Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhwng 2011/12 a 2016/17 torrodd Llywodraeth Cymru £22 miliwn o gyllid grant refeniw i'r sector Addysg Bellach (AB), gostyngiad o 7% mewn termau ariannol a 13% mewn termau real. Er bod cyllid ar gyfer darpariaeth amser llawn wedi codi 3% mewn termau real, gwelwyd gostyngiad o 71% dros yr un cyfnod yn y cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiwygiadau sylweddol hefyd i'r fframwaith cyllido ar gyfer addysg ôl-16 yn 2014/15. O ganlyniad, cafodd y cyllid ar gyfer AB rhan-amser ei leihau 37.5% yn 2014/15 a thorrwyd y cyllid a oedd yn weddill eto o 50% arall yn 2015/16. 

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae'r papur ymchwil hwn yn adrodd ar effeithiau gostyngiadau mewn cyllid ar gyfer AB ar ddysgwyr a darpariaeth AB.

Nod yr ymchwil oedd deall sut mae toriadau i gyllid grant AB, a phenderfyniadau dilynol a wnaed gan golegau i weithredu'r toriadau hyn, wedi effeithio ar ddysgwyr AB a mynediad cyfartal i AB ymhlith grwpiau amrywiol o ddysgwyr.

Pa ddulliau dadansoddi data a ddefnyddiwyd. Cynhaliwyd adolygiad o lenyddiaeth i ddeall effeithiau toriadau i AB. Gwnaed dadansoddiad meintiol o ddata eilaidd o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) i nodi'r tueddiadau yn nifer y dysgwyr yn ôl nodweddion gwarchodedig a nifer yr unigolion mewn sefydliadau AB yn ôl cymhwyster a sector. Dangosodd data eilaidd gan yr Adran Addysg a Sgiliau hefyd y newidiadau yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn dros amser. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfweliadau atodol a grwpiau ffocws gyda staff a myfyrwyr ledled Cymru.

Canfyddiadau allweddol

Gwerth AB

Dangosodd yr adolygiad o lenyddiaeth fod menywod yn ennill premiymau llai na dynion. Credir bod hyn yn rhannol oherwydd bod menywod yn astudio pynciau llai proffidiol. Roedd dynion hefyd yn gweld canlyniadau swyddi mwy cadarnhaol mewn perthynas â thâl, cyfrifoldeb a diogelwch swyddi o gymharu â menywod.

Nodweddion gwarchodedig - canlyniadau ehangach a rhwystrau i AB

Mae llenyddiaeth ansoddol yn awgrymu bod AB yn cael ei hystyried yn ffordd o dorri'r cylch tlodi, ond nid yw hyn bob amser yn wir. Roedd y llenyddiaeth hefyd yn dangos bod AB rhan-amser yn cael ei hystyried yn fwy hygyrch na darpariaeth amser llawn i'r rhai â chyfyngiadau ariannol. Mae hyn yn awgrymu y gallai darpariaeth ran-amser gyfrannu at gau'r bylchau o ran anghydraddoldeb addysgol.

Nodwyd yn yr adolygiad o lenyddiaeth mai prin yw'r llenyddiaeth, ymchwil a’r ystadegau sy'n archwilio sut mae hunaniaeth rywiol yn rhyngweithio â'r nifer sy'n manteisio ar AB. Felly, ychydig a wyddom am nifer yr aelodau o'r gymuned LHDT+ sy'n ymgymryd ag AB yng Nghymru neu'r manteision neu'r anfanteision canfyddedig y mae AB yn eu cynnig i'r grŵp hwn.

Mae’r astudiaethau sydd eisoes ar gael yn awgrymu bod unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol neu grefyddau lleiafrifol yn fwy tebygol o deimlo'n ynysig yn y lleoliad academaidd. Roedd cael staff addysgu a oedd yn ymwybodol o faterion diwylliannol a all godi yn y lleoliad academaidd a modelau rôl ar gyfer myfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol, yn helpu’r unigolion hyn i deimlo’n gynwysedig.

Dangosodd data yn Lloegr ar fyfyrwyr aeddfed fod dros un o bob pump o fyfyrwyr AB dros 25 oed. Yn ogystal, mae cyffredinrwydd nodweddion gwarchodedig ychwanegol yn amrywio gydag oedran. Dangosodd adroddiad arall o Loegr fod cyfran uwch o oedolion mewn colegau AB yn dod o gymuned ethnig leiafrifol neu o golegau i ferched o gymharu â chyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed â'r nodweddion hyn.

Dengys dadansoddiad o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod pobl anabl a oedd yn teimlo bod eu hanabledd yn ‘cyfyngu llawer’ arnynt yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag, mae cyfuniad o ymchwil ac ystadegau pellach yn awgrymu y gallai AB gyfrannu at leihau'r bwlch addysg i bobl anabl, ond mae’r manteision yn ddamcaniaethol sy'n cyfyngu ar y casgliadau y gellir eu gwneud.

Prosesau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r toriadau

Dangosodd cyfweliadau â sefydliadau AB nad oedd gan bob sefydliad yr amser a'r adnoddau i ddefnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau ynghylch sut y dylid gweithredu'r toriadau ariannol.

Fe wnaeth staff o'r colegau AB a gyfwelwyd dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd dull cydgynhyrchiol wrth weithredu'r toriadau, gan weithio gyda cholegau eraill yn y rhanbarth yn ogystal ag undebau.

Roedd rhai colegau wedi ceisio dod yn llai dibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy geisio arallgyfeirio eu ffynonellau cyllido, gan gynnwys archwilio'r cyllid sydd ar gael drwy'r Undeb Ewropeaidd.

Dulliau o weithredu toriadau ar sail yr effaith ar ddysgwyr

Roedd tebygrwydd yn y ffordd y gwnaeth sefydliadau AB yn ymdrin â'r toriadau o safbwynt myfyrwyr drwy, er enghraifft, ddiogelu gwasanaethau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â myfyrwyr neu ystyried priodoldeb darpariaeth amgen (e.e. dysgu ar-lein) pe bai eu darpariaeth eu hunain yn cael ei dileu.

Tynnodd yr holl gyfranogwyr yn y cyfweliad sylw at y ffaith bod dysgwyr rhan-amser yn cael eu heffeithio'n fwy na dysgwyr amser llawn oherwydd ffocws ar barhau i ddarparu cyrsiau penodol a blaenoriaethu'r cwricwlwm amser llawn.

Dulliau o weithredu toriadau ar sail yr effaith ar staff

Dywedodd sawl un o’r rhai a gyfwelwyd eu bod wedi gweithredu'r toriadau gan ddefnyddio dulliau a oedd yn anelu at achosi'r effaith leiaf ar niferoedd staff. Er enghraifft, cynlluniau iawndal i annog gostyngiadau mewn contractau staff a rhoi mwy o amser addysgu i athrawon yn lle cyfrifoldebau ychwanegol nad ydynt yn ymwneud ag addysgu i ddiogelu dosbarthiadau.

Effeithiau canfyddedig y toriadau ar ddysgwyr AB yn ôl nodweddion dysgwyr

Fe wnaeth nifer y dysgwyr rhan-amser ostwng dros amser, gyda'r gostyngiad mwyaf yn y niferoedd yn digwydd yn 2014/15 a 2015/16 – sef y blynyddoedd y gwnaed y toriadau – ond gwelwyd cynnydd bach iawn yn nifer y dysgwyr amser llawn dros yr un cyfnod. Roedd tystiolaeth ansoddol yn awgrymu bod colegau â darpariaeth ran-amser sylweddol yn gweld mwy o effeithiau o'r toriadau cyllid.

Ymhlith dysgwyr canol oed (y rhai rhwng 25 a 59 oed) oedd y nifer fwyaf o ddysgwyr rhan-amser o gymharu ag amser llawn. Gostyngodd myfyrwyr rhan-amser o bob oed rhwng 2013/14 a 2015/16, sy’n awgrymu bod y toriadau i ddarpariaeth ran-amser yn effeithio ar ddysgwyr o bob oed. Fodd bynnag, gan ei bod yn ymddangos bod dysgwyr canol oed a hŷn yn dibynnu ar ddarpariaeth ran-amser yn fwy na dysgwyr iau, gallai hyn awgrymu bod y toriadau hyn yn effeithio'n fwy arnyn nhw.

Ymddengys mai myfyrwyr Asiaidd, Cymysg a Gwyn oedd wedi’u heffeithio fwyaf gan doriadau i ddarpariaeth ran-amser yn 2014/15 a 2015/16, gyda mwy o ostyngiadau mewn dysgwyr rhan-amser yn y grwpiau hyn.

Gostyngodd nifer y dysgwyr rhan-amser benywaidd a gwrywaidd yn 2014/15 a 2015/16. Mae mwy o fenywod rhan-amser na dysgwyr gwrywaidd mewn AB sy'n awgrymu y gallai toriadau i gyllid rhan-amser gael effaith fwy andwyol ar fenywod.

Fe wnaeth nifer y dysgwyr rhan-amser ag anableddau neu anawsterau dysgu hunangofnodedig ostwng rhwng 2013/14 a 2016/17, a gwelwyd y gostyngiad mwyaf rhwng 2014/15 a 2015/16. Gostyngodd nifer y dysgwyr heb anableddau neu anawsterau dysgu hunangofnodedig hefyd rhwng 2013/14 a 2015/16, gyda chynnydd bach yn 2016/17. Fe wnaeth nifer y dysgwyr rhan-amser yn y ddau grŵp ddisgyn yn agos i draean rhwng 2013/14 a 2016/17. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad oedd y toriadau wedi effeithio’n fwy negyddol ar dysgwyr rhan-amser ag anableddau neu anawsterau dysgu hunangofnodedig o gymharu â ddysgwyr rhan-amser heb anableddau neu anawsterau dysgu hunangofnodedig.

Dangosodd y canfyddiadau ansoddol yr effaith anghymesur a gafodd y toriadau i ddarpariaeth ran-amser ar y rhai sy'n profi problemau iechyd meddwl a lles. Nododd sefydliadau AB y gostyngiad yn ansawdd y gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, a oedd yn ymddangos yn broblem p’un a oedd y sefydliadau AB wedi ceisio diogelu'r gwasanaethau hynny rhag toriadau ai peidio.

Roedd y rheini a gyfwelwyd yn cydnabod y gallai toriadau effeithio ar ddysgwyr o gartrefi incwm is gan eu bod yn llai tebygol o allu fforddio ffioedd cyrsiau. Awgrymodd staff AB y gallai profion modd ar gyfer cymorth i fyfyrwyr helpu’r gwasanaethau sydd dal i fod ar gael i gael yr effaith fwyaf.

Canfu dadansoddiadau meintiol fod nifer y dysgwyr mewn AB amser llawn wedi parhau'n gymharol sefydlog ym mhob ALl o gymharu â nifer y dysgwyr rhan-amser rhwng 2013/14 a 2016/17. Nid oedd yn ymddangos bod y toriadau i AB rhan-amser nag eraill wedi effeithio'n fwy negyddol ar ranbarth penodol yng Nghymru (e.e. gogledd, de-ddwyrain etc).

Newidiadau i’r gweithgarwch mewn sefydliadau AB pan wnaed y toriadau

Gostyngodd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn gyson rhwng 2013/14 a 2015/16 sy'n dangos y gallai toriadau mewn cyllid fod wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y staff. Yn anffodus, nid oes data ar gael ar niferoedd staff amser llawn i gymharu hyn yn ei erbyn.

Dangosodd cyfweliadau â staff mewn colegau AB hefyd fod y toriadau wedi arwain at ostyngiadau yng nghyllidebau staff gyda rhai colegau'n cynnig cynlluniau diswyddo, gwirfoddol lle bo hynny'n bosibl. Tynnodd y staff sylw at y ffordd yr oedd hyn weithiau wedi arwain at golli aelodau staff profiadol a mwy o bwysau ar weddill y staff i gyflawni rolau’r gweithwyr a ddiswyddwyd.

Dywedodd y sefydliadau AB a gyfwelwyd eu bod wedi blaenoriaethu diogelu pynciau penodol fel y rhai sy'n gysylltiedig â sgiliau sylfaenol a chyda chysylltiad uniongyrchol â chyfleoedd cyflogaeth. Ystyriwyd bod cyrsiau rhan-amser yn cynnig sgiliau 'meddalach' ac felly nid oedd ganddynt yr un lefel o ddiogelwch pan ddigwyddodd y toriadau.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraethau yn y DU sy'n casglu Ystadegau Swyddogol ar AB i chwilio am gyfleoedd i gynhyrchu dadansoddiadau mwy manwl ar gyfer grwpiau lleiafrifol. Byddai hyn yn caniatáu monitro tueddiadau sy'n aml yn cael eu cuddio wrth grwpio gwahanol hunaniaethau gyda'i gilydd (er enghraifft, cymunedau ethnig lleiafrifol, LHDT+, anabl).

Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol mynd ati i lenwi rhai bylchau allweddol yn y data sydd ar gael er mwyn cael darlun llawnach o effeithiau gostyngiadau mewn cyllid ar grwpiau gwarchodedig penodol, fel a ganlyn:

  • LHDT+: dylai Llywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth ar gyfer grwpiau LHDT+ ochr yn ochr â nodweddion amrywiaeth eraill yn y broses fonitro AB er mwyn gallu archwilio tueddiadau ac effeithiau dros amser ar gyfer y grŵp hwn. Dylai hyn gynnwys effaith toriadau i wasanaethau ymylol ar gyfer grwpiau LHDT+, megis gwasanaethau iechyd meddwl ar y safle.
  • Dosbarth economaidd-gymdeithasol: dylai adrannau polisi ac ymchwilwyr ac ystadegwyr KAS archwilio'r posibiliadau ar gyfer mesur dosbarth economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys mesurau procsi priodol. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer monitro'r bwlch anghydraddoldeb rhwng dosbarthiadau’n fwy cywir ar gyfer asesiadau o gynnydd/gostyngiadau mewn cyllid AB yn y dyfodol. Er enghraifft, derbyn prydau ysgol am ddim neu broffesiwn yr enillydd mwyaf pan oedd y dysgwr ar oedran penodol.
  • Cymunedau ethnig lleiafrifol: dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a phartneriaid eraill, weithio i greu seilwaith data priodol a chytundebau rhannu data i ganiatáu monitro effaith toriadau ar ddysgwyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn gadarn. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio profiadau dysgwyr rhan-amser anabl yng Nghymru, gan gynnwys y rhyngweithio rhwng eu hiechyd a'u haddysg, ynghyd â rhwystrau i gael mynediad at AB a'i chwblhau AB.

Rhyw: dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad o'r pynciau a astudir mewn AB a’u mapio yn erbyn canlyniadau ariannol, gan reoli amrywiadau pwnc. Gallai hyn ddatgelu a yw gwahaniaethau o ran enillion mewn AB yn gysylltiedig â dewisiadau pwnc. Gallai hyn o bosibl ehangu'r sylfaen dystiolaeth ynghylch y cysylltiad rhwng rhywedd a dewisiadau pwnc a'r effaith ddilynol ar enillion.

Anabledd: er mwyn deall yn well y ffyrdd penodol y gallai toriadau mewn cyllid effeithio ar ddysgwyr anabl, dylai Llywodraeth Cymru archwilio profiadau dysgwyr rhan-amser anabl yng Nghymru gan ystyried y cysylltiad rhwng eu hiechyd a'u haddysg, ynghyd â'r rhwystrau a brofir wrth gael mynediad at AB a chwblhau AB.

LHDT+: dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil ansoddol fanwl i ymchwilio i weld a oes unrhyw faterion o ran mynediad a chyfranogiad ar gyfer y boblogaeth LHDT+ sy'n mynychu AB a'r effaith y gallai toriadau AB fod wedi'i chael ar y grwpiau hyn.

Dylai sefydliadau AB sicrhau modelau rôl o gymunedau ethnig lleiafrifol ac ymdrin â materion diwylliannol ac integreiddio mewn hyfforddiant staff yn eu sefydliad er mwyn helpu cymunedau ethnig lleiafrifol/pobl grefyddol mewn AB i deimlo’n gynwysedig.

Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil fanwl i ymchwilio i'r tueddiadau ymrestru ar gyfer cyrsiau rhan-amser o gymharu â chyrsiau amser llawn i'r rhai o gymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn deall a yw'r toriadau i gyrsiau rhan-amser wedi effeithio'n anghymesur ar grwpiau ethnig lleiafrifol penodol a'r rhesymau posibl y tu ôl i hyn.

Dylai Llywodraeth Cymru syntheseiddio'r data presennol sydd ar gael neu gomisiynu arolwg ar ddysgwyr aeddfed yng Nghymru gyda dadansoddiadau yn ôl astudiaethau ffurfiol, gan gynnwys dull astudio (rhan-amser ac amser llawn).

Dylid ystyried cyfeirio at lwybrau cyllido amgen i gefnogi sefydliadau AB o ganlyniad i’r toriadau a dileu’r Gronfa Cymdeithasol Ewropeaidd yng Nghymru er mwyn sicrhau nad yw’r newidiadau i hyblygrwydd astudio yn cynnal nac yn ehangu’r anghydraddoldebau ar gyfer y grwpiau lleiafrifol na fyddent fel arall yn cael mynediad i addysg.

Dylid defnyddio data ansoddol i ymchwilio ymhellach i effaith nodweddion gwarchodedig lluosog a statws economaidd-gymdeithasol a sut y maent yn croestorri i ddylanwadu ar brofiad dysgwyr unigol.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Marks, Aimee; Punton, Rachael; Davis, Rhian; Brodie, Ellie a Nickson, Sofi

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Joanne Coates
Ebost: RhYF.IRP@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 74/2022
ISBN digidol 978-1-80364-532-2

Image
GSR logo