Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n rhoi amcangyfrif o faint yr holl fentrau sy'n gweithredu yng Nghymru ar gyfer 2019.

Prif bwyntiau

  • Roedd 37.6 % o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o fewn mentrau mawr (y rhai sydd â 250 neu fwy o weithwyr), o'i gymharu â 39.9 % ar gyfer y DU cyfan.
  • Ers 2003 bu lleihad o 4.0 pwynt canran yng nghyfran y gyflogaeth yn y band maint cyflogaeth fwyaf yng Nghymru.
  • Roedd tua 0.5 % o fentrau byw yng Nghymru ddim yn eiddo i’r DU. Cyfrif y fentrau yma 14.3% o’r gyflogaeth, i fyny 0.3 % dros y flwyddyn.
  • Roedd amrywiad sylweddol rhwng sectorau diwydiant, gyda swyddi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a pysgota eu dominyddu gan ficrofusnesau (89.5 %) a chyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu yn canolbwyntio yn y band maint mwyaf (50.3 %).
  • Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol gyda’r gyfran fwyaf o gyflogaeth yn y band maint mwyaf oedd Casnewydd (51.4%) a Caerdydd (49.8%) a’r awdurdod lleol gyda’r canran lleiaf oedd Powys (19.3 %).

Adroddiadau

Dadansoddiad maint o fusnesau gweithredol, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 661 KB

PDF
Saesneg yn unig
661 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.