Nododd yr ymchwil hon y ffactorau sy’n dylanwadu fwyaf ar gyflawniad ôl-16 a lluniodd amcangyfrif o’r canlyniad a ragwelir ar gyfer y darparwr ôl-16 o ystyried nodweddion ei ddysgwyr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu mesurau perfformiad allweddol ar gyfer deilliannau dysgwyr mewn addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion, ac mae am sicrhau bod y mesurau hyn yn ddealladwy i’r holl gynulleidfaoedd a’u bod yn gywir. Rhaid i’r mesurau hyn fod yn deg ac yn rhai sy’n adlewyrchu gwahanol nodweddion lleol ac economaidd-gymdeithasol a nodweddion dysgwyr, gan ei bod yn bosibl y byddant yn cael eu defnyddio i greu mesurau perfformiad ar lefel y darparwr. Comisiynwyd LE Wales gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth ar gyfer mireinio ei mesurau cyflawniad ar gyfer addysg ôl-16.
Adroddiadau
Dadansoddiad o ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflawniadau dysgu ôl-16 yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 799 KB
Cyswllt
Semele Mylona
Rhif ffôn: 0300 025 6942
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.