- Y rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil" oedd leiaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a'r rhai a oedd "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil" oedd fwyaf tebygol.
- Roedd y rhai a nododd "Islam" fel eu crefydd yn nodedig fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai â hunaniaeth grefyddol arall neu'r rhai a nododd "dim crefydd". Roedd bron i 3 o bob 10 o fenywod a nododd "Islam" fel eu crefydd yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
- Roedd pobl na nododd hunaniaeth genedlaethol o fewn y DU yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai a nododd o leiaf un hunaniaeth genedlaethol o fewn y DU.
- Ymhlith y nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig mae peidio â bod erioed wedi gwasanaethu fel aelod o luoedd arfog y DU a pheidio â meddu ar unrhyw sgiliau Cymraeg.
Oedran a rhyw
Yn gyffredinol, mae'r tebygolrwydd o fyw yn yr AGEHIau mwyaf difreintiedig yn uwch ar gyfer grwpiau iau. Roedd 12.6% o'r rhai a oedd yn 15 oed ac iau yn byw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â 6.6% o'r rhai 65 oed a hŷn. Fodd bynnag, roedd y rhai rhwng 25 a 34 oed (11.6%) yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig na'r rhai rhwng 16 a 24 oed (10.7%).
Roedd bron i chwarter y rhai 15 oed ac iau (23.8%) a rhwng 25 a 34 (23.1%) yn byw yn yr 20% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â 14.6% o'r rhai 65 oed a hŷn.
Roedd bron i dri o bob pump (57.4%) o'r rhai 65 oed a hŷn yn byw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig. Mae'r gyfran hon ar ei hisaf ar gyfer y rhai rhwng 25 a 34 oed (45.3%).
Ffigur 1: Y tebygolrwydd o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn ôl oedran a rhyw
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far yn dangos bod grwpiau hŷn yn llai tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig. Er bod cyfran y dynion a'r menywod a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn gyfartal fwy neu lai, roedd menywod rhwng 16 a 34 oed yn fwy tebygol na dynion yn y grŵp oedran hwn o fyw yn yr ardaloedd hyn.
Roedd menywod (9.7%) ychydig yn fwy tebygol na dynion (9.5%) o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, ac roedd y gwahaniaeth hwn yn fwy amlwg rhwng 16 a 34 oed. Er bod cyfran y merched a'r bechgyn 15 oed ac iau a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn gyfartal fwy neu lai (12.6% a 12.5% yn y drefn honno), roedd menywod rhwng 16 a 24 (11.1%) a rhwng 25 a 34 (12.2%) yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na dynion o'r un oedran (10.4%, a 11.0% yn y drefn honno). Fodd bynnag, nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng y rhywiau mewn grwpiau hŷn, ac roedd cyfran y dynion a'r menywod yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gyfartal ymhlith y rhai rhwng 50 a 64 (8.3%) a 65 oed a hŷn (6.6%).
Anabledd
Fel y nodir yn yr adroddiad datblygu cwestiynau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol), rhannwyd y cwestiwn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 yn ddwy ran er mwyn cyd-fynd â'r diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (Gov.UK). Mae'r diffiniad o anabledd a ddefnyddir yn y ddeddf yn dilyn y model meddygol o anabledd, sy'n diffinio pobl fel pobl anabl oherwydd amhariad. Yn gyntaf, gofynnwyd i unigolion a oedd ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor (a oedd wedi para neu yr oedd disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy), ac yn ail, i ba raddau yr oedd y cyflwr neu'r salwch hwn yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd. Mae'r ymatebwyr a nododd fod ganddynt gyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor a oedd yn lleihau eu gallu ("ychydig" neu "yn fawr") i wneud gweithgareddau pob dydd wedi'u diffinio'n anabl. Mae'r rhai a nododd fod ganddynt gyflwr nad yw'n effeithio ar weithgareddau pob dydd, neu a nododd nad oes ganddynt unrhyw gyflwr yn cael eu diffinio fel rhai nad ydynt yn anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd - yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad (fel yn achos y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl sydd ag amhariadau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, sefydliadol ac o ran agweddau sy’n cael eu creu gan gymdeithas. Mae'r data yn yr adran hon yn defnyddio diffiniad Deddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd, ac felly'n adlewyrchu'r model meddygol o anabledd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith sy’n cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd.
Pobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig (13.8%). Mae hyn yn cymharu â 10.6% o bobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "ychydig", a 9.1% o'r rhai nad oedd ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor. Y rhai nad oeddent yn anabl ond a oedd â chyflwr hirdymor nad oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau oedd leiaf tebygol (7.2%) o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
Roedd ychydig dros chwarter (26.7%) y bobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr", a thros 1 o bob 5 (21.2%) o bobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "ychydig" yn byw yn yr 20% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig. Pobl anabl â chyflwr a oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" oedd leiaf tebygol o fyw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig (40.8%), o'i gymharu â 56.4% o bobl nad oeddent yn anabl â chyflyrau hirdymor nad oeddent yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau.
Ffigur 2: Y tebygolrwydd bod pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn byw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig yn ôl oedran
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far glystyrog yn dangos mai pobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" oedd fwyaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ym mhob grŵp oedran, a'r rhai nad oeddent yn anabl ond a oedd â chyflyrau hirdymor nad oeddent yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau oedd leiaf tebygol o fyw yno ym mhob grŵp oedran.
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Ar gyfer pobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr", roedd cyfran y bobl rhwng 16 a 64 (16.9%) a 65 oed a hŷn (9.8%) a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig yn fwy na dwbl y canrannau yn yr un grwpiau oedran ar gyfer pobl nad oeddent yn anabl a oedd â chyflyrau hirdymor nad oeddent yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau (7.8% a 4.5% yn y drefn honno). Roedd pobl anabl 15 oed neu iau yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" hefyd yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn (17.5%) na'r rhai nad oeddent yn anabl a oedd â chyflyrau hirdymor nad oeddent yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau yn y grŵp oedran hwn (10.6%).
Ymhlith pobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr", roedd dynion yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig na menywod (14.1% a 13.5% yn y drefn honno). Fodd bynnag, ar gyfer pobl nad oeddent yn anabl, roedd menywod (7.3% o'r rhai â chyflwr hirdymor nad oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau a 9.2% heb gyflwr o'r fath) ychydig yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig na dynion (7.0% a 9.1% yn y drefn honno). Ar gyfer pobl anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "ychydig", roedd menywod a dynion yr un mor debygol â'i gilydd o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig (10.6%).
Dynion anabl yr oedd eu cyflwr yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd "yn fawr" oedd y grŵp mwyaf tebygol (14.1%) o fyw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, a dynion nad oeddent yn anabl a oedd â chyflwr hirdymor nad oedd yn lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau oedd leiaf tebygol (7.0%).
Grŵp ethnig
Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Affricanaidd" oedd y grŵp ethnig mwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, ac roedd bron i draean (32.7%) o'r grŵp hwn yn byw yn yr ardaloedd hyn. Roedd pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Asiaidd, Asiaidd Cymreig, neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (30.7%) neu’n “Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Du Arall" (30.5%) hefyd ymhlith y grwpiau ethnig mwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig. Roedd tua chwarter y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (25.0%), “Gwyn: Roma" (23.9%) a "Grŵp ethnig arall: Arabaidd" (23.6%) yn byw yn yr ardaloedd hyn.
Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn y categori “Gwyn: Gwyddelig" oedd leiaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig (8.3%), ac yna pobl a nododd eu bod yn y categori "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" (8.8%) neu "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd" (9.5%).
Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Asiaidd, Asiaidd Cymreig, neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd" oedd leiaf tebygol o fyw yn y 50% o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac roedd llai nag 1 o bob 5 (19.2%) yn gwneud hynny. Roedd tua chwarter y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn "Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Affricanaidd” (24.8%) ac yn y categori “Gwyn: Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig" (26.2%) yn byw yn y 50% o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn y categori “Gwyn: Gwyddelig" (57.2%) oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig, ac yna "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon, neu Brydeinig" (52.0%) a "Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd" (51.8%).
Ffigur 3: Cyfran y menywod a'r dynion sy'n byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn ôl grŵp ethnig
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod rhai grwpiau ethnig yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag eraill, ac i'r rhan fwyaf o grwpiau ethnig, fod menywod yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na dynion. Yr unig grwpiau ethnig lle roedd dynion yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn oedd "Gwyn: Gwyddelig", "Gwyn: Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig”, "Gwyn: Gwyn Arall", "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd arall" a "Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall".
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Roedd y bwlch rhwng menywod a dynion ar ei fwyaf i'r rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn y categori:
- “Gwyn: Roma" (26.4% o fenywod o'i gymharu â 22.8% o ddynion)
- “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Du Arall" (32.0% o fenywod o'i gymharu â 29.0% o ddynion)
- “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Affricanaidd" (34.0% o fenywod o'i gymharu â 31.4% o ddynion)
- "Grwpiau cymysg neu amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd" (20.9% o fenywod o'i gymharu â 18.9% o ddynion).
Menywod a oedd yn ystyried eu hunain yn “Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Affricanaidd neu Garibïaidd: Affricanaidd" oedd y cyfuniad mwyaf tebygol, o ran rhyw a grŵp ethnig, o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac roedd mwy na thraean (34.0%) yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
Mewn rhai grwpiau ethnig, roedd dynion yn fwy tebygol na menywod o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig. Roedd y bwlch rhwng cyfran y dynion a'r menywod a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn ar ei fwyaf ymhlith y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn y categori "Gwyn: Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig" (18.8% o ddynion o'i gymharu â 16.4% o fenywod) ac "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd arall" (17.6% o ddynion o'i gymharu â 15.5% o fenywod).
Iechyd
Ffigur 4: Canran y bobl sy'n byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn ôl statws iechyd cyffredinol
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod y rhai a oedd mewn iechyd gwael neu wael iawn (14.9%) yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig na'r rhai mewn iechyd gweddol (11.3%) neu iechyd da neu dda iawn (8.9%).
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021) - iechyd (StatsCymru)
Roedd bron i 3 o bob 10 (28.4%) o bobl a oedd mewn iechyd gwael neu wael iawn yn byw yn yr 20% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â llai nag un o bob pump (18.2%) o'r rhai mewn iechyd da neu iechyd da iawn.
Roedd llai na 2 o bob 5 (38.6%) o bobl a oedd mewn iechyd gwael neu wael iawn yn byw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig o'i gymharu ag ychydig dros hanner (52.8%) y bobl mewn iechyd da neu dda iawn.
Ar gyfer pob statws iechyd, roedd y tebygolrwydd o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn gostwng yn gyffredinol gydag oedran. Fodd bynnag, roedd cyfran y rhai rhwng 25 a 34 oed a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn uwch na chyfran y rhai rhwng 16 a 24 oed ym mhob categori iechyd.
Yn gyffredinol, roedd y gwahaniaethau rhwng cyfran y menywod a'r dynion a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fach ar gyfer pob statws iechyd. Roedd y gwahaniaeth mwyaf ymhlith y rhai mewn iechyd gweddol, a menywod (11.4%) ychydig yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig na dynion (11.1%). Roedd cyfran y menywod a'r dynion a oedd mewn iechyd gwael neu wael iawn a oedd yn byw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn debyg (14.8% a 15.0% yn y drefn honno), fel yr oedd ar gyfer menywod a dynion mewn iechyd da neu dda iawn (8.9% ac 8.8% yn y drefn honno).
Statws priodasol a phartneriaeth sifil
Y rhai a oedd "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil" oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig (12.7%), ac yna'r rhai nad oedd "erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil" (11.5%) a'r rhai a oedd "wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi'i diddymu" (10.1%). Y rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig" oedd leiaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig (6.6%), ac yna'r rhai a oedd yn "weddw neu wedi colli partner sifil" (8.1%).
Y rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil" oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 50% o'r AGEHlau lleiaf difreintiedig (58.4%), a'r rhai a oedd "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil" (43.1%) oedd leiaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn.
I'r rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil", "wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi'i diddymu", neu "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil", roedd cyfran y bobl a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig yn gostwng yn gyson gydag oedran. Roedd y rhai rhwng 16 a 24 oed â'r statysau priodasol hyn yn nodedig fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, a'r rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil" yn y grŵp oedran 16 i 24 (18.9%) fwy na thair gwaith yn fwy tebygol na'r rhai 65 oed a hŷn o fyw yn yr ardaloedd hyn (5.2%). Er bod nifer y bobl rhwng 16 a 24 oed a oedd "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil" neu "wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi'i diddymu" yn fach, roedd mwy nag un o bob pump o'r grwpiau hyn (22.8% a 22.5% yn y drefn honno) yn byw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Y grŵp oedran 16 i 24 yw'r unig grŵp oedran lle roedd y rhai a oedd yn "briod neu mewn partneriaeth sifil" yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig (18.9%) na'r rhai nad oeddent erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil (10.6%).
Ffigur 5: Cyfran y menywod a'r dynion a oedd yn byw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig yn ôl statws priodasol a phartneriaeth sifil
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far glystyrog yn dangos bod menywod nad oeddent "erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil", neu "wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi'i diddymu" yn fwy tebygol o fyw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru na dynion yn yr un categorïau. Roedd gweddwon gwrywaidd neu ddynion a oedd wedi colli partner sifil (9.0%) yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na menywod (7.8%), ond roedd cyfran y menywod a'r dynion a oedd "yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig" a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn yn gyfartal (6.6%).
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Roedd y gwahaniaeth rhwng menywod a dynion ar ei fwyaf ymhlith y rhai a oedd "wedi gwahanu ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil", ac 13.9% o fenywod o'r fath yn byw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig o'i gymharu â 11.1% o ddynion.
Hunaniaeth genedlaethol
Roedd y rhai a nododd un hunaniaeth genedlaethol neu fwy y tu allan i'r DU yn unig (16.6%) yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig na'r rhai a nododd hunaniaeth o fewn y DU yn unig (9.3%) neu o leiaf un hunaniaeth o fewn y DU a'r tu allan i'r DU (10.8%). Roedd mwy na hanner y rhai a oedd ag o leiaf un hunaniaeth o fewn y DU yn byw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig, o'i gymharu â thua 2 o bob 5 o bobl a oedd â hunaniaeth y tu allan i'r DU yn unig (39.8%).
Crefydd
Ffigur 6: Cyfran y bobl sy'n byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yn ôl eu hymateb i'r cwestiwn am grefydd
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos mai'r rhai a nododd "Islam" fel eu crefydd oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, ac un o bob pedwar (27.7%) yn gwneud hynny. Roedd hon yn gyfran sylweddol uwch na'r grefydd â'r gyfran uchaf nesaf ("Siciaeth", 15.6%).
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021) - crefydd (StatsCymru)
Y rhai a nododd "Iddewiaeth" fel eu crefydd oedd leiaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig (7.0%), ac yn agos atynt y rhai a nododd "Gristnogaeth" (7.4%). Roedd tua 1 o bob 10 o'r rhai a nododd "Fwdhaeth" fel eu crefydd (9.5%), "Hindwaeth" (9.5%), crefydd arall (9.6%) neu "ddim crefydd" (10.9%) yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig.
Roedd tua 3 o bob 10 o bobl (29.0%) a nodd "Islam" fel eu crefydd" yn byw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig, a oedd yn sylweddol is na grwpiau eraill. Y cyfrannau isaf a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig ar ôl y rhai a nododd "Islam" fel eu crefydd oedd y rhai a nododd "Siciaeth" (44.0%) a "dim crefydd" (46.6%). Y rhai a nododd "Iddewiaeth" (61.6%) oedd â'r gyfran uchaf yn byw yn yr ardaloedd hyn.
Ymhlith y bobl a oedd yn ystyried "Iddewiaeth" fel eu crefydd, roedd y rhai o oedran gweithio (rhwng 16 a 64) yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o AGEHlau mwyaf difreintiedig (9.2%) na'r rhai 15 oed ac iau (5.4%). Er mai poblogaeth gymharol fach oedd y grŵp olaf hwn, mae'n wahanol i'r grŵp 15 oed ac iau o fewn yr holl grefyddau eraill, a oedd yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na'r rhai o oedran gweithio.
Roedd bron i draean (31.1%) o bobl 15 oed neu iau a nododd "Islam" fel eu crefydd yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, ac roedd 1 o bob 5 (20.7%) o'r rhai yn yr un grŵp oedran a nododd "Siciaeth" yn byw yn yr AGEHIau hyn.
Roedd y gwahaniaeth rhwng y rhywiau o ran y tebygolrwydd o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn amrywio yn ôl hunaniaeth grefyddol. Roedd menywod a nododd "Islam" fel eu crefydd (28.6%), "Hindwaeth" (9.6%) neu "ddim crefydd" (11.5%) yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn na dynion o fewn eu crefydd (26.9%, 9.2% a 10.4% yn y drefn honno). Fodd bynnag, roedd dynion a nododd "Siciaeth", "Iddewiaeth", "Cristnogaeth", "Bwdhaeth", neu grefydd arall yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o AGEHlau mwyaf difreintiedig na menywod o fewn eu crefydd, ac roedd y gwahaniaeth mwyaf i'w weld ymhlith y rhai a nododd "Fwdhaeth" (10.3% o ddynion o'i gymharu ag 8.9% o fenywod).
Gofal Di-dâl
Y rhai a oedd yn darparu 20 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos oedd fwyaf tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd 12.5% o'r rhai a oedd yn darparu 20 i 49 awr yr wythnos a 11.9% o'r rhai a oedd yn darparu 50 awr neu fwy yr wythnos yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig. Ar y llaw arall, 9.4% o'r rhai a oedd heb unrhyw gyfrifoldebau gofal di-dâl a 6.8% o'r rhai a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn.
Ffigur 7: Y gyfran o bob grŵp oedran sy'n byw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig yn ôl lefel y ddarpariaeth gofal di-dâl
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far glystyrog yn dangos, ar gyfer pob grŵp oedran, fod y rhai a oedd yn darparu o leiaf 20 awr o ofal di-dâl yr wythnos yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai a oedd yn darparu llai nag 20 awr neu nad oedd ganddynt gyfrifoldebau gofal di-dâl.
Ffynhonnell: Data Cyfrifiad 2021 a MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru
Er bod y tebygolrwydd o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gostwng yn gyffredinol wrth i bobl fynd yn hŷn ar gyfer pob lefel o ddarpariaeth gofal di-dâl, y rhai rhwng 25 a 34 oed oedd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig ar gyfer lefelau uwch o ddarpariaeth gofal di-dâl (20 awr neu fwy yr wythnos). Roedd y gyfran o'r grŵp oedran hwn a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn ar ei huchaf ar gyfer y rhai sy'n darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos, ac roedd mwy nag un o bob pump (21.3%) o bobl o'r fath yn gwneud hynny (y lefel uchaf mewn unrhyw gyfuniad o ddarpariaeth gofal di-dâl a grŵp oedran).
Ac eithrio'r rhai a oedd yn 65 oed neu'n hŷn, roedd y tebygolrwydd o fyw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar ei uchaf i'r rhai a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos. I'r rhai hyd at 34 oed, roedd y tebygolrwydd o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cynyddu'n gyffredinol gyda nifer yr oriau gofal di-dâl a ddarperid. Fodd bynnag, o'r rhai a oedd yn 35 oed a hŷn, roedd y rhai nad oeddent yn darparu unrhyw oriau o ofal di-dâl yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai a oedd yn darparu 19 awr neu lai.
Ac eithrio'r rhai a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos, roedd menywod yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o'r AGEHlau mwyaf difreintiedig na dynion, ac roedd y gwahaniaeth mwyaf ymhlith y rhai a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl (12.2% o fenywod o'i gymharu â 11.6% o ddynion).
Cyn-aelodau o Luoedd Arfog y DU
Roedd y rhai a oedd yn 16 oed a hŷn a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU, boed yn y lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn, yn llai tebygol o fyw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai nad oeddent erioed wedi gwasanaethu.
Roedd tua 1 o bob 10 (9.1%) o bobl nad oeddent wedi gwasanaethu yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â 7.5% o'r rhai a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arferol, 7.9% o'r rhai a wasanaethodd yn y lluoedd wrth gefn, ac 8.4% o'r rhai a wasanaethodd yn y ddau lu.
Y Gymraeg
Roedd pobl a oedd heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na'r rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg neu'r rhai nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg ond a oedd â rhai sgiliau Cymraeg (darllen, ysgrifennu neu ddeall Cymraeg llafar). Roedd 1 o bob 10 o bobl (10.8%) a oedd heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg yn byw yn y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig, canran uwch na'r bobl a oedd â rhai sgiliau yn y Gymraeg (7.1%) a mwy na dwbl y gyfran o'r rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg (5.1%). Roedd bron i dri o bob pump (58.2%) o'r rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn byw yn y 50% o'r AGEHIau lleiaf difreintiedig, o'i gymharu ag ychydig llai na hanner (49.0%) y rhai a oedd heb unrhyw sgiliau Cymraeg.
Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd
Nid yw'r dadansoddiad o amddifadedd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd wedi'i gynnwys yn y datganiad ystadegol hwn. Ni chyhoeddwyd data Cyfrifiad 2021 ar y nodweddion hyn ar lefel AGEHIau oherwydd pryderon ynghylch datgelu data a phreifatrwydd. Rydym yn gobeithio llunio dadansoddiad amddifadedd ar sail y nodweddion hyn yn dilyn penderfyniadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch cyhoeddi data am hunaniaeth rhywedd yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad sydd ar y gweill o'r data hunaniaeth rhywedd a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2021 i'w gweld yn adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y fethodoleg ar gyfer casglu a phrosesu data ar hunaniaeth rhywedd ac adroddiad interim y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Nod MALlC yw canfod yr ardaloedd bach hynny yng Nghymru sydd â'r crynodiadau uchaf o wahanol fathau o amddifadedd. MALlC 2019 yw'r mynegai mwyaf diweddar ac mae'n rhoi safle rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig) i'r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Cyfeirir at ardal fach o'r fath fel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI). Mae'r ddaearyddiaeth hon yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011, ac mae'n cynrychioli ardaloedd bach, pob un ohonynt â phoblogaeth o tua 1,600 o bobl. Cyfrifir y mynegai ar sail wyth math o amddifadedd, pob un wedi'i lunio ar sail ystod o wahanol ddangosyddion (neu fesurau). Gweler Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru am fwy o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau i'r mynegai a'r dangosyddion.
Sylwch mai un o'r parthau amddifadedd o dan MALlC yw Iechyd, ac mae'n bosibl bod yna gysylltiad cylchol rhwng nodweddion iechyd ac anabledd y Cyfrifiad ac amddifadedd. Y rheswm am hyn yw bod ardaloedd sy’n cynnwys pobl sydd â iechyd cymharol wael yn debygol o fod â lefelau amddifadedd Iechyd uwch ac, felly, amddifadedd uwch yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'r parth Iechyd yn gyfran gymharol fach o elfennau amddifadedd cyffredinol MALlC, ac mae'n cyd-fynd yn agos â mathau eraill o amddifadedd. Credwn, felly, fod effaith gyffredinol y berthynas gylchol hon yn fach.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021. I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021, gan gynnwys rhestr o'r eirfa, gweler adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch yr ansawdd a'r fethodoleg .
Mae'r amcangyfrifon yn yr erthygl hon wedi'u cynhyrchu trwy gysylltu data AGEHIau Cyfrifiad 2021 o adnodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol i greu set ddata wedi'i theilwra â manylion amddifadedd cyffredinol AGEHIau MALlC 2019. Oherwydd dulliau rheoli datgelu ystadegau a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr adnodd hwn, efallai na fydd canrannau'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr erthygl hon yn cyfateb i 100.0%. Ni fu'n bosibl dadansoddi yn ôl grŵp oedran neu ryw ar gyfer holl nodweddion yr erthygl hon oherwydd rheolaethau datgelu ystadegau integredig yr adnodd ar lefel ardal fach.
Yn y dadansoddiad hwn, mae ardaloedd bach wedi'u grwpio ar sail manylion amddifadedd cyffredinol MALlC 2019. Wrth gynllunio'r grwpiau, y nod oedd cael grwpiau llai ar begwn mwy difreintiedig y dosbarthiad, lle mae'r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pegwn llai difreintiedig. Mae'r rhan fwyaf o'r dadansoddiad yn yr erthygl hon yn canolbwyntio ar y 10% o'r AGEHIau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, hynny yw degradd amddifadedd 1. Mae'r AGEHIau sydd yn negraddau amddifadedd 4 i 10 wedi'u cyfuno'n ddau grŵp mwy (4 i 5 a 6 i 10). Cyfeirir at yr ail yn y dadansoddiad hwn fel y 50% o AGEHIau lleiaf difreintiedig.
Gwelwyd newidiadau yn naearyddiaeth AGEHIau rhwng Cyfrifiad 2011 (y mae AGEHIau MALlC 2019 wedi'u seilio arnynt) a Chyfrifiad 2021, a chafodd rhai o AGEHIau 2011 eu rhannu neu eu cyfuno i greu AGEHIau newydd yn 2021. Gosodwyd yr AGEHIau hyn mewn grwpiau degradd amddifadedd at ddibenion y dadansoddiad hwn fel a ganlyn:
- Os oedd AGEHI o 2011 wedi'i rhannu'n fwy nag un AGEHI yn 2021, gosodwyd yr AGEHIau newydd hyn yn yr un degradd amddifadedd cyffredinol o dan MALlC 2019 â'r AGEHI gwreiddiol yn 2011.
Enghraifft: roedd AGEHI W01000568 2011 (Sir Benfro: Hwlffordd) yn y 3ydd degradd yn rhestr amddifadedd cyffredinol MALlC 2019. Fe'i rhannwyd yn ddwy AGEHI rhwng 2011 a 2021 (W01002009 a W01002010), a gosodwyd y ddwy yn negradd amddifadedd 3.
- Os oedd mwy nag un o AGEHIau 2011 wedi'u cyfuno i greu un AGEHI yn 2021, a phob AGEHI yn perthyn i'r un grŵp amddifadedd o dan MALlC 2019, yna gosodwyd yr AGEHI newydd yn 2021 yn y grŵp amddifadedd hwnnw sydd o dan MALlC 2019.
Enghraifft: roedd AGEHlau W0100726 a W0100727 2011 (Sir Gaerfyrddin: Swiss Valley 1 a Swiss Valley 2 yn y drefn honno) yn negraddau amddifadedd cyffredinol 9 ac 8, yn y drefn honno, o dan MALlC 2019, ac felly cawsant eu gosod yng ngrŵp degradd amddifadedd 6 i 10. Cafodd y rhain eu cyfuno i greu AGEHI W01001999 2021, a osodwyd yng ngrŵp degradd amddifadedd 6 i 10.
- Os oedd mwy nag un o AGEHIau 2011 wedi'u cyfuno i greu un AGEHI yn 2021, a'r AGEHIau yn perthyn i wahanol grwpiau amddifadedd o dan MALlC 2019, yna dilewyd yr AGEHI newydd yn 2021 o'r dadansoddiad.
Enghraifft: roedd AGEHI W01000048 a W01000049 2011 (Gwynedd: Abermaw 1 ac Abermaw 2 yn y drefn honno) yn negraddau amddifadedd cyffredinol 5 a 6, yn y drefn honno, o dan MALlC 2019, ac felly cawsant eu gosod yng ngrwpiau degradd amddifadedd 4 i 5 a 6 i 10, yn y drefn honno. Cafodd yr AGEHIau hyn eu cyfuno i greu AGEHI W01002004 yn 2021, na ellid eu gosod yn y naill grŵp degradd amddifadedd na'r llall, ac fe'u dilewyd o'r dadansoddiad.
Ar ôl y broses hon, mae 1,903 o'r 1,917 o'r AGEHIau cyfredol wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad hwn. Roedd y rhain yn cyfrif am oddeutu 99% o'r boblogaeth a oedd yn byw yn arferol yng Nghymru yn 2021. Mae'r data yn amrywio yn ôl y cyfuniad o nodweddion, ond ar y cyfan mae'r lefel yn uchel i bob grŵp - er enghraifft, y gyfran isaf o unrhyw gyfuniad o grŵp ethnig a rhyw oedd menywod a nododd eu bod yn "Arabaidd", ac roedd 94.9% o'r boblogaeth yn 2021 yn byw yn y 1,903 o AGEHIau sydd wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad hwn.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Eu hamcan yw sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, os bydd Gweinidogion Cymru’n diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y medrant (a) gyhoeddi’r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Andy O’Rourke
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB: 38/2023