1. Prif bwyntiau

Darpara'r briff dystiolaeth hwn y canlyniadau cyntaf o ymchwil sy'n seiliedig ar cysylltu setiau data â teuluoedd sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg.

Mae'r briff dystiolaeth hwn yn ymwneud â Chyngor Dinas a Sir Abertawe yn unig. Cyhoeddir dadansoddiad pellach sy'n cyfuno data ar gyfer awdurdodau lleol ychwanegol yn y dyfodol.

Cafodd canlyniadau iechyd ar gyfer 2009-17 a chanlyniadau addysg ar gyfer 2011/16 eu cymharu ar gyfer plant sy'n byw yn ardal Abertawe a oedd wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg (y 'grŵp Dechrau'n Deg') a phlant nad oeddent wedi derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg (y 'grŵp sydd ddim yn rhan o Gynllun Dechrau'n Deg').

Mae'r Canfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg yn awgrymu:

  • Dangosydd rhagarweiniol cyfyngedig o effaith positif bosibl Dechrau'n Deg ar bwysau geni isel a genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau. Fodd bynnag, mae'r canfyddiad yn seiliedig ar ffigurau cyfun ar gyfer genedigaethau a fyddai wedi dod â mamau i gysylltiad â Dechrau'n Deg a genedigaethau i famau sydd eisoes yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg. Byddai angen gwaith pellach i ganolbwyntio ar enedigaethau ymhlith mamau sydd eisoes yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn unig er mwyn nodi cysylltiad â gwasanaethau Dechrau'n Deg. 
  • Dim effaith ar fynychiadau i'r uned damweiniau ac achosion brys yn gyffredinol. Fodd bynnag, cynhelir gwaith dadansoddi pellach yn rhan o gyhoeddiadau yn y dyfodol sy'n edrych ar fathau o fynychiadau i'r uned damweiniau ac achosion brys. 
  • ‘Effaith amddiffynnol’ bosibl Dechrau'n Deg ar dderbyniadau i’r ysbyty. Cynyddodd nifer y derbyniadau i'r ysbyty rhwng 2014-15 a 2016-17 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg ond roedd y cynnydd yn llai yn y grŵp Dechrau'n Deg.
  • Effaith positif bosibl Dechrau'n Deg ar absenoldebau mewn ysgolion cynradd. Gostyngodd nifer yr absenoldebau mewn ysgolion cynradd rhwng 2011/12 a 2015/16 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg, ond roedd y gostyngiad yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg.
  • Effaith positif bosibl Dechrau'n Deg ar absenoldebau heb eu hawdurdodi mewn ysgolion cynradd. O edrych ar y cyfnod ers cyflwyno cosbau penodedig, h.y. 2013/14 i 2015/16, gostyngodd nifer yr absenoldebau heb eu hawdurdodi ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg ond roedd y gostyngiad yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg. 

Ar gyfer y Canfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg, ni fu'n bosibl cwblhau'r mathau manwl o waith dadansoddi sy'n angenrheidiol i ddangos y lwfans gwallau ar gyfer y canlyniadau nac archwilio unrhyw effeithiau'n fwy manwl. Cyhoeddir gwaith dadansoddi mwy manwl mewn briffiau tystiolaeth yn y dyfodol.

2. Cyflwyniad i Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

Partneriaeth arloesol newydd yr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru Mae'n dwyn ynghyd arbenigwyr gwyddor data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd maent yn datblygu tystiolaeth newydd sy'n cefnogi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn defnyddio Cronfa Ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae'r broses hon yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y berthynas rhwng gwahanol feysydd darparu gwasanaeth cyhoeddus a chael gwell dealltwriaeth o brofiad pobl wrth iddynt symud trwy wahanol wasanaethau. Mae hyn yn cefnogi gwaith datblygu polisi cydweithredol ac integredig i wella bywydau pobl yng Nghymru.

3. Cyflwyniad i Dechrau'n Deg

Nod Dechrau'n Deg yw gwella cyfleoedd bywyd plant ifanc o dan 4 mlwydd oed sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r brîff tystiolaeth hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol am ganlyniadau iechyd ac addysgol y rhai hynny sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ardal Awdurdod Lleol Abertawe.

Elfennau craidd Dechrau'n Deg yw:

  • gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell (lle mae llwyth achosion ymwelwyr iechyd wedi'i gyfyngu i 110 o blant)
  • mynediad i gymorth rhianta
  • mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu (a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel Datblygiad Iaith Gynnar)
  • ariannu gofal plant rhan amser o ansawdd uchel i blant 2-3 mlwydd oed.

Mae'r gwasanaethau hyn ar gael yn gyffredinol i bob plentyn o dan 4 oed a'u teuluoedd yn yr ardaloedd lle mae'r rhaglen yn cael ei darparu. Yn ogystal â'r elfennau hyn, gall awdurdodau lleol gymhwyso rhywfaint o hyblygrwydd yn y cynllun Dechrau'n Deg trwy gynnig cefnogaeth yn rhan o Raglen Allgymorth.  Mae'r Rhaglen Allgymorth yn galluogi nifer fach o deuluoedd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn seiliedig ar feini prawf cytunedig. Gan ddefnyddio gwybodaeth leol ac asesiad o flaenoriaeth, gall awdurdodau lleol geisio sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn derbyn y gwasanaeth hwn.

Caiff ystadegau swyddogol ar gyfer Dechrau'n Deg eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

4. Gwaith Dadansoddi Dechrau'n Deg blaenorol

Yn hanesyddol, roedd gwaith dadansoddi’r rhaglen yn tueddu i dynnu sylw at rai o effeithiau cadarnhaol Dechrau'n Deg, ond roedd y rhain naill ai'n effeithiau gwan iawn neu'n fwy ansoddol ac yn seiliedig ar farn y rhieni.

Ceisiodd dau brosiect ymchwil mwy diweddar adeiladu ar y rhain gan ddefnyddio data gweinyddol presennol i edrych ar ganlyniadau ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac felly'n gymwys ar gyfer (ond nid o reidrwydd yn derbyn) gwasanaethau'r cynllun. Roedd y Prosiect Arddangos Cysylltu Data: Dechrau'n Deg a gafodd ei gyhoeddi yn Ionawr 2014 yn dadansoddi data gweinyddol ar gyfer plant sy'n byw yn ardaloedd cod post cymwys y cynllun Dechrau'n Deg er mwyn asesu deilliannau iechyd Yn ogystal â hyn, roedd y Prosiect Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru: Gwerthusiad o Dechrau'n Deg: deilliannau addysgol a gafodd ei gyhoeddi yn Ionawr 2017 yn archwilio deilliannau addysgol ar gyfer Plant sy'n Gymwys i dderbyn Gwasanaethau Dechrau'n Deg. Oherwydd y ffordd y casglwyd y data yn y gorffennol, nid oedd y prosiectau hyn yn gallu archwilio canlyniadau yn ôl lefel yr ymgysylltu â'r rhaglen.

Nod y prosiect Peilot Casglu Data ar Lefel Unigol Dechrau'n Deg yw casglu gwybodaeth am blant Dechrau'n Deg gan gynnwys lefel eu hymgysylltiad â'r rhaglen. Y bwriad yw monitro a gwerthuso cynnydd plant Dechrau'n Deg yn ystod ac ar ôl eu hymgysylltiad â'r Rhaglen er mwyn archwilio eu hiechyd, eu haddysg a'u canlyniadau ehangach. 

At y diben hwn, mae data dienw ar lefel unigol ar gyfer y rhai hynny sydd wedi ymgysylltu â gwasanaethau Dechrau'n Deg yn cael ei ddarparu i gronfa ddata SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol.

Ar ôl cael ei nodi yng nghronfa ddata SAIL, mae'r data dienw yn cael ei gysylltu â setiau data eraill sydd eisoes wedi'u cadw yng nghronfa ddata SAIL er mwyn:

  • dadansoddi darpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg a'r niferoedd sy'n ymgysylltu â nhw
  • ymchwilio i ganlyniadau cyfredol ac yn y dyfodol ar gyfer plant sy'n derbyn ac sydd ddim yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg
  • archwilio gwahaniaethau mewn deilliannau ar gyfer gwahanol batrymau/lefelau ymgysylltu â gwasanaethau Dechrau'n Deg.

Mae'r gwaith dadansoddi yr adroddir arno yn yr erthygl hon wedi defnyddio dull cysylltu data ar gyfer un awdurdod lleol yng Nghyymru, sef Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Dyma'r canlyniadau cyntaf a gynhyrchwyd gan ddefnyddio'r dull hwn. Cyhoeddir dadansoddiad pellach sy'n cyfuno data ar gyfer awdurdodau lleol ychwanegol yn y dyfodol. 

5. Dulliau

Roedd data ar lefel unigol dienw Dechrau'n Deg ar gyfer Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn gysylltiedig â data o'r cronfeydd data canlynol:

  • Cronfa Ddata Cymru ar gyfer Adrannau Achosion Brys (EDDS) ynghylch presenoldeb mewn Unedau Damweiniau ac Achosion Brys 
  • Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) ynghylch derbyniadau i'r ysbyty, 
  • Gwasanaeth Demograffeg Cymru
  • Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol
  • Cronfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Disgyblion a Chyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer cofnodion presenoldeb

I gael rhagor o wybodaeth am baru a chysylltu data gweler y dudalen Cysylltu a Pharu Data.

Dewiswyd grŵp cymharu sy'n cynnwys plant yn Abertawe na ymddangosodd yn y data Dechrau'n Deg hefyd. Cafodd canlyniadau iechyd ac addysg ar gyfer y ddau grŵp, h.y. y rhai hynny sy'n preswylio yn Abertawe sy'n ymddangos yn y data Dechrau'n Deg ('grŵp Dechrau'n Deg') a'r rhai hynny nad ydyn nhw'n ymddangos yn y data Dechrau'n Deg ('grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg') eu cymharu.

Dylid nodi, ar gyfer yr Adroddiad Canfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg, na fu'n bosibl cwblhau'r mathau manwl o waith dadansoddi sy'n angenrheidiol i ddangos y lwfans gwallau ar gyfer y canlyniadau, nac archwilio unrhyw effeithiau'n fwy manwl. Cyhoeddir gwaith dadansoddi ystadegol mwy manwl mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Dadansoddwyd y canlyniadau ar gyfer plant a oedd naill ai wedi'u geni neu a symudodd i Ddinas a Sir Abertawe cyn troi'n 5 oed. Dylid nodi, ar gyfer y rhai hynny a symudodd i ardal Dechrau'n Deg, y gall y gwaith dadansoddi gynnwys digwyddiadau a ddigwyddodd cyn eu dyddiad atgyfeirio i'r cynllun Dechrau'n Deg, gan efallai arwain at danamcangyfrif neu or-amcangyfrif yr effeithiau yr adroddir amdanyn nhw yn yr adran canfyddiadau isod.

Cynhyrchwyd ystadegau ar gyfer nifer o ddangosyddion trwy grynhoi'r data cysylltiedig ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Caiff dull cyffredin ei ddefnyddio ar gyfer pob grŵp a set ddata. Lle bo modd, tynnwyd ffigurau Cymru gan ddefnyddio'r un dull. Mae'r ystod o gyfnodau amser y mae data ar gael ar eu cyfer yn amrywio rhwng setiau data. O ganlyniad, cynhyrchwyd ystadegau am gyfnodau amser hyd at y cyfnodau diweddaraf sydd ar gael (h.y. 2016-17 neu 2015-16).

Wrth ystyried y dadansoddiad hwn, ni ddylid cymryd yn ganiataol bod y tueddiadau a gyflwynir yn ganlyniad i'r cynllun Dechrau'n Deg yn unig gan fod y canlyniadau'n destun ystod o ffactorau gan gynnwys polisïau eraill y llywodraeth, nodweddion economaidd-gymdeithasol a gyrwyr ymddygiadol ac agwedd.

6. Nodweddion y grwpiau Dechrau'n Deg a grwpiau nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg

Nifer y plant yn y grŵp Dechrau'n Deg Abertawe yw 8,071 a chyfanswm y plant yn y grŵp Nad yw'n rhan o Gynllun Dechrau'n Deg Abertawe yw 28,722. Gellir egluro rhai o'r patrymau a ddangosir yn y graffiau isod yn rhannol gan ystyried y niferoedd bach a all ddigwydd wrth dorri lawr data gan flwyddyn ac islaw lefel awdurdod lleol.

Newidiodd oedran, rhyw a chyfansoddiad economaidd-gymdeithasol y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg dros y cyfnod amser a gwmpesir gan y dadansoddiad. Mae hyn oherwydd bod plant yn symud i mewn ac allan o’r ddau grŵp oherwydd genedigaethau, marwolaethau, symudiadau i mewn ac allan o ardal Abertawe a phlant yn ‘heneiddio’ o’r rhaglen yn 4 oed. Roedd y cyfansoddiad oedran hefyd yn wahanol rhwng y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Er enghraifft, roedd cyfran uwch o blant 0-1 oed yn 2009-10 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg o'i gymharu â'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg.

Yn ôl y disgwyl, roedd y ddau grŵp yn cynnwys cyfran o fechgyn ychydig yn uwch na merched (51 a 49 y cant ar gyfer bechgyn a merched Dechrau'n Deg yn y drefn honno, o gymharu â 52 a 48 y cant ar gyfer rhai nad ydyn nhw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg).

Pam mae mwy o fechgyn na merched yn cael eu geni bob blwyddyn?

Yn ogystal, ac fel y byddai disgwyl o ystyried targedu'r cynllun Dechrau'n Deg, roedd 91 y cant o'r grŵp Dechrau'n Deg yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (cwintel 1 neu 2 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014). 
 

7. Canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg

Fel y nodwyd uchod, ar gyfer yr adroddiad Canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg, ni fu'n bosibl cwblhau'r mathau manwl o waith dadansoddi sy'n angenrheidiol i ddangos lwfans gwallau ar gyfer y canlyniadau, nac archwilio unrhyw effeithiau'n fwy manwl. Cyhoeddir gwaith dadansoddi ystadegol mwy manwl mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Mae'r adran hon yn cyflwyno'r brif ganfyddiadau ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed yn y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg ar gyfer:

  • pwysau geni isel
  • genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau
  • nifer y Derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (pob rheswm) yn Gyffredinol 
  • derbyniadau i'r Ysbyty yn Gyffredinol 
  • presenoldeb ac Absenoldebau mewn Ysgolion Cynradd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 1 a 2.

Pwysau geni isel a genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau

Rydym eisoes yn gwybod bod ffactorau fel pwysau geni isel a beichiogrwydd yn yr arddegau yn gysylltiedig ag amddifadedd a chanlyniadau gwael. Mae pwysau geni isel (h.y. canran y genedigaethau byw sengl sydd â phwysau geni o dan 2.5 kg) wedi'i gynnwys ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) ac mewn mannau eraill fel dangosydd dirprwyol ar gyfer amddifadedd.

Mae Ffigur 1 yn dangos nifer yr achosion o bwysau geni isel yng Nghymru ac ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Mae Ffigur 2 yn dangos nifer yr achosion cymharol o enedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau ers cyflwyno'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer Cymru ac ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg.

Mae ffigurau 1 a 2 wedi'u cynnwys yn bennaf i roi arwydd o'r gwahaniaethau rhwng y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Fodd bynnag, ar gyfer y Canfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg, nid oedd yn bosibl gwahanu genedigaethau a fyddai wedi dod â mamau i gysylltiad â gwasanaethau Dechrau'n Deg o enedigaethau ymhlith mamau sydd eisoes yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg. Yn achos yr olaf, gellid dadlau y gallai Dechrau'n Deg fod wedi effeithio ar faterion fel pwysau geni isel a beichiogrwydd yn yr arddegau. Fel y nodwyd uchod, gellir egluro rhywfaint o'r anwadalrwydd sy'n amlwg yn Ffigur 1 ac o bosibl Ffigur 2 trwy edrych ar y niferoedd bach. 

At ei gilydd, mae Ffigurau 1 a 2 yn dangos yr hyn sy'n ymddangos yn duedd ar i lawr ar gyfer grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg, h.y. mewn perthynas â phwysau geni isel a genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau. Fodd bynnag, efallai yn achos pwysau geni isel ac yn sicr ar gyfer genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau, mae'r gostyngiad rhwng 2009-10 a 2015-16 yn ymddangos yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg nac yn y grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Gall hyn ddarparu dangosydd rhagarweiniol cyfyngedig o effaith bosibl Dechrau'n Deg ar bwysau geni isel a genedigaethau ymhlith mamau yn eu harddegau. Byddai angen gwaith pellach i ganolbwyntio ar enedigaethau ymhlith mamau sydd eisoes yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yn unig er mwyn cadarnhau'r cysylltiad â gwasanaethau Dechrau'n Deg. Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn ceisio gwahanu'r ddau grŵp hyn i archwilio'r mater ymhellach. Dim ond unwaith y bydd data ar gael ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol y bydd y gwaith hwn yn bosibl, oherwydd mae'n debygol y bydd y niferoedd yn rhy fach ar gyfer Abertawe. 

Roedd gostyngiad ychydig yn uwch mewn Achosion o bwysau geni isel ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg nag ar gyfer y grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg rhwng 2009-10 a 2015-16.

Roedd gostyngiad uwch yn nifer y genedigaethau i famau yn eu harddegau ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg nag ar gyfer y grŵp nad yw’n rhan o gynllun Dechrau'n Deg rhwng 2009-10 a 2015-16.

Derbyniadau i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E)

Mae Ffigur 3, isod, yn dangos y cyfraddau derbyniadau i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed yn y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg fesul blwyddyn ariannol, wedi'i gyfrifo fesul 100 o blant. Dylid nodi bod y canlyniadau hyn yn cynnwys unedau mân anafiadau o 2011-12 ymlaen, nid yw'r canlyniadau cyn 2011-12 yn cynnwys unedau mân anafiadau. Efallai fod hyn wedi cyfrannu at y cynnydd a ddangoswyd rhwng 2010-11 a 2011-12.
 

Roedd y grŵp Dechrau'n Deg a chyfraddau uwch o dderbyniadau i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys na'r grŵp nad yw’n rhan o gynllun Dechrau'n Deg am bob blwyddyn o 2009-10 i 2015-16.

Roedd gan y grŵp Dechrau'n Deg gyfraddau presenoldeb uwch na'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg dros y cyfnod cyfan. Mae yna nifer o esboniadau posib am hyn, er enghraifft agosrwydd at adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac amrywiadau yn nifer yr anafiadau a gwenwyno. Gall hyn nodi lefel uwch o angen yn y grŵp Dechrau'n Deg. At ei gilydd, mae'r grŵp Dechrau'n Deg yn dilyn tuedd debyg i'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Bydd cyhoeddiadau yn y dyfodol yn ymchwilio i hyn ymhellach. 

Derbyniadau i'r Ysbyty (PEDW)

Mae Ffigur 4, isod, yn dangos cyfradd derbyniadau i'r ysbyty ymhlith plant 0-4 oed yn y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg, fesul blwyddyn ariannol. Dangosir cyfraddau fesul 100 o blant ac maent yn cynnwys derbyniadau brys i ysbytai dewisol. Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn archwilio derbyniadau brys i ysbytai dewisol ar wahân.
 

Gostyngodd y gyfradd derbyniadau i’r ysbyty yn gyson o 2009-10 i 2014-15 ar gyfer y ddau grŵp gyda chynnydd uwch yn 2015-16 ar gyfer y grŵp nad yw’n rhan o gynllun Dechrau'n Deg nag ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg.

Mae'r gyfradd derbyniadau'n dangos gostyngiad bach cyson rhwng 2009-10 a 2014-15 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Mae'n werth nodi, er bod cyfradd y derbyniadau wedi cynyddu o chwe derbyniad fesul pob 100 o blant rhwng 2014-15 a 2015-16 yn y grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg (o 22 derbyniad fesul 100 o blant yn 2014-15 i 28 derbyniad fesul 100 o blant yn 2015-16), mae'r gyfradd derbyniadau ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg wedi cynyddu o un derbyniad fesul 100 o blant (o 32 derbyniad fesul 100 o blant yn 2014-15 i 33 derbyniad fesul 100 o blant yn 2015-16). Gall hyn awgrymu effaith amddiffynnol Dechrau'n Deg.

Bydd gwaith pellach yn cael ei gyflawni i archwilio'r resymau dros gynnydd diweddar mewn cyfraddau derbyn i'r ysbyty ar gyfer plant. 

Presenoldeb Ysgolion Cynradd

Roedd Prosiect Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru: Gwerthusiad o Dechrau'n Deg: deilliannau addysgol wedi dangos bod presenoldeb plant oed ysgol gynradd sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg yn tueddu i wella, ar ôl cyflwyno gwasanaethau Dechrau'n Deg. Darperir gwasanaethau Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed, felly mae'r graffiau canlynol yn seiliedig ar ddata ar gyfer y rhai hynny sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau Dechrau'n Deg sy'n gysylltiedig â data a grëwyd ar ôl iddynt ddechrau'r ysgol. Mae ystadegau addysg wedi'u cyhoeddi yn seiliedig ar flynyddoedd ysgol felly mae'r graffiau isod yn dangos cyfraddau ar gyfer blynyddoedd ysgol ac ar gyfer plant o oedran ysgol statudol (hy 5 oed a hŷn) gyda data 2011/12 gan gynnwys data Blwyddyn Ysgol 1 yn unig, oherwydd gweithredu Dechrau'n Deg. Mae data ar gyfer y feithrinfa a'r dosbarth derbyn, lle y'i cofnodir, yn cael ei eithrio o'r canlyniadau a ddangosir oherwydd nad yw'n cael ei gofnodi'n gyson ac nid oes unrhyw ofyniad statudol i ddarparu’r data i Lywodraeth Cymru.
 

Gostyngodd nifer yr absenoldebau mewn ysgolion cynradd rhwng 2011/12 a 2015/16 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg, ond roedd y gostyngiad yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg.

Mae Ffigur 5 yn dangos effaith bosibl Dechrau'n Deg ar absenoldebau ysgolion cynradd yn seiliedig ar ganran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd dros y flwyddyn ysgol. Gostyngodd nifer yr absenoldebau mewn ysgolion cynradd rhwng 2011/12 a 2015/16 ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg, ond roedd y gostyngiad yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg.

Gellir rhannu absenoldeb ysgol yn absenoldeb wedi'i awdurdodi ac absenoldeb heb ei awdurdodi, wedi'i fesur yma yn nhermau'r hanner diwrnodau cyfartalog a gollir y flwyddyn. Mae absenoldeb awdurdodedig yn absenoldeb sydd wedi’i ganiatáu gan athro neu rywun arall sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys absenoldeb y rhoddwyd esboniad boddhaol amdano (e.e. salwch, profedigaeth deuluol neu gadw gwyliau crefyddol). Mae absenoldeb anawdurdodedig yn absenoldeb sydd heb ei ganiatáu gan athro neu rywun arall sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys pob math o absenoldeb sydd heb ei egluro neu ei gyfiawnhau. Mae Ffigur 6 yn dangos  y sesiynau hanner diwrnod cyfartalog a gollwyd oherwydd absenoldeb heb ei awdurdodi.
 

Bu cynnydd yn 2013/14 ac yna gostyngiadau bach yn 2014/15 ar gyfer y grŵp Dechrau’n Deg a’r grŵp nad yw’n rhan o gynllun Dechrau'n Deg.

Bu cynnydd yn 2013/14 ac yna gostyngiadau bach yn 2014/15 ar gyfer y ddau grŵp. Gall rhywfaint o'r newid a ddangosir ar gyfer 2013/14 fod yn newidiadau polisi cysylltiedig, gan gynnwys cyflwyno cosbau penodedig am absenoldeb heb ei awdurdodi, a allai fod wedi effeithio ar y ffordd y cafodd rhai mathau o absenoldeb eu cofnodi o'r flwyddyn honno ymlaen.

O edrych ar y cyfnod ers cyflwyno cosbau penodedig, h.y. 2013/14 i 2015/16, gostyngodd nifer yr absenoldebau heb eu hawdurdodi ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp sydd ddim yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg ond roedd y gostyngiad yn fwy yn y grŵp Dechrau'n Deg.

8. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Bydd y brîff tystiolaeth nesaf ar gyfer y Prosiect Cysylltu Data Dechrau'n Deg, y bwriedir ei gyhoeddi yn Hydref 2019, yn adrodd ar ganlyniadau yn ôl lefel yr ymgysylltiad â Dechrau'n Deg e.e. derbyn gwasanaethau gofal plant.

Mae datganiadau i'r dyfodol wedi'u cynllunio i: 

  • ddadansoddi data gan awdurdodau lleol eraill
  • archwilio i ba raddau y mae Dechrau'n Deg wedi cyflawni'r canlyniadau fel y rhagwelir ym model rhesymeg y cynllun Dechrau'n Deg
  • archwilio i ba raddau y mae derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan fam a phlentyn cymwys yn effeithio ar y canlyniadau ar gyfer y plant sy'n weddill (h.y. hŷn) yn yr un cartref
  • archwilio i ba raddau y mae derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg gan fam a phlentyn cymwys yn effeithio ar y canlyniadau i oedolion eraill a (h.y. plant hŷn) yn yr un gymdogaeth
  • cymharu lefelau bwydo ar y fron ar gyfer y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg
  • cyflwyno dadansoddiad gan grwpiau MALlC
  • cyflwyno dadansoddiad yn ôl lefel cymhwyster addysgol uchaf y fam
  • cyflwyno dadansoddiad yn ôl cyfansoddiad yr aelwyd
  • cyflwyno dadansoddiad yn ôl deiliadaeth
  • cyflwyno dadansoddiad gan gynifer â phosibl o'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

9. Gwybodaeth fethodoleg ac ansawdd allweddol

Wrth ystyried y dadansoddiad hwn, ni ddylid cymryd yn ganiataol bod y tueddiadau a gyflwynir yn ganlyniad i'r cynllun Dechrau'n Deg yn unig gan fod y canlyniadau'n destun ystod o ffactorau gan gynnwys polisïau eraill y llywodraeth, nodweddion economaidd-gymdeithasol a gyrwyr ymddygiadol ac agwedd.

Mae yna hefyd symiau amrywiol o wir amser amlygiad, er enghraifft, bydd plentyn a gafodd ei eni ar ddiwedd y cyfnod terfyn blynyddol wedi cael llai o amser i brofi unrhyw fuddion posibl Dechrau'n Deg. Fel y nodwyd uchod, ar gyfer plant a symudodd i ardal Dechrau'n Deg, gall y gwaith dadansoddi gynnwys digwyddiadau iechyd a ddigwyddodd cyn eu dyddiad atgyfeirio i gynllun Dechrau'n Deg gan efallai arwain at danamcangyfrif neu or-amcangyfrif yr effeithiau a nodwyd uchod. 

Fel y nodwyd uchod, newidiodd oedran, rhyw a chyfansoddiad economaidd-gymdeithasol y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg dros y cyfnod amser a gwmpesir gan y gwaith dadansoddi oherwydd genedigaethau a marwolaethau, symud i mewn ac allan o Abertawe a phlant yn 'heneiddio' o'r rhaglen. Roedd y cyfansoddiad oedran hefyd yn wahanol rhwng y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Yn y dadansoddiad hwn, er bod y cyfraddau'n cyfeirio at blant 0-4 oed yn unig, nid ydynt wedi'u haddasu yn ôl oedran felly mae'r canfyddiadau yn debygol o ddangos effeithiau cymysg gan fod gan bob oedran, e.e. plant 0-1 oed, daflwybr gwahanol o ran defnyddio'r gwasanaeth iechyd.

Nid yw'r erthygl hon yn adrodd ar Ystadegau Gwladol, ond gall y canfyddiadau ymwneud ag allbynnau Ystadegau Gwladol. 

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi amlinelliad mwy manwl o wybodaeth ansawdd.

Perthnasedd

Mae'r gwaith dadansoddi a gyflwynir yn y brîff tystiolaeth hwn yn ymwneud â rhaglen proffil uchel a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru. Rydym yn rhagweld y gallai cwmpas defnyddioldeb y cyhoeddiad hwn fod yn bellgyrhaeddol. Rhagwelir y bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill, a’r cyhoedd, i ddod i ddeall y gwahaniaeth y mae gwasanaethau Dechrau'n Deg yn gwneud yng Nghymru.

Cywirdeb

Er ei fod yn ddefnyddiol, nid yw data gweinyddol wedi'i gynllunio at ddibenion ymchwil a gall fod yn dueddol o gael problemau anghysondeb o ran cofnodi, data coll neu anghywir a thrawsgrifio gwallau wrth symud o systemau papur i systemau recordio electronig.

Nid yw'r dadansoddiad hwn yn cynnwys Ystadegau Gwladol, ond gall ymwneud ag allbynnau Ystadegau Gwladol a serch hynny bydd wedi bod yn destun ystyriaeth ofalus a gwirio manwl cyn ei gyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth am ystadegau swyddogol ac Ystadegau Gwladol ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cafodd y cyhoeddiad hwn ei baratoi ar y cyfle cynharaf posibl er mwyn darparu canfyddiadau cychwynnol o ddata Dechrau'n Deg a gynhwysir yn y gronfa ddata SAIL. Y nod yw darparu mewnwelediadau cychwynnol i'r cynllun Dechrau'n Deg gan ddefnyddio dull cysylltu data, a man cychwyn defnyddiol ar gyfer ymchwil bellach ond sydd hefyd yn ddefnyddiol.

Oherwydd diweddariadau rheolaidd i'r data a gynhwysir yn y gronfa ddata SAIL, byddai'n bosibl ailadrodd y dadansoddiad i gynnwys canlyniadau am flynyddoedd ychwanegol yn y dyfodol. Cafodd y gwaith dadansoddi a ddangoswyd ei gwblhau gan ddefnyddio data a oedd ar gael ym mis Gorffennaf 2019.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael fel adroddiad ar-lein i sicrhau'r effaith a'r effeithlonrwydd mwyaf posibl gan ddefnyddio gwasanaethau data agored Llywodraeth Cymru.

Mae'r brîff tystiolaeth hwn yn seiliedig ar ddata gweinyddol dienw wedi'i gysylltu'n ddiogel ac sydd wedi'i gadw yn Nghronfa Ddata SAIL. O ganlyniad, nid yw'n bosibl eto sicrhau bod y data ar gael ar StatsCymru neu rywle arall. Fodd bynnag, os hoffech ddadansoddi'r data hwn yn y dyfodol; cysylltwch â ni trwy e-bostio UYDG.Cymru@llyw.cymru

Cymharu a chydlyniant

Ac yntau'n ddadansoddiad untro ar gyfer un awdurdod lleol yng Nghymru, mae cyfleoedd cymharu â gwaith dadansoddi arall yn gyfyngedig. Nid ydym yn bwriadu diweddaru'r adroddiad hwn yn rheolaidd. Serch hynny, bydd gwaith dadansoddi pellach yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio'r un dull ond gan ddarparu canlyniadau ar gyfer nifer uwch o awdurdodau lleol.

Fel y nodwyd uchod, ac fel y byddai disgwyl oherwydd y ffordd y mae'r rhaglen yn cael ei thargedu, mae gwahaniaethau sylweddol o ran nodweddion cymdeithasol-ddemograffig rhwng y grŵp Dechrau'n Deg a'r grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg. Er enghraifft, mae'r grŵp Dechrau'n Deg yn cynrychioli grŵp mwy difreintiedig.

Felly dylid ystyried y grŵp nad yw'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg, nid fel grŵp rheoli ystadegol gadarn ond at ddiben darparu'r gymhariaeth orau sydd ar gael yn unig.

Fel y nodwyd uchod, rhoddir esboniad o gryfderau a chyfyngiadau pob un o'r ffynonellau ar gyfer y dadansoddiad hwn, a'r cydlyniad rhyngddynt, mewn adroddiad sydd ar ddod. 

Lles Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru. Mae'r rhain ar gyfer Cymru mwy cyfartal, llewyrchus, gwydn, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg lewyrchus. O dan adran (10) (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael ei ddefnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Y diweddariad nesaf

Mae'r cyhoeddiad hwn yn ddatganiad untro ac ni fydd yn cael ei ddiweddaru. Fodd bynnag, oherwydd diweddariadau rheolaidd i'r data a gynhwysir yn y gronfa ddata SAIL, cyhoeddir dadansoddiad pellach yn y dyfodol, gan ailadrodd y dadansoddiad i gynnwys canlyniadau ar gyfer blynyddoedd ac ardaloedd daearyddol ychwanegol.

10. Cydnabyddiaeth

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

Mae Tony Whiffen (Llywodraeth Cymru) a Laura Herbert (Prifysgol Abertawe), ynghyd ag aelodau eraill y tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi cydweithio i gynhyrchu’r erthygl hon.

11. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Tony Whiffen
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: UYDG.Cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu unrhyw adborth mewn perthynas ag unrhyw elfen o'r adroddiad hwn. Anfonwch eich adborth trwy e-bost i UYDG.Cymru@llyw.cymru.

UYDG Cymru logo