Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae Cymru wedi cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu.
Mae Cymru ymhell ar y blaen yn y DU, ac mae ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop.
Mae Gogledd Iwerddon yn 9fed, Lloegr yn 11eg a'r Alban yn 15fed ymhlith y 48 o wledydd sydd wedi cael eu cynnwys wrth gymharu'r cyfraddau.
Roedd ‘Global Recycling League Table - Phase One Report’ yn edrych ar sut hwyl y mae 48 o wledydd yn ei chael wrth ailgylchu, gan gynnwys y gwledydd hynny sy'n cofnodi'r cyfraddau ailgylchu uchaf, a llawer o economïau mwyaf y byd.
Mae'n cael ei gyhoeddi heddiw ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd.
Dywedodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru:
Mae'n newyddion gwych bod Cymru wedi dringo i fod yn ail yn y byd am ailgylchu. Mae hynny'n dangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd targedau uchelgeisiol, gan wneud hynny gyda chymorth y buddsoddiad sydd a wnaed yn ein seilwaith.
Diolch i ymdrechion aelwydydd a gweithleoedd ledled Cymru, rydyn ni wedi newid o genedl oedd â chyfraddau ailgylchu isel iawn pan ddechreuodd datganoli i un o wledydd mwyaf blaenllaw'r byd sydd ymhell ar y blaen i weddill y DU.
Mae'r hyn a gyflawnwyd yn eiddo i bob un ohonom, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wella hyd yn oed mwy ar gyfraddau ailgylchu. Ein targed nesaf yw cyrraedd y brig.
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd:
Mae hyn yn newyddion gwych a thrwy'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn barod, rydyn ni'n anelu at herio'r wlad sydd wedi cyrraedd y brig.
Drwy fabwysiadu'r dulliau llwyddiannus o ailgylchu gwastraff y cartref, a'u cyflwyno yn ein gweithleoedd, rydyn ni hefyd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac yn dod â budd i'r economi drwy gael gafael ar gyflenwad o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu sy'n rhai uchel eu hansawdd.
Mae hynny mor bwysig i Gymru oherwydd ei fod yn golygu ein bod yn casglu deunyddiau eildro o ansawdd uchel sy'n cael eu bwydo'n ôl i'r economi ac yn helpu i greu swyddi, gyda chanran uchel o'r deunyddiau hynny'n aros yng Nghymru a'r DU yn ehangach i gael ei phrosesu.
Mae hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur drwy leihau'n hallyriadau carbon ac osgoi'r angen i dynnu deunyddiau crai o'r ddaear a'r difrod y mae hynny'n gallu'i achosi.
Dw i'n sôn yn aml am y ffordd Gymreig o wneud pethau, ac mae'r ymdrech tîm sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn heddiw yn un y dylai pob un fod yn haeddiannol falch ohono – da iawn Gymru!"
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr AWD Group Ltd, Alun Wyn Davies:
Rydyn ni'n cymryd 300 tunnell o blastigau anhyblyg cymysg yr wythnos ac rydyn ni'n falch o'r cyfraniad rydyn ni'n ei wneud tuag at ein targedau ailgylchu yng Nghymru.
Mae glanhau a phrosesu'r deunydd hwn yn waith caled, ond mae ailgylchu'r plastigau hyn yn bwysig oherwydd byddai'n hanesyddol wedi mynd i safleoedd tirlenwi ac ni fyddai'n dadelfennu am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.
Rydyn ni’n falch o gyflogi 38 aelod o staff a byddwn yn cyflwyno ail shifft yn fuan a fydd yn cyflogi 22 o swyddi ychwanegol. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yma yn dod o Gastell-nedd Port Talbot. Dw i'n dod o'r ardal fy hun felly mae cyflogi pobl leol yn bwysig i fi, yn enwedig gyda'r sefyllfa bresennol yn Tata.
Mae Cymru wirioneddol ar y map gyda'r ffigurau ailgylchu hyn, ac mae hynny'n gyflawniad aruthrol.